Neidio i'r prif gynnwy

Ar ymweliad ag Ysgol Arbennig Portfield yn Hwlffordd, fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, gwrdd â disgyblion a staff sydd wedi cymryd rhan mewn taith gyfnewid i Sweden a Gwlad Belg, sydd wedi ei gwneud yn bosibl diolch i gyllid Taith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ysgol Portfield yn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion 3-19 oed. Mae gan y disgyblion ystod eang o Anghenion Dysgu Ychwanegol cymhleth, er enghraifft cyflyrau ar y sbectrwm awtistig ac anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Mae Taith yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc a staff ym mhob math o leoliadau addysg ac ieuenctid i deithio dramor i ddysgu, yn ogystal â chaniatáu i sefydliadau wahodd eu partneriaid rhyngwladol i ddod i ymweld â Chymru.

Mae disgyblion blynyddoedd 8-11 yn Portfield yn rhan o'r prosiect a fydd yn galluogi staff a disgyblion i ymweld ag ysgolion ADY yn Uppsala, Sweden a Fflandrys, Gwlad Belg. Mae'r cyllid hefyd yn galluogi disgyblion a staff o'r ysgolion partner i ymweld â Chymru yr haf hwn, gan agor y ffordd i ddisgyblion wneud ffrindiau, gan gryfhau a darparu profiadau cymdeithasol ac academaidd pellach.

Nid yw llawer o ddisgyblion Portfield wedi bod dramor erioed. Mae cyllid Taith wedi galluogi'r ysgol i gael yr offer arbenigol sydd ei angen ar gyfer taith gyfnewid dramor, megis llogi bws arbenigol sy'n ei gwneud yn bosibl i bobl anabl deithio'n hwylus. 

I enwi rhai manteision yn unig o brofiad Taith i'r disgyblion, maen nhw wedi datblygu lefelau uwch o annibyniaeth a sgiliau cyfathrebu.

Dywedodd Ellie, un o naw disgybl Portfield a ymwelodd â Gwlad Belg ym mis Mai 2023:

"I mi, mi oedd yn brofiad bythgofiadwy. Roeddech chi'n gweld beth roedd y plant yn ei wneud yn yr ysgol. Fy hoff ran i oedd y celf. Fe wnaethon ni goed Nadolig cardbord â gwlân o'u cwmpas. Dw i wedi dysgu eich bod chi'n gallu gwneud pethau gwahanol. Fe ddysgais i sut mae'r plant yn wahanol i ni gan eu bod nhw'n chwarae gemau gwahanol ar yr iard chwarae.

"Fe fyddwn i'n dweud wrth bobl am fynd i Bruges i weld y marchnadoedd Nadolig. Y peth oedd yn arbennig oedd pa mor fawr oedden nhw, ac roedd llwyth o stondinau gwahanol. Mi ges i amser bendigedig, go iawn."

Ychwanegodd Jeremy Miles:

"Mae wir yn ffantastig gweld yr effaith y mae Taith yn ei chael. Mae'n ein galluogi ni i chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag mynd ar deithiau cyfnewid rhyngwladol ac mae'n agor y drysau i gyfleoedd i bawb.

"Mae wedi bod yn wych siarad â disgyblion a staff yn ysgol Portfield am sut mae eu taith wedi helpu i fagu hyder, ehangu gorwelion a datblygu dyheadau.

"Fe fyddwn i'n annog ysgolion a phob lleoliad addysgol ledled Cymru i wneud cais am gyllid Taith. Mae'r ffenestr ymgeisio ddiweddaraf ar agor nawr ac yn cau ar 20 Mawrth."

Ers ei lansio yn 2022, mae Taith – rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu – wedi dyfarnu cyllid i gefnogi bron i 12,000 o ddysgwyr a staff i ddysgu, astudio a gwirfoddoli mewn dros 90 o wledydd.