Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau ar gyfer distyllfa a chanolfan i ymwelwyr cwbl newydd yn Llandudno ar gyfer Penderyn gam ymhellach yn dilyn cynnig Llywodraeth Cymru o gyllid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y datblygiad arfaethedig fydd y tro cyntaf i'r cwmni Wisgi Cymreig ehangu o'i safle ym Mhenderyn, Aberdâr. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio bydd y prosiect £5 miliwn yn arwain at greu'r datblygiad newydd yn Llandudno erbyn 2021.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cymorth ar gyfer y datblygiad cyffrous hwn. Mae Penderyn yn un o frandiau mwyaf eiconig Cymru. Mae'n flaenoriaeth gennym i ddatblygu atyniadau blaengar sy'n addas ar gyfer pob tywydd yng Nghymru - bydd y datblygiad hwn yn atyniad ychwanegol ar gyfer Llandudno a Gogledd Cymru. Bydd y ganolfan i ymwelwyr a'r ddistyllfa newydd yn tynnu sylw at gynhyrchion gwych Cymru ac yn ychwanegu at y clwstwr o gynhyrchwyr gwych yng Ngogledd Cymru."

Dywedodd Stephen Davies, Prif Weithredwr Distyllfa Penderyn:

"Mae'r cadarnhad o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn gam ymlaen pwysig tuag at gyflawni ein cynlluniau ar gyfer Distyllfa a Chanolfan Ymwelwyr newydd yn Llandudno. Credwn y bydd y ddistyllfa yn ein galluogi i gyflwyno wisgis brag sengl unigryw a blaengar, sydd wedi'u distyllu yng Ngogledd Cymru, a bydd hefyd yn atyniad a fydd yn ychwanegu at ddarpariaeth lewyrchus ac amrywiol ar gyfer twristiaid yno. Bydd hefyd yn estyn y tymor ymwelwyr. Gan fod gennym bellach y cyllid ar gyfer gwneud y gwaith byddwn yn mynd ati i gwblhau ein cynigion dros y misoedd nesaf, gan drafod â rhanddeiliaid a'r gymuned leol wrth i ni baratoi ein cais cynllunio."

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Conwy ar gyfer Datblygu Economaidd:

"Hoffem longyfarch Penderyn ar eu cynnig llwyddiannus am gyllid. Rydym wedi bod yn cydweithio â nhw fel rhan o'n Strategaeth Twf Economaidd, sy'n anelu at ddenu rhagor o atyniadau i'r Sir sy'n addas gyfer pob tywydd ac sy'n agored drwy'r flwyddyn. Mae cynigion Penderyn ar gyfer Llandudno yn gynigion cyffrous iawn. Mae'r ffaith y bydd swyddi newydd yn cael eu creu ac y bydd atyniad newydd i ymwelwyr yn golygu dyfodol llewyrchus i'r Hen Ysgol ar Stryd Lloyd."

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae cwmni Penderyn yn tystio i’r ffaith bod sector bwyd a diod Cymru yn ffynnu ac yn creu enw da iawn iddo’i hun ar draws y byd. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynorthwyo Penderyn i ddatblygu eu busnes, gan greu cyfle i bobl ar draws Cymru a’r DU i wybod mwy am y cwmni ac i brofi eu cynnyrch arbennig.”

Mae'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth a'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd wedi cynnig £1.4 miliwn i'r datblygiad.