Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 7 Medi i 20 Tachwedd 2020.

Mae’r datganiad nawr yn cynnwys tablau newydd yn dangos disgyblion yn bresennol yn ôl rhyw a grŵp blwyddyn.

Ansawdd

Mae'r wybodaeth hon yn adolygu'r holl ystadegau presenoldeb disgyblion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ers 7 Medi 2020. Gweler y adroddiad ansawdd am wybodaeth bellach.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Mae disgyblion sy’n dysgu gartref oherwydd COVID-19, gan gynnwys dysgu ar-lein, neu nad ydynt fel arall ar dir yr ysgol, yn cael eu cyfrif fel ‘ddim yn bresennol’ yn y cyd-destun hwn. Mae'r casgliad hwn yn caniatáu inni fesur nifer y disgyblion sy'n gwneud ac nad oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Ar 19 Hydref 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog cyfnod atal byr pythefnos dros Gymru, gan ddechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn gorffen ddydd Llun 9 Tachwedd. Roedd y cyfnod hwn yn cwmpasu'r gwyliau o’r hanner tymor ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru a'r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 2 Tachwedd. Yn ystod yr wythnos hon, parhaodd mwyafrif helaeth y disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch â'u dysgu o gartref.

Nid yw'r ffigurau ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 2 Tachwedd yn cynnwys unrhyw ddata ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 9 neu'n uwch gan nad oedd disgwyl iddynt fod yn bresennol yn yr ysgol. Mae disgyblion ym mlynyddoedd 9 neu'n uwch yn tueddu i fod â chyfraddau presenoldeb is na grwpiau oedran iau a gall y ffigurau ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau 2 Tachwedd fod ychydig yn uwch o ganlyniad.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 87.3% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 16 Tachwedd i 20 Tachwedd. Gwybodaeth dros dro yw hwn a fe fydd yn cael ei ddiwygio ar 25 Tachwedd.
  • Cynyddodd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn gyson o ddechrau'r tymor ac roedd ar ei uchaf o 88% yn yr wythnos yn dechrau 5 Hydref, cyn gostwng yn yr wythnosau yn arwain at hanner tymor.
  • Mae bechgyn yn llai tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol na merched. Mae hyn yr un peth â'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol lle mae gan fechgyn gyfraddau presenoldeb is. Mae'r gwahaniaeth fel arfer yn llai nag 1 pwynt canran.
  • Mae disgyblion ysgolion cynradd yn fwy tebygol o fod yn bresennol na disgyblion ysgolion uwchradd
  • Ymhlith disgyblion statudol oed ysgol, disgyblion ym mlwyddyn 11 yw'r lleiaf tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol.
Image
Mae canran y disgyblion sy'n bresennol bob dydd yn gyson ar oddeutu 87-88 y cant, ar ôl tyfu'n gyflym ar ddechrau mis Medi yn ystod agoriad graddol ysgolion.

Cefndir a chyd-destun

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf 2020. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi.

Cyhoeddwyd canllawiau gweithredol i ysgolion o dymor yr hydref ar 13 Gorffennaf ac mae'n cynnwys canllawiau ar gofnodi presenoldeb.

Ar ddydd Iau 5 Tachwedd, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad cryno ar achosion o COVID-19 sy'n gysylltiedig ag ysgolion a cholegau. Mae'r data hwn yn gyd-destun defnyddiol i'w osod ochr yn ochr â'r wybodaeth yn y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Disgyblion yn bresennol mewn ysgolion a gynhelir: 7 Medi i 20 Tachwedd 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 28 KB

ODS
28 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.