Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer disgyblion lle mae awdurdodau lleol yn gwybod eu bod yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol yr gyfer Medi 2020 i Awst 2021.

Mae’r ystadegau hyn ar gyfer ddisgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (disgyblion EOTAS) sy'n cael eu hariannu gan awdurdod lleol. Mae’r data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/21 (Medi 2020 hyd at Orffennaf 2021) yn seiliedig ar ddata ar gyfer disgyblion y mae awdurdodau lleol yn gwybod eu bod yn derbyn rhan o’u haddysg y tu allan i'r ysgol yn ystod yr wythnos 19 i 23 Ebrill 2021.

Yn y data hwn, mae yna ddisgyblion y mae eu prif addysg y tu allan i'r ysgol. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif eu hamser addysg mewn wythnos yn cael ei ddarparu y tu allan i ysgol, e.e. mewn Uned Cyfeirio Disgyblion neu Addysg Gartref Ddewisol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 2,186 o ddisgyblion wedi’u cofnodi eu bod yn cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, gyda 1,792 o’r rhain yn derbyn eu prif addysg y tu allan i’r ysgol.
  • Roedd 3.8 ddisgyblion allan o bob 1,000 yn derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol yn 2021. Dyma’r gyfradd uchaf ers 2011/12 lle'r oedd cyfradd o 2.2 disgybl allan o bob 1,000.
  • Roedd 7 allan o bob 10 o ddisgyblion oedd â’u prif addysg heblaw yn yr ysgol yn fechgyn.
  • Unedau Cyfeirio Disgybl (UCD) sy’n parhau i fod y ddarpariaeth addysgol a ddefnyddir gan amlaf ar gyfer disgyblion sy’n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol. Roedd 45.9% o gofrestriadau ar gyfer y disgyblion hyn mewn UCD.
  • Roedd gan ychydig o dan 9 o bob 10 disgybl sy’n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol rywfaint o ddarpariaeth AAA (Anghenion Addysgol Arbennig).
  • Roedd 40% o ddisgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol yn gymwys am brydau ysgol am ddim.
  • Roedd 10.4 disgybl 5 i 15 oed allan o bob 1,000 yn cael eu haddysgu gartref. Dyma’r gyfradd uchaf ers 2011/12, gyda chynnydd cyson ers hynny. Yn 2011/12 roedd 2.7 disgybl 5 i 15 oed allan o bob 1,000 yn cael eu haddysgu gartref.

Nodyn ar ansawdd y data

Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â chyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae’r data mwyaf diweddar yn ymwneud  â'r sefyllfa ym mis Ebrill 2021. Byddai'r cyfrifiad fel arfer yn digwydd ym mis Ionawr. Fodd bynnag, roedd y cloi cenedlaethol rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn golygu bod dyddiad y cyfrifiad wedi'i ohirio i 20 Ebrill 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau. Cesglir data mewn ffurflen electronig a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru trwy DEWi, system drosglwyddo data ar-lein diogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gwahanol gamau o ddilysu awtomataidd a gwirio synnwyr yn cael eu cynnwys yn y broses i sicrhau data o ansawdd uchel.

Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, Medi 2020 i Awst 2021: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 31 KB

ODS
31 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.