Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Statws:

Cydymffurfio.

Categori:

Cyllid.

Teitl:

Canllawiau datganiadau monitro ariannol misol ar gyfer byrddau iechyd lleol, awdurdodau iechyd arbennig, ac ymddiriedolaethau 2024 i 2025.

Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:

Ebrill 2025.

I'w weithredu gan:

  • Brif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Cyllid
  • Byrddau iechyd lleol / awdurdodau iechyd arbennig / ymddiriedolaethau / partneriaeth cydwasanaethau GIG Cymru / y Cyd-bwyllgor Comisiynu

Angen gweithredu erbyn:

Cyfeiriwch at atodiad 1 yn y canllawiau.

Anfonwr:

Hywel Jones
Cyfarwyddwr Cyllid GIG Cymru
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Pennaeth / Dirprwy Bennaeth Rheolaeth Ariannol y GIG,
Y Gyfarwyddiaeth Gyllid,
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar: nhsfinancialmanagement@gov.wales

Dogfennau amgaeedig:

Llythyr eglurhaol a chanllawiau.

Rhestri dosbarthu cylchlythyron iechyd Cymru:

Ysgrifenyddion byrddau

  • Bae Abertawe
  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a'r Fro
  • Cwm Taf Morgannwg
  • Hywel Dda
  • Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • WAST (Ymddiriedolaeth Ambiwlansiau Cymru)
  • HEIW (Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC))
  • DHCW (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)
  • Ysgrifennydd Grŵp Ysgrifenyddion Byrddau

Prif weithredwyr:

  • Bae Abertawe
  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a'r Fro
  • Cwm Taf Morgannwg
  • Hywel Dda
  • Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • WAST
  • NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru)
  • JCC (y Cyd-bwyllgor Comisiynu)
  • HEIW
  • DHCW

Cadeiryddion:

  • Bae Abertawe
  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a'r Fro
  • Cwm Taf Morgannwg
  • Hywel Dda
  • Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • WAST
  • NWSSP
  • JCC
  • HEIW
  • DHCW

Cyfarwyddwyr cyllid

  • Bae Abertawe
  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr
  • Caerdydd a'r Fro
  • Cwm Taf Morgannwg
  • Hywel Dda
  • Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth Felindre
  • WAST
  • NWSSP
  • JCC
  • HEIW
  • DHCW

Llywodraeth Cymru

  • Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr GIG Cymru
  • Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
  • Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Cymru
  • GIGC (Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru) - Pennaeth Rheolaeth Ariannol y GIG,
  • GIGC - Pennaeth Rheolaeth Ariannol a Llywodraethu
  • GIGC - Tîm Gweithrediadau
  • GIGC - Tîm Cyfathrebiadau

Arall

  • Rheolwr Technegol Sector y GIG - Swyddfa Archwilio Cymru
  • Cyfarwyddwr - Uned Cyflenwi Cyllid

Canllawiau datganiadau monitro ariannol misol ar gyfer byrddau iechyd lleol, awdurdodau iechyd arbennig, ac ymddiriedolaethau 2024 i 2025

20 Mai 2024

Annwyl gydweithwyr

Gweler Canllawiau’r Datganiadau Monitro Misol 2024 i 2025 ar gyfer byrddau iechyd lleol, awdurdodau iechyd arbennig, ac ymddiriedolaethau, ynghyd â’r templedi cyflwyno cysylltiedig, sydd wedi eu hatodi.

Gofynnwyd i sefydliadau ddatblygu cynlluniau manwl sy’n cyflawni yn erbyn blaenoriaethau 2024 i 2025, fel y’u nodir yn Fframwaith Cynllunio’r GIG, a hynny o fewn y dyraniadau ar gyfer 2024 i 2025. Cafodd disgwyliad clir ei bennu y bydd sefydliadau’n gweithredu o fewn dyraniadau craidd. Rydym yn gwybod, fel yn 2023 i 2024, y bydd y flwyddyn ariannol hon yn heriol, ac mae’n hanfodol bod eich datganiadau ariannol misol yn cynnwys asesiad manwl o’ch rhagolygon alldro ac unrhyw risgiau o ran cyflawni, a’u bod yn cael eu hategu gan wybodaeth ariannol o ansawdd uchel sy’n cydymffurfio â’r canllawiau atodedig.

O fewn y cyd-destun hwnnw, mae rhai gwelliannau wedi eu gwneud i dempledi’r datganiadau monitro. Hoffwn dynnu sylw sefydliadau at y ffaith bod y canllawiau arbedion manwl presennol yn parhau ar waith ar gyfer y categorïau arbedion.

Hoffwn eich atgoffa y dylai’r wybodaeth hon ffurfio rhan allweddol o lywodraethiant cyllid eich bwrdd, ac y dylai amseroldeb ac ansawdd yr wybodaeth a ddarperir adlewyrchu hynny.

Mae’r canllawiau manwl yn nodi’r newidiadau a wnaed eleni i’r gofynion data, a’r egwyddorion cwblhau.

Yn gywir

Hywel Jones

Cyfarwyddwr Cyllid