Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 7 Medi i 4 Rhagfyr 2020.

Ni chyhoeddir y datganiad hwn ar 30 Rhagfyr 2020 na 6 Ionawr 2021. Bydd cyhoeddiad olaf 2020 ar 23 Rhagfyr. Bydd y cyhoeddiad yn ailddechrau ar 13 Ionawr 2021.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys tablau newydd sy'n dangos disgyblion sy'n bresennol yn ôl rhyw, grŵp blwyddyn, rhesymau dros absenoldeb ac amcangyfrif ar gyfer presenoldeb ar sail sy'n gymharol â blynyddoedd blaenorol.

Ansawdd

Mae'r wybodaeth hon yn adolygu'r holl ystadegau presenoldeb disgyblion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ers 7 Medi 2020. Gweler y adroddiad ansawdd am wybodaeth bellach.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Mae disgyblion sy’n dysgu gartref oherwydd COVID-19, gan gynnwys dysgu ar-lein, neu nad ydynt fel arall ar dir yr ysgol, yn cael eu cyfrif fel ‘ddim yn bresennol’ yn y cyd-destun hwn. Mae'r casgliad hwn yn caniatáu inni fesur nifer y disgyblion sy'n gwneud ac nad oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Ar 19 Hydref 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog cyfnod atal byr pythefnos dros Gymru, gan ddechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn gorffen ddydd Llun 9 Tachwedd. Roedd y cyfnod hwn yn cwmpasu'r gwyliau o’r hanner tymor ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru a'r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 2 Tachwedd. Yn ystod yr wythnos hon, parhaodd mwyafrif helaeth y disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch â'u dysgu o gartref.

Nid yw'r ffigurau ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 2 Tachwedd yn cynnwys unrhyw ddata ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 9 neu'n uwch gan nad oedd disgwyl iddynt fod yn bresennol yn yr ysgol. Mae disgyblion ym mlynyddoedd 9 neu'n uwch yn tueddu i fod â chyfraddau presenoldeb is na grwpiau oedran iau a gall y ffigurau ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau 2 Tachwedd fod ychydig yn uwch o ganlyniad.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 79% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 30 Tachwedd i 4 Rhagfyr. Gwybodaeth dros dro yw hwn ac fe fydd yn cael ei ddiwygio ar 16 Rhagfyr.
  • Cynyddodd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn gyson o ddechrau'r tymor ac roedd ar ei uchaf o 88% yn yr wythnos yn dechrau 5 Hydref, cyn gostwng yn yr wythnosau yn arwain at hanner tymor.
  • Ar ôl hanner tymor roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar ei uchaf o 90% yn yr wythnos yn dechrau 9 Tachwedd. Hon oedd yr wythnos gyntaf ar ôl hanner tymor yr oedd yn ofynnol i bob disgybl ei mynychu a dyma hefyd ddiwedd y cyfnod atal byr yng Nghymru. Mae'r gyfradd wedi gostwng ers hynny.
  • Mae bechgyn yn llai tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol na merched. Mae hyn yr un peth â'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol lle mae gan fechgyn gyfraddau presenoldeb is. Mae'r gwahaniaeth fel arfer yn llai nag 1 pwynt canran.
  • Mae disgyblion ysgolion cynradd yn fwy tebygol o fod yn bresennol na disgyblion ysgolion uwchradd
  • Ymhlith disgyblion statudol oed ysgol, disgyblion ym mlwyddyn 11 yw'r lleiaf tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol.
  • Roedd bron i hanner yr holl sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 30 Tachwedd a 4 Rhagfyr naill ai oherwydd dysgu o bell (cod “[“) neu absenoldeb a gyfarwyddwyd gan yr ysgol (cod “Y”). Mae'r data yn y tabl hwn yn cyfri nifer y sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
  • Mae Tabl 7 yn dangos bod presenoldeb dyddiol wedi'i gyfrifo i fod yn gymharol â'r hyn a gyhoeddwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'n dangos bod presenoldeb wedi amrywio o 86% i 93% ers 9 Tachwedd gyda chyfartaledd o 91%. Dros y flwyddyn academaidd 2018-19 roedd cyfartaledd presenoldeb yn 94%.
Image
Mae canran y disgyblion sy'n bresennol bob dydd yn gyson ar oddeutu 87-88 y cant, ar ôl tyfu'n gyflym ar ddechrau mis Medi yn ystod agoriad graddol ysgolion.

Cefndir a chyd-destun

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf 2020. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi.

Cyhoeddwyd canllawiau gweithredol i ysgolion o dymor yr hydref ar 13 Gorffennaf ac mae'n cynnwys canllawiau ar gofnodi presenoldeb.

Ar ddydd Iau 5 Tachwedd, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad cryno ar achosion o COVID-19 sy'n gysylltiedig ag ysgolion a cholegau. Mae'r data hwn yn gyd-destun defnyddiol i'w osod ochr yn ochr â'r wybodaeth yn y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Disgyblion yn bresennol mewn ysgolion a gynhelir: 7 Medi i 4 Rhagfyr 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 38 KB

ODS
38 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.