Neidio i'r prif gynnwy

10. Grŵp Buddsoddi

Argymhelliad   

Byddwn yn sefydlu grŵp o arbenigwyr i edrych ar ffyrdd o dynnu buddsoddiad ychwanegol i lawr mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Byddwn yn blaenoriaethu perchnogaeth leol a chymunedol er mwyn sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol lleol mwyaf posibl.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Ers cyhoeddi adroddiad yr is-grŵp Ynni Adnewyddadwy, mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar roi argymhellion yr adroddiad hwnnw ar waith. Gweler y diweddaraf am hynny isod. 

Camau nesaf at gwblhau

Mae’r adroddiad hwn wedi’i gwblhau. Byddwn yn parhau i fwrw yn ein blaenau â’r argymhellion yn yr adroddiad Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy. 

Argymhellion yr is-grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy

Argymhelliad   

  1. Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ddatblygu menter/Siarter partneriaeth gyda'r sector ynni adnewyddadwy masnachol: gyda'r sector yn ymrwymo i safonau ynglŷn â buddion lleol a chymunedol, buddion o ran y gadwyn gyflenwi; a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi'r weledigaeth i Gymru fod yn allforiwr net o ynni adnewyddadwy, gan gyhoeddi targedau ynni adnewyddadwy wedi eu diweddaru ac eglurder o ran gofynion perchnogaeth gymunedol.   
  2. Wrth i gronfeydd pensiwn Cymru fynd ati i weithredu eu gofynion cyfreithiol i reoli eu cronfeydd a goruchwylio risgiau, gan gynnwys amddiffyn y cronfeydd pensiwn rhag risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i achub ar y cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ddulliau presennol megis y Cyngor Partneriaeth. Mae gan y sector ynni adnewyddadwy rôl bwysig hefyd wrth hybu cyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn hwyluso buddsoddiad, er enghraifft drwy ddod â rheolwyr cronfeydd pensiwn a datblygwyr ynni adnewyddadwy ynghyd i archwilio'r cyfleoedd hyn ymhellach.
  3. Dylai Banc Datblygu Cymru (DBW) barhau i ddatblygu'r achos busnes ar gyfer buddsoddi mewn datblygiadau ynni adnewyddadwy. Dylai buddsoddiad gan DBW lenwi bylchau a nodwyd lle nad yw'r modelau presennol ar gyfer perchnogaeth leol a chymunedol yn bosibl. Dylai enillion o fuddsoddiadau gefnogi buddsoddiad economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau lleol.
  4. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r cynnydd o ran gweithredu argymhellion ynghylch y grid o'r gwaith ymchwil manwl a diwygiadau ehangach y DU. Ar ôl yr adolygiad hwnnw, os yw maint a chyflymder y newid yn parhau i fod yn annigonol i ddiwallu anghenion Cymru, dylai adolygu a cheisio gwneud defnydd o'r holl ysgogiadau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i annog buddsoddiad uniongyrchol yn seilwaith y grid yng Nghymru.
  5. Gyda chyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i Ynni Cymunedol Cymru (CEW) hybu cynigion cyfranddaliadau cymunedol, mae angen cwblhau gwaith i ddeall pam bod y nifer sy'n manteisio arnynt yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU.  Mae angen i CEW allu dangos effaith gadarnhaol eu gweithgarwch a sicrhau bod gan bobl amddiffyniad digonol wrth ystyried buddsoddiad. Dylai CEW adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd y cyllid ychwanegol ac adrodd ar unrhyw fylchau mewn cyllid, os oes rhai.  

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Dyma rai o brif uchafbwyntiau’r 6 mis diwethaf: 

Bargen â’r Sector
  • Mae Llywodraeth eisoes wedi cyflawni rhai agweddau ar y fenter/siarter – gan gynnwys cyhoeddi’r ymgynghoriad ar y targedau ynni adnewyddadwy newydd a’r canllaw newydd ar berchenogaeth leol a chymunedol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n trafod â Renewable UK Cymru ar y ffordd orau i ddatblygu menter/siarter partneriaeth â’r sector adnewyddadwy masnachol yng Nghymru. 
Cyfleoedd i ddefnyddio cronfeydd pensiwn Cymru
  • Cytundeb y byddai Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth ar gyfer datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus erbyn 2030, hynny i gyd-fynd â’r targedau sero net ar gyfer y sector cyhoeddus. 
  • Cyfarfodydd rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion Partneriaeth Pensiynau Cymru (WPP) i drafod manylion y gwaith hwn. 
  • Rhoi Datgarboneiddio Pensiynau Llywodraeth Leol ar agenda Cyngor Partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd 2022. Cafwyd adroddiad gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru ar hynt y gwaith a chynlluniau ar gyfer datgarboneiddio pensiynau cyfun Llywodraeth Leol. Mynegwyd cefnogaeth i hyn ac roedd aelodau’n frwd dros weld llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru’n cydweithio ar y mater. 
  • Cyfarfod rhwng y Prif Weinidogion a Jack Sargeant AS a Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear Cymru yn Ionawr 2023 i drafod beth arall y gellid ei wneud i annog a helpu llywodraeth leol i ddatgarboneiddio’u pensiynau a symud at sero net, gan nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru rym statudol i osod targedau.  Yn dilyn y cyfarfod, cytunwyd bod Jack Sargeant yn trafod y pwnc eto gyda CLlLC ac eraill, i ddatblygu syniadau a chynigion cadarn. 
  • Fel rhan o’r rhaglen Datblygu Ynni Adnewyddadwy, mae trafodaethau ar ddechrau gydag awdurdodau pensiynau Llywodraeth Leol i ystyried y diddordeb mewn buddsoddi mewn ynni’r gwynt, o fodloni’r gofynion diwydrwydd dyladwy. 
Datblygu cefnogaeth Banc Datblygu Cymru i ynni adnewyddadwy
  • Trafodaethau rhwng Banc Datblygu Cymru (DBW) a datblygwyr ynni adnewyddadwy i ddeall y bylchau buddsoddi y gallai’r DBW ei hun eu llenwi neu drwy ariannu grŵp cymunedol lleol; 
  • Mae’r DBW yn parhau i gynnig arian o’r Gronfa Ynni Lleol i gefnogi datblygwyr llai sydd â phrosiectau ynni lleol; 
  • Lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd y DBW sy’n rhoi cymorth ariannol i fusnesau i fuddsoddi mewn datgarboneiddio. Mae nifer o’r ceisiadau cychwynnol yn ymwneud ag ynni solar. 
Rhoi’r argymhellion ynghylch y Grid ar waith: 
  • Gweler y diweddaraf am y Grid uchod.
Rhoi argymhellion Ynni Cymunedol Cymru (CEW) ar waith:
  • Gweler y diweddaraf am CEW uchod.
     

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf, bydd ein blaenoriaethau’n cynnwys: 

  • Chwilio am gyfleoedd i helpu i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru a manteisio arnyn nhw. 
  • Mynd i gynhadledd Newid Hinsawdd CLlLC (fel rhan o elfen Arwain y Rhaglen Cymorth Hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu arian ati) i fynd â thrafodaethau blaenorol am ddatgarboneiddio pensiynau yn eu blaen a thrafod a oes modd i ni ymrwymo i ddatgarboneiddio pensiynau cyhoeddus Cymru erbyn 2030 i gyd-fynd â’n hymrwymiad i wneud y sector cyhoeddus yn sero net erbyn 2030. 
  • Parhau i hybu datgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghyngor Partneriaeth Cymru.

11. Contract ar gyfer gwahaniaeth

Argymhelliad   

Byddwn ni'n ceisio creu cynghrair gyda Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod proses Contract ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) Llywodraeth y DU yn esblygu'n briodol i:

  • adlewyrchu uchafiaeth datblygu'r gadwyn gyflenwi ac
  • i gyflawni llwybr datblygu cydlynol a chytbwys ar gyfer technolegau masnachol cynnar a rhai newydd.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Rydyn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ein prif ofynion o ran y Contractau ar gyfer Gwahaniaeth ac yn parhau i wasgu bod y broses yn sicrhau buddion tymor hir i’r cymunedau sy’n cynnal datblygiadau adnewyddadwy. 
Dyma rai o’r prif uchafbwyntiau: 

  • Dadansoddi dyraniadau Rownd 4 i ddeall y canlyniadau i Gymru yn well.
  • Tynnu sylw Llywodraeth y DU at y risg y gallai’r pris taro (strike price) am ynni gwynt arnofiol y môr fod yn rhy fach i gynnal y dechnoleg newydd hon, a gallai sarnu hyder buddsoddwyr. 
  • Gwasgu am fwy o bot arian wedi’i glustnodi ar gyfer ynni tonnau a’r llanw sydd â digon o gapasiti ar gyfer mynd â phrosiectau yng Nghymru yn eu blaen. 

Camau nesaf at gwblhau

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i gwblhau ac mae ein gwaith i ddylanwadu ar rowndiau bidio am y Contractau ar gyfer Gwahaniaeth wedi symud bellach i fusnes fel arfer. 

12. Trethi annomestig

Argymhelliad    

Byddwn ni'n edrych ar yr opsiynau i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol trwy Ardrethi Annomestig.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Dyma rai o’r prif uchafbwyntiau:

  • Ymgynghori ar ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
  • Asesu’r posibilrwydd o barhau i gynnig cymorth y dreth ar gyfer cynlluniau hydro cymunedol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn parhau’n hyfyw ac yn esgor ar fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol i gymunedau yng Nghymru. 

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf, bydd ein blaenoriaethau’n cynnwys: 

  • Ystyried opsiynau ar gyfer darparu cymorth y dreth tymor hir i gynhyrchwyr ynni cynaliadwy lleol a chymunedol.

13. Grŵp caffael

Argymhelliad 

Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu i adolygu opsiynau ar gyfer sut y gall caffael gyflymu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar werth economaidd a chymdeithasol lleol i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  1. Gwella polisi caffael i ymgorffori gwerth cymdeithasol gan gynnwys archwilio gyda datblygwyr masnachol sut y gallant ddiwallu'r angen lleol orau.
  2. Opsiynau ar gyfer defnyddio pŵer prynu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi llwybrau dibynadwy i'w marchnata ar gyfer prosiectau ynni'r gymuned a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys trwy Gytundebau Prynu Pŵer hirdymor.
  3. Sut y gall gwasanaethau cyngor a chymorth gynorthwyo datblygwyr ynni cymunedol yn well i gael mynediad at gyfleoedd yn y farchnad.
  4. Sut mae ymgysylltu'n well â'r sector ynni cymunedol yn Rhaglen ariannu Cymru.
  5. Sut y gellir lledaenu arferion gorau, gan gynnwys bwydo i grŵp arferion gorau Llywodraethau Cymru neu'r Ganolfan Rhagoriaeth Caffael pe bai'n cael ei sefydlu.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Byddwn yn bwrw yn ein blaenau gyda’r argymhelliad hwn dros y 6 mis nesaf, gyda swyddogion ac aelodau’r archwiliad dwfn yn dadansoddi'r opsiynau ar gyfer Cytundebau Prynu Pŵer (PPAau) ynghyd â chefnogaeth ehangach ar gyfer caffael.

Bydd hyn hefyd yn bwydo i argymhelliad 16 ar gyfleoedd i fentrau cymunedol ddefnyddio’r ystâd gyhoeddus.

Camau nesaf at gwblhau

Rydym wedi trefnu sesiwn i ystyried yr opsiynau ar gyfer PPA a deall sut y gallai’r opsiynau ddod â budd i gymunedau.  Rydym yn trafod â CEW a WGES i ddeall sut olwg fyddai ar yr opsiynau ar gyfer PPA.  Rydym hefyd yn cydweithio â swyddogion caffael Llywodraeth Cymru i ddeall a oes rhwystrau caffael y gallen nhw helpu cymunedau / cyrff sector cyhoeddus i’w trechu.