Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 7 Medi 2020 i 18 Mehefin 2021.

O 22 Chwefror dechreuodd ysgolion agor ar gyfer disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen (disgyblion 3 i 7 oed) gyda phresenoldeb y disgyblion hynny yn cael eu cyflwyno'n raddol dros yr wythnos mewn rhai awdurdodau lleol. O 15 Mawrth, roedd gweddill plant ysgol gynradd a phlant yn mewn blynyddoedd cymhwyster yn gallu dychwelyd i ddysgu ar safle'r ysgol. O 12 Ebrill, roedd yr holl ddisgyblion a oedd yn weddill yn gallu dychwelyd i ddysgu yn yr ysgol.

Mae'r ffigurau yn y datganiad hwn yn rhai dros dro ac mae cyhoeddiadau diweddar ynghylch dychwelyd yr ysgolion yn dilyn hanner tymor mis Chewfror yn effeithio arnynt.

Bydd y data o 7 Mehefin ymlaen yn cael ei ddiweddaru yn ein datganiad ar 30 Mehefin.

Nodyn: Mae’r ffigurau yn y datganiad hwn o 24 Mai ymlaen wedi’u effeithio oherwydd nad yw mwyafrif y disgyblion ym mlynyddoedd 11 a 13 bellach yn bresennol yn yr ysgol. Nid ydynt yn bresennol oherwydd eu bod wedi gorffen casglu eu tystiolaeth ar gyfer eu graddau a aseswyd gan athrawon tuag at lefel TGAU a Safon Uwch.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 89% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 7 Mehefin i 11 Mehefin. Mae'r wybodaeth hon dros dro a bydd yn cael ei hadolygu ar 30 Mehefin. Nid oes unrhyw ddata ar gyfer yr wythnos rhwng 31 Mai a 4 Mehefin oherwydd gwyliau'r ysgol.
  • Dros yr wythnos 7 Mehefin i 11 Mehefin nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng canran y merched a'r bechgyn a oedd yn bresennol yn yr ysgol. Rhwng 4 Ionawr a 12 Mawrth, mae bechgyn wedi bod yn llai tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol na merched er bod y gwahaniaeth fel arfer yn llai nag 1.5 pwyntiau canran.
  • Ymhlith disgyblion oedran ysgol statudol dros yr wythnos 7 Mehefin i 11 Mehefin, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar eu huchaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 2 (94%) ac ar eu hisaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 11 (29%).
  • Ymhlith disgyblion Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 gostyngodd presenoldeb yn sylweddol i 29% a 22% yn y drefn honno gan fod y disgyblion hyn wedi gorffen crynhoi'r dystiolaeth ar gyfer eu graddau a aseswyd gan athrawon. O ganlyniad, bu cynnydd o bron i ddeg gwaith yn y sesiynau a gollwyd oherwydd absenoldeb astudio o 739 ar gyfer yr wythnos Mai 17 i Fai 21 i 7,721 ar gyfer yr wythnos rhwng 7 Mehefin ac 11 Mehefin.
  • Roedd mwyafrif yr holl sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 7 Mehefin i 11 Mehefin oherwydd bod yr ysgol ar gau i bob disgybl (cod “#”). Mae hyn oherwydd diwrnod hyfforddiant mewn swydd mewn rhai ysgolion. Mae'r data yn y tabl hwn yn cyfri nifer y sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
  • Mae canran uwch o ddisgyblion yn bresennol yn ystod y cyfnod cyfyngu symud rhwng Rhagfyr 2020 a Chwefror 2021 nag ar unrhyw adeg yn ystod y cyfyngiad symud cyntaf rhwng Mawrth a Mehefin 2020. Gellir dod o hyd i ddata o'r cyfnod cyntaf yn y datganiad ar bresenoldeb mewn lleoliadau awdurdod lleol.
Image
Ers mis Chwefror 2021 mae disgyblion sy'n bresennol bob dydd wedi cynyddu'n araf, gan gyrraedd 94% ar 14 Ebrill 2021.

Ansawdd

Gweler y adroddiad ansawdd am wybodaeth bellach.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae wedi dod i’n sylw nad yw pob ysgol yng Nghymru yn parhau i gofnodi presenoldeb yn electronig ar ôl symud i ddysgu ar-lein. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthuso effaith hyn ar y data a gyhoeddwyd. Gall unrhyw ddiwygiadau i'r data yn y dyfodol fod yn fwy arwyddocaol nag sydd wedi digwydd hyd yn hyn.

Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Mae disgyblion sy’n dysgu gartref oherwydd Covid-19, gan gynnwys dysgu ar-lein, neu nad ydynt fel arall ar dir yr ysgol, yn cael eu cyfrif fel ‘ddim yn bresennol’ yn y cyd-destun hwn. Mae'r casgliad hwn yn caniatáu inni fesur nifer y disgyblion sy'n gwneud ac nad oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Cyhoeddiadau eraill a fydd yn effeithio ar ddata hanesyddol

Ar 19 Hydref 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog cyfnod atal byr pythefnos dros Gymru, gan ddechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn gorffen ddydd Llun 9 Tachwedd. Roedd y cyfnod hwn yn cwmpasu'r gwyliau o’r hanner tymor ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru a'r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 2 Tachwedd. Yn ystod yr wythnos hon, parhaodd mwyafrif helaeth y disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch â'u dysgu o gartref.

Ar 10 Rhagfyr 2020 cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai pob ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein am wythnos olaf y tymor cyn y Nadolig. Caeodd llawer o ysgolion cynradd yn ystod wythnos olaf y tymor hefyd. O ganlyniad i hyn, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn yr ysgol am yr wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr 2020 yn llawer is na'r wythnosau blaenorol.

Ar 17 Rhagfyr 2020 cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol yn raddol ym mis Ionawr. Dechreuodd y tymor newydd ar 4 Ionawr 2021 er y bydd llawer o ysgolion wedi trefnu diwrnod HMS y diwrnod hwnnw. Roedd disgwyl i fwyafrif y disgyblion ddychwedlyd i'r ysgol ar 11 Ionawr gyda dychweliad llawn erbyn 18 Ionawr fan bellaf. Diweddarwyd y cynlluniau hyn ar 4 Ionawr pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y dylai pob ysgol a choleg symud i ddysgu ar-lein tan 18 Ionawr 2021. Yn dilyn hynny, estynnwyd y cyfnod hwn o ddysgu ar-lein tan 12 Chwefror 2021.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad, diffiniadau o blant bregus ac amseriad newidiadau i reolau cloi i lawr sy'n cael effaith ar bresenoldeb yn yr ysgol.

Cefndir a chyd-destun

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf 2020. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi 2020.

Ysgolion: canllawiau coronafeirws

O ddydd Iau 5 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cryno ar achosion o covid-19 sy'n gysylltiedig ag ysgolion a cholegau. Mae'r data hwn yn gyd-destun defnyddiol i'w osod ochr yn ochr â'r wybodaeth yn y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Disgyblion yn bresennol mewn ysgolion a gynhelir: 7 Medi 2020 i 18 Mehefin 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 80 KB

ODS
80 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.