Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data ar ddisgyblion sy'n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), gan gynnwys mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau). Mae'n cynnwys data yn ôl oedran, rhyw a'r math o ddarpariaeth.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn cyfeirio at flynyddoedd academaidd, er enghraifft 2025 i 2026. Mae hyn yn cwmpasu’r cyfnod o fis Medi 2025 i fis Awst 2026, oni nodir fel arall.

Gweler yr adroddiad ansawdd ar gyfer:

  • gwybodaeth am effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar y casgliad data hwn
  • y meini prawf ar gyfer EOTAS a'r categorïau o ddarpariaeth EOTAS

Prif bwyntiau

  • Mae 7.1 o bob 1,000 o ddisgyblion yn cael rhyw fath o ddarpariaeth EOTAS, i fyny o 6.5 yn 2024 i 2025; i fyny o uchafbwynt blaenorol o 6.5 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2024 i 2025.
  • Mae 14.1 o bob 1,000 o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael eu haddysgu'n bennaf y tu allan i'r ysgol, i fyny o 14.0; bu mwy o ddisgyblion yn gymesur yn gyson wedi cael eu haddysgu'n bennaf y tu allan i'r ysgol sy'n gymwys ar gyfer PYD ers 2009 i 2010.
  • Mae 55.6 o bob 1,000 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu'n bennaf y tu allan i'r ysgol, i fyny o 47.8.
  • Cyfradd y disgyblion sy'n cael addysg gartref ddewisol yn 2025 i 2026 yw 17.0 o bob 1,000 o ddisgyblion, i fyny o 1.6 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2009 i 2010.

Disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS)

Yn 2025 i 2026 roedd 3,221 o ddisgyblion yn cael rhyw fath o ddarpariaeth EOTAS, boed hynny'n brif ddarpariaeth neu'n ddarpariaeth atodol iddynt. Dyna 7.1 o bob 1,000 o ddisgyblion, o gymharu â 6.5 yn 2024 i 2025.

Mae 2,792 o ddisgyblion EOTAS yn cael eu haddysgu'n bennaf y tu allan i'r ysgol, 6.1 o bob 1,000 o ddisgyblion, i fyny o 5.8 yn 2024 i 2025.

Canran y disgyblion EOTAS sy'n cael eu haddysgu'n bennaf y tu allan i'r ysgol yw 86.7%.

Ffigur 1: cyfradd fesul 1,000 o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol, 2009 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos tuedd gynyddol hirdymor yn y gyfradd fesul 1,000 o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu'n bennaf y tu allan i'r ysgol, o 2009 i 2010 ymlaen. Mae cynnydd sydyn o 2022 i 2023 ymlaen. Mae gostyngiad sydyn i'w weld yn y gyfradd yn 2019 i 2020, sy'n debygol o fod oherwydd data anghyflawn a gyflwynwyd yn ystod cyfnod COVID-19.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Disgyblion EOTAS a CYBLD

Darpariaeth

Ffigur 2: canran cofrestriadau disgyblion, yn ôl darpariaeth addysgol, 2025 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 2: Siart bar llorweddol yn dangos canran cofrestriadau disgyblion yn ôl y math o ddarpariaeth addysgol, 2025 i 2026. Y gyfran fwyaf yw uned cyfeirio disgyblion, ar 43.0%.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Disgyblion EOTAS

Mae’r cyfrannau mwyaf o gofrestriadau yn y canlynol:

  • uned cyfeirio disgyblion (43.0%)
  • ysgol annibynnol (16.4%)
  • dysgu unigol (13.6%)

Addysg ddewisol yn y cartref

Ffigur 3: cyfradd fesul 1,000 o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol, 2009 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell yn dangos tuedd gynyddol hirdymor yn y gyfradd fesul 1,000 o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol, o 2009 i 2010 ymlaen.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Disgyblion EOTAS

Mae rhieni'n hysbysu eu hawdurdod lleol yn wirfoddol eu bod yn addysgu eu plant gartref, oni bai eu bod wedi tynnu eu plentyn allan o'r ysgol. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data'n cynnwys yr holl blant sy'n cael addysg gartref ddewisol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar addysg ddewisol yn y cartref.

Ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026, roedd yn hysbys bod 7,917 o blant yn cael addysg gartref ddewisol. Nid yw'r nifer hwn wedi'i gynnwys yng nghyfanswm nifer y disgyblion EOTAS yn gynharach yn y datganiad hwn. Cyfradd y disgyblion sy'n cael addysg gartref ddewisol yn 2025 i 2026 yw 17.0 o bob 1,000 o ddisgyblion, i fyny o 1.6 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2009 i 2010.

Ceredigion oedd â'r gyfradd uchaf, sef 33.8 o bob 1,000 o ddisgyblion. Yn 2025 i 2026, roedd y gyfradd ar gyfer Ceredigion wedi cyrraedd:

  • 33.1 o bob 1,000 o ddisgyblion benywaidd
  • 34.5 o bob 1,000 o ddisgyblion gwrywaidd

Blaenau Gwent oedd â'r twf cyfrannol uchaf, gyda chynnydd i dros 36 gwaith y gyfradd o ddisgyblion a oedd yn cael eu haddysgu gartref yno yn 2009 i 2010.

Yr oedran mwyaf cyffredin ymhlith disgyblion sy'n cael addysg gartref, yn ôl nifer y disgyblion, yw 15. Yn 2025 i 2026 roedd:

  • 49.6 o bob 1,000 o ddisgyblion benywaidd 15 oed yn cael addysg gartref ddewisol
  • 40.6 o bob 1,000 o ddisgyblion gwrywaidd 15 oed yn cael addysg gartref ddewisol

Manylion cyswllt

Ystadegau ysgolion
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 68/2026

Image