Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi diolch i’r cwmni wisgi a gwirodydd eiconig o Gymru, Penderyn, am arallgyfeirio ei ddistyllwyr arbenigol i gynhyrchu’r hylif saniteiddio dwylo sydd ei angen yn fawr iawn ar y GIG yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O ganlyniad i’r galw am hylif saniteiddio dwylo yn ystod y pandemig coronafeirws presennol, mae Penderyn bellach yn cynhyrchu hylif saniteiddio dwylo â chryfder alcohol o 80%.

Roedd y cwmni yn awyddus i helpu yn y cyfnod heriol iawn hwn, ac mae’n cynhyrchu 10,000 litr o hylif saniteiddio dwylo yr wythnos. Bydd y poteli cyntaf yn cyrraedd ysbytai a chanolfannau’r GIG y mis hwn drwy gwmni partner, Lovair Ltd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

Mae Penderyn yn enghraifft wych o gwmni yn camu i’r adwy ac addasu’r ffordd mae’n gweithio i gefnogi ein hymdrechion i drechu coronafeirws.

Mae ein sêr yn y GIG yn gweithredu mewn modd arwrol bob dydd i achub bywydau, ac rydyn ni yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau fel Penderyn i wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn ein gwasanaeth iechyd a sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw.

Hoffwn i ddiolch i Penderyn am eu harloesedd, ac annog rhagor o gwmnïau yng Nghymru i ddilyn eu hesiampl. Os ydych chi’n gallu newid eich ffordd o weithio i ddatblygu cynhyrchion a dyfeisiau i helpu i drechu coronafeirws, hoffen ni glywed gennych chi.

Mae Hylif Saniteiddio Penderyn yn cael ei wneud yn unol â fformiwla Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r fformiwla hon wedi cael ei derbyn yn helaeth ac wedi cael ei chymeradwyo i’w defnyddio gan y GIG yng Nghymru.

Fel distyllfa brag sengl mae Penderyn mewn sefyllfa ffodus, am fod eu distyllbeiriau Faraday unigryw yn cynhyrchu’r ganran alcohol uchaf yn y diwydiant, tua 90% yn ôl cyfaint, o gymharu â’r 70–75% yn ôl cyfaint sy’n fwy cyffredin mewn distyllfeydd tebyg eraill.

Mae Penderyn yn un o’r llawer o ddistyllfeydd y gofynnwyd iddynt gynhyrchu hylif saniteiddio dwylo. Cysylltodd y GIG yng Nghymru â Penderyn yn gynnar, ac mae bellach wedi neilltuo’r rhan fwyaf o’i gapasiti cynhyrchu i gefnogi’r frwydr yn erbyn coronafeirws. Bydd yr hylif saniteiddio dwylo hefyd ar gael i’w brynu gan fusnesau eraill yng Nghymru a’r tu hwnt.

Dywedodd Cyfarwyddwr Lovair, Fraser Lovell:

Mae wedi bod yn fraint wirioneddol cyflenwi’r GIG yng Nghymru yn ystod y cyfnod heriol hwn, a gwneud cyfraniad bach i helpu gyda’r gwaith mawr o drechu’r pandemig annisgwyl hwn. Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r prosiect hwn, a gweld pa mor gyflym mae pob partner wedi gweithredu.

O ran unigolion preifat, bydd Penderyn yn gwneud yr hylif saniteiddio dwylo ar gael mewn poteli chwistrell llai, cludadwy. Bydd y rhain ar gael ddiwedd mis Ebrill. Bydd y 5,000 uned gyntaf yn cael eu potelu gan gwmni lleol yn ne Cymru, a byddant ar gael i’w prynu yn Nistyllfa Penderyn ac ar-lein. 

Bydd holl staff Penderyn yn derbyn potel chwistrell, ac mae poteli eisoes wedi cael eu neilltuo ar gyfer amrediad dethol o elusennau lleol.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Penderyn, Stephen Davies:

Fydden ni erioed wedi dychmygu y byddai ein gwirod brag sengl yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd hon, ond rydyn ni’n falch y bydd y rhan fwyaf o’r cynhyrchion yn cael eu defnyddio gan y GIG yng Nghymru.