Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgyblion Blwyddyn 11 o bob rhan o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn ysgol haf breswyl a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Sylfaen Seren.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ysgol haf, sy'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhan o raglen beilot sy'n gweithio gyda phrifysgolion yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Mae'n rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i ehangu'r partneriaethau ysgolion haf presennol a sefydlu cynlluniau peilot newydd mewn sefydliadau yng Nghymru.

Thema'r gweithdy 3 diwrnod yn Aberystwyth yw Llythrennedd Hinsawdd, a sut y gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at yr agenda hinsawdd. Yn ogystal â chael darlithoedd ar hinsawdd gan ddarlithwyr arbenigol, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu creadigol ar thema agenda'r hinsawdd, megis gweithdai celf, ioga a sesiynau gwneud ffilmiau.

Mae rhaglen Seren ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion gwladol ym mlynyddoedd 8 i 13 ledled Cymru. Mae'r dysgwyr yn cael eu nodi gan eu hysgolion a'u colegau fel y rhai mwyaf disglair, waeth beth fo'u cefndir, ac mae'r rhai sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y rhaglen yn cael arweiniad, cymorth a chyfleoedd i feithrin eu hyder a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud cais am y prifysgolion gorau.

Mae Seren mewn dau gam:

  • Sylfaen Seren sydd ar gyfer y rhai ym Mlynyddoedd 8 i 11.
  • Academi Seren i'r rhai ym Mlynyddoedd 12 a 13.

Gyda'i gilydd, mae rhaglen Seren yn ymroddedig i gefnogi'r dysgwyr mwyaf disglair i ystyried a gwneud cais  i’r prifysgolion gorau a llwyddo yno. 

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cefnogi ein holl ddysgwyr, waeth beth fo'u cefndir, ac mae Seren yn rhaglen mor wych sy'n cynnig y profiadau mwyaf disglair i'n myfyrwyr gan gyfoethogi ac yn ysgogi eu dysgu.

Mae cyfleoedd fel yr ysgol haf hon yn helpu i ehangu gorwelion ein dysgwyr ac yn rhoi profiadau diddorol a heriol iddynt  i'w paratoi ar gyfer dysgu pellach.  Rwy'n awyddus i weld sut y gallwn adeiladu ar y cynllun peilot hwn ac ehangu'r cynnig mewn partneriaeth â mwy o brifysgolion yng Nghymru, a thu hwnt, i gynyddu'r cyfleoedd i'n dysgwyr Seren.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Sian Gwenllian:

Rydym am sicrhau bod yr hyn a gynigir drwy raglen Seren yn cefnogi dysgwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig i gael cyfleoedd cadarnhaol sy'n eu helpu i symud ymlaen a ffynnu yn y brifysgol. Bydd yr ysgolion haf hyn, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd i brofi ein prifysgolion a pharatoi dysgwyr ar gyfer addysg uwch. Mae'n hollbwysig ein bod yn dysgu o'r cynlluniau peilot hyn ac yn parhau i ehangu cyfleoedd i fwy o ddysgwyr yn y dyfodol, ac hynny ledled Cymru.

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Anwen Jones:

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o gynnig y cyntaf yn y gyfres arloesol hon o ysgolion haf a fydd yn sefydlu llwybr ysbrydoledig tuag at y dyfodol i holl ddysgwyr Seren.

Eleni byddwn yn mynd i'r afael ag un o'r heriau byd-eang mwyaf cythryblus, sef newid hinsawdd. Byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd unigryw sy'n ymdrin â’r celfyddydau a'r dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, a'r gwyddorau, gan roi cyfle i ddysgwyr Seren fynegi eu barn yn y ddadl hon.