Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Ebrill 2023

Strategaeth

1. Gweledigaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy

Argymhelliad

Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni o leiaf yn llawn a defnyddio'r ynni dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Byddwn yn cyflymu camau i leihau'r galw am ynni ac i sicrhau perchnogaeth leol cymaint â phosibl i gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Ym mis Ionawr 2023, gwnaethon ni ymgynghori ar ein targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy. Rhoddwyd nifer o gynigion ger bron i Lywodraeth Cymru bennu targed ar eu cyfer: 

  • Sicrhau bod yr holl drydan a ddefnyddiwn mewn blwyddyn yn drydan adnewyddadwy erbyn 2035, a chadw’r lefel honno i’r dyfodol. 
  • Bod o leiaf 1.5GW o’n capasiti ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol erbyn 2035, heb gynnwys pympiau gwres. 
  • Bod 5.5GW o’n capasiti ynni adnewyddadwy yn dod o bympiau gwres erbyn 2035. I wireddu hyn, rhaid wrth gynnydd yng nghefnogaeth Llywodraeth y DU a gostyngiad yng nghost y dechnoleg. 
     

Camau nesaf at gwblhau

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i gwblhau.

Gan ystyried goblygiadau’n gweledigaeth i’n hymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy Cymru, dyma’r camau a gymerir mewn perthynas â’r argymhelliad hwn: 

  • Dadansoddi ymatebion i’r ymgynghoriad, sy’n cau ar 18 Ebrill a gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r targedau; 
  • Cyhoeddi ein targedau ynni adnewyddadwy newydd erbyn Haf 2023.

2. Cynllun ynni cenedlaethol

Argymhelliad  

Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad i bob rhan o Gymru yn y dyfodol i nodi bylchau er mwyn ein galluogi i gynllunio ar gyfer system sy'n hyblyg ac yn glyfar - gan baru cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol gyda'r galw am ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Disgwylir cwblhau’r argymhelliad hwn yn 2024. Bydd y Cynllun Ynni Cenedlaethol (CYC) yn seiliedig ar y Cynlluniau Ynni Ardal Leol. Bydd y CYC yn ystyried hefyd prosiectau Gridiau Ynni Cymru’r Dyfodol, strategaethau ynni rhanbarthol, y strategaeth wres sydd wrthi’n cael ei datblygu a’n targedau ynni. 

Prif uchafbwyntiau Cynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEP) y cyfnod oedd:

  • Penodi cyflenwyr i weithio gyda Prifddinas-ranbarth Caerdydd, Uchelgais Gogledd Cymru a De-orllewin Cymru; 
  • Sbarduno awdurdodau lleol i weithredu;
  • Recriwtio adnoddau rhanbarthol i helpu i ddatblygu’r Cynlluniau Lleol;
  • Rhagor o gyfarfodydd y fforwm awdurdodau lleol;
  • Rhagor o gyfarfodydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol.

Camau nesaf at gwblhau

Mae ein camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Penodi cyflenwyr i weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Uchelgais Gogledd Cymru a De-Orllewin Cymru
  • Cydweithio â mwy o randdeiliaid lleol i lywio Cynlluniau Ynni Ardal Leol;
  • Monitro i sicrhau bod LAEPs yn cael eu cwblhau’n brydlon; 
  • Adolygiad technegol o’r LAEPs wrth iddynt gael eu datblygu i sicrhau eu bod yn gyson â’r fethodoleg gymeradwy; 
  • Diffinio a datblygu’r Cynllun Ynni Cenedlaethol

3. Strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a newid ymddygiad

Argymhelliad    

Bydd ein cynlluniau ymgysylltu cyhoeddus a newid ymddygiad ynghylch Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i weithredu i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Dros y 6 mis diwethaf, canolbwyntiwyd ar osod sylfeini’r rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a fydd yn dechrau yn yr Haf. Dyma rai o’r prif ddarnau gwaith: 

  • Cyhoeddi Strategaeth ddrafft ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd i ymgynghori arni rhwng Hydref-Rhagfyr 2022;
  • Comisiynu arbenigwyr mewn newid ymddygiad i ystyried ystod o dystiolaeth gymdeithasol gan ddefnyddio technegau gwyddorau ymddygiadol i nodi’r prif rwystrau a chymhellion sy’n effeithio ar ymddygiad o ran teithio, ynni’r cartref, bwyd a defnyddio gwyrdd; 
  • Gosod y sylfeini ar gyfer ymgyrch genedlaethol ‘Gweithredu ar Newid Hinsawdd’ a hyb ddigidol (gwefan); 
  • Edrych sut ydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd i sicrhau bod ganddynt ran wrth i ni lunio polisïau at y dyfodol. Amcan yr ymarfer hwn yw ystyried cyfleoedd i ddatblygu ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’ ac ymgysylltu drwy’r flwyddyn gan roi sylw arbennig i grwpiau ar yr ymylon
     

Camau nesaf at gwblhau

Bydd ein camau nesaf yn cynnwys:

  • Astudio’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth ddrafft ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd er mwyn llunio strategaeth derfynol a’i chyhoeddi yn yr Haf; 
  • Lansio’r ymgyrch genedlaethol newydd, Gweithredu ar Newid Hinsawdd, a’r hyb ddigidol (yn yr Haf ar ôl cyhoeddi’r strategaeth);
  • Cydweithio â thimau polisi’r sector i baratoi llinell amser ar gyfer cyflwyno’r polisïau a’r rhaglenni a nodwyd yn Sero Net Cymru fydd yn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwyrddach o ran ynni’r cartref, trafnidiaeth, bwyd a defnyddio adnoddau (yn parhau); 
  • Cyflwyno arolwg tracio chwe-misol cenedlaethol newydd gyda ffocws ar Gymru i barhau i’n helpu i ddeall yn well beth mae pobl yn ei wybod am y newid yn yr hinsawdd, yn ymwybodol ohono, a’u hagweddau ato (disgwylir cynnal rhan 1 yr arolwg yng Ngorffennaf); 
  • Ystyried canlyniadau’r arolwg o’n trefniadau ymgysylltu a’r cyfle (a’n gallu) i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu am yr hinsawdd drwy’r flwyddyn; 
  • Datblygu fframwaith gwerthuso i sicrhau bod canlyniadau’r rhaglen hon wedi’u cysylltu â’r targedau lleihau allyriadau sydd wedi’u nodi yn ein llwybrau at sero net. I ddechrau yn 2023.

4. Cyngor ar Ynni - Cartrefi Clyd / Strategaeth Wres

Argymhelliad   

Rydym am weld gwasanaeth cynghori hawdd ei ddefnyddio i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad clyfar eu cartrefi a'u busnesau yn ogystal â chyflenwad parod o gyflenwyr a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel yng Nghymru. Byddwn yn cwmpasu camau gweithredu ychwanegol wrth i ni ddatblygu ein Rhaglen Cartrefi Clyd a Strategaeth Wres yn y dyfodol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Strategaeth Wres

  • Gwnaethom gynnal ein harolwg o’r dystiolaeth sydd wedi’i chyhoeddi a holi’n rhanddeiliaid cyn yr ymgynghoriad. Cadarnhawyd fod angen cyngor a chyflenwyr y gallwn ymddiried ynddynt fel rhan o becyn ehangach o bolisïau ar gyfer rhoi atebion gwresogi carbon isel ar waith. 
  • Mae cynigion polisi wedi’u datblygu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer yr ymgynghoriad ac rydym wedi bod yn asesu blaenoriaethau ac yn trefnu ac yn adolygu ffactorau sy’n dibynnu ar ei gilydd. 
Rhaglen Cartrefi Clyd 
  • Rydym wedi llunio’r Gwersi a Ddysgwyd ac ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar Gartrefi Clyd a byddwn yn eu cyhoeddi yn y Gwanwyn gyda’r datganiad polisi ar gyfer y rhaglen newydd.
  • Rydym wedi crynhoi tystiolaeth, gyda chefnogaeth y Sefydliad Ymchwil i Adeiladau (BRE) fel sylfaen ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd nesaf. 
Ymgysylltu â’r Cyhoedd 
  • Gweler y diweddariad am argymhelliad 3.

Camau nesaf at gwblhau

Mae’n camau ar gyfer y 6 mis nesaf yn cynnwys: 

Strategaeth Wres 

  • Cynhelir ymgynghoriad ar y Strategaeth Wres yn Haf 2023; 
  • Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu bwydo i’r strategaeth derfynol a gyhoeddir ddiwedd 2023. 

Rhaglen Cartrefi Clyd 

  • Byddwn yn gwahodd tendrau ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn yr haf, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, ac yn caffael y rhaglen newydd erbyn diwedd y flwyddyn galendr. 
Ymgysylltu â’r Cyhoedd 
  • Gweler y diweddariad am argymhelliad 3

Grid

5. Trafod ag Ofgem

Argymhelliad

Byddwn yn cynyddu ein trafodaethau ag Ofgem er mwyn sefydlu anghenion buddsoddi Cymru, gan ganolbwyntio ar gadw gwerth o fewn Cymru. Byddwn yn sefydlu grŵp cydweithio i edrych ar opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid newydd, hyblyg ar gyfer atebion adnewyddadwy a storio ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Y prif uchafbwyntiau ers Hydref 22:

  • Parhau i ymgysylltu, gan gynnwys trwy ymweliad GEMA Bwrdd Ofgem â Chymru ac â safleoedd i weld tystiolaeth o broblemau â’r grid yng Nghymru. 
  • Bwrw ymlaen â phrosiect Gridiau Cymru’r Dyfodol gan gynnwys gweithdai gyda swyddogion y rhwydwaith i ddeall egwyddorion newydd, ar weminar gyhoeddus; 
  • Trafod â’r Grid Cenedlaethol am hynt eu hopsiynau ar gyfer datblygu’r cysylltiad trawsyrru arfaethedig rhwng y de a’r gogledd. 

Camau nesaf at eu cwblhau

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Cyhoeddi adroddiad terfynol prosiect Gridiau Cymru’r Dyfodol ym mis Mai a phenderfynu ar y camau nesaf; 
  • Parhau i drafod datblygiad y cysylltiad trawsyrru arfaethedig rhwng y de a’r gogledd; 
  • Gweithio gyda rhwydweithiau ynghylch cyfleoedd i arloesi a digideiddio yn y sector.

6. Pensaer Systemau Ynni Cymru

Argymhelliad   

Gan adeiladu ar Brosiect Grid Ynni'r Dyfodol, byddwn ni'n pwyso ar Ofgem i greu Pensaer System Ynni Cymru i oruchwylio:

  1. Hyblygrwydd ochr y galw, domestig, annomestig a phenodedig, gan gynnwys storio ynni
  2. Mapio cartrefi tlawd o ran tanwydd (a thrafnidiaeth) yn erbyn parthau rheoli cyfyngiadau Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) cyfredol ac a ragwelir (lle y mae gan ymateb/hyblygrwydd ochr y galw y gwerth mwyaf i'r system) gyda'r bwriad o ddefnyddio technolegau hyblygrwydd carbon isel i'r cartrefi a'r aelwydydd hyn 
  3. Datrysiadau smart ar gyfer trawsyrru a dosbarthu gan gynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wneud y gorau o'r defnydd o'r rhwydwaith presennol. Gan gynnwys datblygu gofynion, cyllid ac agor y farchnad i arloesi. Angen ymgysylltu â mewnbynnau o bob rhan o ddiwydiant.
  4. Cefnogi achosion busnes i gynllunio'r system gyfan a dod â chynlluniau ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru at ei gilydd
  5. Cystadleuaeth i adeiladu rhwydwaith i leihau costau a chyflymu amseroedd adeiladu
  6. Datblygu cynllun system gyfan manwl sy'n cwmpasu trawsyrru a dosbarthu
  7. Dyluniad rhwydwaith ar y Môr Celtaidd ac   atgyfnerthiadau ar y tir.
     

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Rydym wedi gweithio gydag aelodau’r archwiliad dwfn i ddatblygu cysyniad y Pensaer Systemau Ynni (WESA). Yn dilyn cyhoeddi Gweithredwr System y Dyfodol (FSO) ar gyfer system Prydain Fawr, gwnaethon ni gytuno bod llawer o’r swyddogaethau y gwnaethon ni eu rhagweld ar gyfer WESA yn debygol o fynd i’r corff hwn, gan esblygu o’r ESO. Rydym yn gweithio ar y cynigion fel ein bod yn canolbwyntio’n meddyliau ar y meysydd blaenoriaeth sy’n weddill.   

Rydym wedi gwneud gwaith mawr â chynlluniau ynni lleol yn dilyn penodi contractwyr cyflawni ym mhob rhanbarth. Disgwylir cwblhau’r cynlluniau erbyn Mawrth 2024 ac rydym yn ystyried eu cyfuno â gwaith arall i ddatblygu’r Cynllun Ynni Cenedlaethol. 

Rydym yn gweithio gyda rhwydweithiau a busnesau i’w digideiddio er mwyn cynyddu’r defnydd arnynt. 

Camau nesaf at eu cwblhau

Deall yn well yr angen am ragor o gapasiti er mwyn gallu datblygu gymaint â phosibl y defnydd o atebion smart ac o asedau hyblygrwydd. Y nod yw creu systemau lleol smart sy’n cadw’r buddion yn yr ardal. Bydd hyn yn cau’r bylchau sy’n weddill yng Nghymru wrth i’r FSO gael ei sefydlu

Chwilio am gyfleoedd trwy’r rhaglen cynllunio ynni i ddatblygu prosiectau treialu arloesol o gwmpas systemau ynni smart.

Cydsynio a thrwyddedu

7. Adolygiad CNC

Argymhelliad 

Byddwn yn cynnal adolygiad o gydsynio a chefnogi tystiolaeth a chyngor, er mwyn sicrhau proses amserol a chymesur gan gynnwys:

  1.  Adolygiad o'r dechrau i'r diwedd o'r prosesau cynghori ar drwyddedu morol, cydsynio a chefnogi i gael gwared ar rwystrau, gan dynnu ar waith y grwpiau presennol
  2. Adolygiad o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer prosesau cydsynio a chynghori i gadw i fyny â'r twf mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adolygiad brys o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Mor CNC
  3. Nodi bylchau o ran tystiolaeth forol a dulliau o'u llenwi, er mwyn hwyluso'r broses ymgeisio
  4. Adolygu a mapio'r broses ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ar y tir i gael trwydded amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar dechnolegau Newydd
  5. Nodi opsiynau ar gyfer rhyddhau capasiti ac ailgyfeirio adnodd i feysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt

Byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau yn ystod haf 2022, ar wahân i bwynt b. y byddwn yn adrodd arno yng ngwanwyn 2022.
 

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

(a) Cynhaliwyd Adolygiad Annibynnol o Drwyddedu Morol i ystyried lle gellid gwneud gwelliannau i'r broses. Bu swyddogion yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ganlyniadau'r adolygiad er mwyn sicrhau bod y broses yn addas i'r diben, gan gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer ynni adnewyddadwy'r môr a moroedd iach. 

(b) Cwblhawyd yr adolygiad a Chytundeb Lefel Gwasanaeth arfaethedig yn nodi yr hyn a gyflwynwyd i LlC gan fanylu ar yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu'r gwasanaeth o ddechrau i ddiwedd y broses gan gynnwys cynghori, tystiolaeth a chydsynio. Mae CNC mewn trafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllid a’r arwyddion yw y bydd cyfran o'r cyllid angenrheidiol ar gael. Mae'r trafodaethau hynny hefyd yn cynnwys nodi blaenoriaethau ar gyfer dyrannu'r cyllid sydd ar gael, gan gydnabod bod nifer y cynigion ynni adnewyddadwy eisoes yn cynyddu'n sylweddol.

(c) Mae cyfres wedi'i diweddaru o fylchau tystiolaeth forol ac arfordirol â blaenoriaeth wedi eu cyhoeddi ar wefan CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru / Blaenoriaethau tystiolaeth forol ac arfordirol). Mae cyfran uchel o'r rhain yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae rhai o'r rhain yn cael eu datblygu gan CNC (e.e. dulliau ar gyfer modelu cyfraddau y pysgod sydd yno a gwrthdrawiadau ar gyfer datblygiadau amrediad y llanw), neu sy'n debygol o gael eu symud ymlaen yn 2023 (e.e. lefelau sgil-ddalfeydd mamaliaid morol a geir ym Mharth Cymru) ond mae’r cyfyngu ar adnoddau a chymhlethdod y dystiolaeth sydd ei hangen yn golygu mai dim ond nifer fechan o anghenion y dystiolaeth â blaenoriaeth sydd ei angen sy’n cael ei ddatblygu o dan y trefniadau ariannu presennol.

(d) Nodwyd sawl corff gwneud penderfyniadau perthnasol i weithio ar yr argymhelliad hwn ar y cyd.

(e) Cyflawnwyd
 

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf mae ein blaenoriaethau yn cynnwys:

(a) Cyhoeddi adolygiad o’r dechrau i ddiwedd y broses trwyddedu morol, sy'n cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r broses.

(b) Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £0.95m o gyllid ychwanegol yn 2023/24 i ganiatáu i CNC gyflawni argymhellion yr adolygiad morol o’r dechrau i’r diwedd.

(c) Mae cynnydd y rhaglen dystiolaeth lawnach, yn forol a daearol, yn ddibynnol ar ganlyniad yr achos busnes. 

Bydd CNC hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid allanol ar fentrau tystiolaeth strategol ar y môr.
Mae CNC yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer prosiectau cydweithredol gyda phrifysgolion ond mae'r rhain yn ddibynnol ar allu sicrhau cyllid ymchwil.

(d) Trafodaeth bellach gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau perthnasol i symud yr elfen hon ymlaen.

(e) Cyflawnwyd

8. Ardaloedd adnoddau strategol morol

Argymhelliad  

Byddwn ni, gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol, yn nodi 'meysydd adnoddau strategol' morol erbyn 2023, ac yn rhoi arweiniad i gyfeirio meysydd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu technolegau ynni adnewyddadwy gwahanol. Bydd ein polisïau cynllunio morol, trwyddedu a chadwraeth forol yn cydweithio i gynnig llwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Cafodd rhagor o waith ei wneud dros y cyfnod hwn i ystyried sut i ymdrin â ffactorau amgylcheddol (gan gynnwys adolygu canfyddiadau’r Arfarniad o Reoliadau Cynefin a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol). Mae hyn wedi arwain at newid yr amserlen gyflawni. Disgwylir ymgynghori ar yr Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRA) drafft bellach yn hydref 2023. 

Dyma rai o brif uchafbwyntiau’r cyfnod: 

  • Cynhaliwyd dau ddigwyddiad i randdeiliaid i drafod sut ydym am ystyried ffactorau amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol; 
  • Dosbarthu mapiau adnoddau llinell sylfaen a’u dilysu â rhanddeiliaid, a’u dangos ar Borthol Cynllunio Morol Cymru; 
  • Derbyn allbynnau cyntaf ymarferiad mapio amgylcheddol CNC;
  • Gwneud rhagor o waith ar y cyd â CNC i adolygu canfyddiadau’r Arfarniad o Reoliadau Cynefin a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol;
  • Dechrau gweithio gyda rheoleiddwyr i drafod pa arweiniad sydd ei angen i helpu i roi’r SRAs ar waith

Camau nesaf at gwblhau

Dros y chwe mis nesaf, bydd ein blaenoriaethau’n cynnwys:

  • Cynnal y digwyddiad mapio olaf i randdeiliaid; 
  • Derbyn y mapiau amgylcheddol ddiweddaraf oddi wrth CNC;
  • Datblygu canllaw a deunydd cymorth ar gyfer Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRA);
  • Datblygu mapiau SRA at ddiben ymgynghori;
  • Paratoi ar gyfer ymgynghori ar SRAs drafft nes ymlaen yn 2023, gan gynnwys drafftio Hysbysiadau Cynllunio Morol posibl at ddiben ymgynghori

9. Pwerau cynghori ar y môr (JNCC i CNC)

Argymhelliad

Wrth i ni geisio datganoli Ystâd y Goron, byddwn ni'n symleiddio'r broses o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy'r Môr Celtaidd gan gynnwys dirprwyo pwerau cynghori ar y môr o'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i CNC.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Dyma rai o’r prif uchafbwyntiau:

  • Cwmpasu cynllun drafft a chael Llywodraeth Cymru, CNC a JNCC i gytuno arno; 
  • Rhestru’r goblygiadau, gan gynnwys y rhai o ran adnoddau, wrth drosglwyddo cyfrifoldebau.

Camau nesaf at gwblhau

Yn amodol ar gael cytundeb Llywodraeth Cymru, CNC a JNCC, dros y 6 mis nesaf, bydd ein blaenoriaethau’n cynnwys: 

  • CNC a JNCC i gynnal adolygiad llawn o’r opsiynau dirprwyo mewn cydweithrediad â’r JNCC, Llywodraeth Cymru a Defra gan ymgynghori â datblygwyr yng Nghymru; 
  • CNC a’r JNCC i ofyn i Lywodraeth Cymru, Bwrdd Rhaglen Forol CNC a Phwyllgor y JNCC am benderfyniad terfynol, a efallai rhoi cynlluniau ar waith. 

Cyllid

10. Grŵp Buddsoddi

Argymhelliad   

Byddwn yn sefydlu grŵp o arbenigwyr i edrych ar ffyrdd o dynnu buddsoddiad ychwanegol i lawr mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Byddwn yn blaenoriaethu perchnogaeth leol a chymunedol er mwyn sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol lleol mwyaf posibl.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Ers cyhoeddi adroddiad yr is-grŵp Ynni Adnewyddadwy, mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar roi argymhellion yr adroddiad hwnnw ar waith. Gweler y diweddaraf am hynny isod. 

Camau nesaf at gwblhau

Mae’r adroddiad hwn wedi’i gwblhau. Byddwn yn parhau i fwrw yn ein blaenau â’r argymhellion yn yr adroddiad Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy. 

Argymhellion yr is-grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy

Argymhelliad   

  1. Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ddatblygu menter/Siarter partneriaeth gyda'r sector ynni adnewyddadwy masnachol: gyda'r sector yn ymrwymo i safonau ynglŷn â buddion lleol a chymunedol, buddion o ran y gadwyn gyflenwi; a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi'r weledigaeth i Gymru fod yn allforiwr net o ynni adnewyddadwy, gan gyhoeddi targedau ynni adnewyddadwy wedi eu diweddaru ac eglurder o ran gofynion perchnogaeth gymunedol.   
  2. Wrth i gronfeydd pensiwn Cymru fynd ati i weithredu eu gofynion cyfreithiol i reoli eu cronfeydd a goruchwylio risgiau, gan gynnwys amddiffyn y cronfeydd pensiwn rhag risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i achub ar y cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ddulliau presennol megis y Cyngor Partneriaeth. Mae gan y sector ynni adnewyddadwy rôl bwysig hefyd wrth hybu cyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn hwyluso buddsoddiad, er enghraifft drwy ddod â rheolwyr cronfeydd pensiwn a datblygwyr ynni adnewyddadwy ynghyd i archwilio'r cyfleoedd hyn ymhellach.
  3. Dylai Banc Datblygu Cymru (DBW) barhau i ddatblygu'r achos busnes ar gyfer buddsoddi mewn datblygiadau ynni adnewyddadwy. Dylai buddsoddiad gan DBW lenwi bylchau a nodwyd lle nad yw'r modelau presennol ar gyfer perchnogaeth leol a chymunedol yn bosibl. Dylai enillion o fuddsoddiadau gefnogi buddsoddiad economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau lleol.
  4. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r cynnydd o ran gweithredu argymhellion ynghylch y grid o'r gwaith ymchwil manwl a diwygiadau ehangach y DU. Ar ôl yr adolygiad hwnnw, os yw maint a chyflymder y newid yn parhau i fod yn annigonol i ddiwallu anghenion Cymru, dylai adolygu a cheisio gwneud defnydd o'r holl ysgogiadau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i annog buddsoddiad uniongyrchol yn seilwaith y grid yng Nghymru.
  5. Gyda chyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i Ynni Cymunedol Cymru (CEW) hybu cynigion cyfranddaliadau cymunedol, mae angen cwblhau gwaith i ddeall pam bod y nifer sy'n manteisio arnynt yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU.  Mae angen i CEW allu dangos effaith gadarnhaol eu gweithgarwch a sicrhau bod gan bobl amddiffyniad digonol wrth ystyried buddsoddiad. Dylai CEW adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd y cyllid ychwanegol ac adrodd ar unrhyw fylchau mewn cyllid, os oes rhai.  

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Dyma rai o brif uchafbwyntiau’r 6 mis diwethaf: 

Bargen â’r Sector
  • Mae Llywodraeth eisoes wedi cyflawni rhai agweddau ar y fenter/siarter – gan gynnwys cyhoeddi’r ymgynghoriad ar y targedau ynni adnewyddadwy newydd a’r canllaw newydd ar berchenogaeth leol a chymunedol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n trafod â Renewable UK Cymru ar y ffordd orau i ddatblygu menter/siarter partneriaeth â’r sector adnewyddadwy masnachol yng Nghymru. 
Cyfleoedd i ddefnyddio cronfeydd pensiwn Cymru
  • Cytundeb y byddai Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth ar gyfer datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus erbyn 2030, hynny i gyd-fynd â’r targedau sero net ar gyfer y sector cyhoeddus. 
  • Cyfarfodydd rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion Partneriaeth Pensiynau Cymru (WPP) i drafod manylion y gwaith hwn. 
  • Rhoi Datgarboneiddio Pensiynau Llywodraeth Leol ar agenda Cyngor Partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd 2022. Cafwyd adroddiad gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru ar hynt y gwaith a chynlluniau ar gyfer datgarboneiddio pensiynau cyfun Llywodraeth Leol. Mynegwyd cefnogaeth i hyn ac roedd aelodau’n frwd dros weld llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru’n cydweithio ar y mater. 
  • Cyfarfod rhwng y Prif Weinidogion a Jack Sargeant AS a Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear Cymru yn Ionawr 2023 i drafod beth arall y gellid ei wneud i annog a helpu llywodraeth leol i ddatgarboneiddio’u pensiynau a symud at sero net, gan nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru rym statudol i osod targedau.  Yn dilyn y cyfarfod, cytunwyd bod Jack Sargeant yn trafod y pwnc eto gyda CLlLC ac eraill, i ddatblygu syniadau a chynigion cadarn. 
  • Fel rhan o’r rhaglen Datblygu Ynni Adnewyddadwy, mae trafodaethau ar ddechrau gydag awdurdodau pensiynau Llywodraeth Leol i ystyried y diddordeb mewn buddsoddi mewn ynni’r gwynt, o fodloni’r gofynion diwydrwydd dyladwy. 
Datblygu cefnogaeth Banc Datblygu Cymru i ynni adnewyddadwy
  • Trafodaethau rhwng Banc Datblygu Cymru (DBW) a datblygwyr ynni adnewyddadwy i ddeall y bylchau buddsoddi y gallai’r DBW ei hun eu llenwi neu drwy ariannu grŵp cymunedol lleol; 
  • Mae’r DBW yn parhau i gynnig arian o’r Gronfa Ynni Lleol i gefnogi datblygwyr llai sydd â phrosiectau ynni lleol; 
  • Lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd y DBW sy’n rhoi cymorth ariannol i fusnesau i fuddsoddi mewn datgarboneiddio. Mae nifer o’r ceisiadau cychwynnol yn ymwneud ag ynni solar. 
Rhoi’r argymhellion ynghylch y Grid ar waith: 
  • Gweler y diweddaraf am y Grid uchod.
Rhoi argymhellion Ynni Cymunedol Cymru (CEW) ar waith:
  • Gweler y diweddaraf am CEW uchod.
     

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf, bydd ein blaenoriaethau’n cynnwys: 

  • Chwilio am gyfleoedd i helpu i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru a manteisio arnyn nhw. 
  • Mynd i gynhadledd Newid Hinsawdd CLlLC (fel rhan o elfen Arwain y Rhaglen Cymorth Hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu arian ati) i fynd â thrafodaethau blaenorol am ddatgarboneiddio pensiynau yn eu blaen a thrafod a oes modd i ni ymrwymo i ddatgarboneiddio pensiynau cyhoeddus Cymru erbyn 2030 i gyd-fynd â’n hymrwymiad i wneud y sector cyhoeddus yn sero net erbyn 2030. 
  • Parhau i hybu datgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghyngor Partneriaeth Cymru.

11. Contract ar gyfer gwahaniaeth

Argymhelliad   

Byddwn ni'n ceisio creu cynghrair gyda Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod proses Contract ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) Llywodraeth y DU yn esblygu'n briodol i:

  • adlewyrchu uchafiaeth datblygu'r gadwyn gyflenwi ac
  • i gyflawni llwybr datblygu cydlynol a chytbwys ar gyfer technolegau masnachol cynnar a rhai newydd.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Rydyn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ein prif ofynion o ran y Contractau ar gyfer Gwahaniaeth ac yn parhau i wasgu bod y broses yn sicrhau buddion tymor hir i’r cymunedau sy’n cynnal datblygiadau adnewyddadwy. 
Dyma rai o’r prif uchafbwyntiau: 

  • Dadansoddi dyraniadau Rownd 4 i ddeall y canlyniadau i Gymru yn well.
  • Tynnu sylw Llywodraeth y DU at y risg y gallai’r pris taro (strike price) am ynni gwynt arnofiol y môr fod yn rhy fach i gynnal y dechnoleg newydd hon, a gallai sarnu hyder buddsoddwyr. 
  • Gwasgu am fwy o bot arian wedi’i glustnodi ar gyfer ynni tonnau a’r llanw sydd â digon o gapasiti ar gyfer mynd â phrosiectau yng Nghymru yn eu blaen. 

Camau nesaf at gwblhau

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i gwblhau ac mae ein gwaith i ddylanwadu ar rowndiau bidio am y Contractau ar gyfer Gwahaniaeth wedi symud bellach i fusnes fel arfer. 

12. Trethi annomestig

Argymhelliad    

Byddwn ni'n edrych ar yr opsiynau i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol trwy Ardrethi Annomestig.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Dyma rai o’r prif uchafbwyntiau:

  • Ymgynghori ar ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
  • Asesu’r posibilrwydd o barhau i gynnig cymorth y dreth ar gyfer cynlluniau hydro cymunedol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn parhau’n hyfyw ac yn esgor ar fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol i gymunedau yng Nghymru. 

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf, bydd ein blaenoriaethau’n cynnwys: 

  • Ystyried opsiynau ar gyfer darparu cymorth y dreth tymor hir i gynhyrchwyr ynni cynaliadwy lleol a chymunedol.

13. Grŵp caffael

Argymhelliad 

Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu i adolygu opsiynau ar gyfer sut y gall caffael gyflymu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar werth economaidd a chymdeithasol lleol i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  1. Gwella polisi caffael i ymgorffori gwerth cymdeithasol gan gynnwys archwilio gyda datblygwyr masnachol sut y gallant ddiwallu'r angen lleol orau.
  2. Opsiynau ar gyfer defnyddio pŵer prynu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi llwybrau dibynadwy i'w marchnata ar gyfer prosiectau ynni'r gymuned a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys trwy Gytundebau Prynu Pŵer hirdymor.
  3. Sut y gall gwasanaethau cyngor a chymorth gynorthwyo datblygwyr ynni cymunedol yn well i gael mynediad at gyfleoedd yn y farchnad.
  4. Sut mae ymgysylltu'n well â'r sector ynni cymunedol yn Rhaglen ariannu Cymru.
  5. Sut y gellir lledaenu arferion gorau, gan gynnwys bwydo i grŵp arferion gorau Llywodraethau Cymru neu'r Ganolfan Rhagoriaeth Caffael pe bai'n cael ei sefydlu.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Byddwn yn bwrw yn ein blaenau gyda’r argymhelliad hwn dros y 6 mis nesaf, gyda swyddogion ac aelodau’r archwiliad dwfn yn dadansoddi'r opsiynau ar gyfer Cytundebau Prynu Pŵer (PPAau) ynghyd â chefnogaeth ehangach ar gyfer caffael.

Bydd hyn hefyd yn bwydo i argymhelliad 16 ar gyfleoedd i fentrau cymunedol ddefnyddio’r ystâd gyhoeddus.

Camau nesaf at gwblhau

Rydym wedi trefnu sesiwn i ystyried yr opsiynau ar gyfer PPA a deall sut y gallai’r opsiynau ddod â budd i gymunedau.  Rydym yn trafod â CEW a WGES i ddeall sut olwg fyddai ar yr opsiynau ar gyfer PPA.  Rydym hefyd yn cydweithio â swyddogion caffael Llywodraeth Cymru i ddeall a oes rhwystrau caffael y gallen nhw helpu cymunedau / cyrff sector cyhoeddus i’w trechu. 

Ynni cymunedol a lleol

14. Adnoddau ar gyfer Ynni cymunedol / lleol

Argymhelliad    

Byddwn yn cynyddu adnoddau i gefnogi ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol yng Nghymru gan gynnwys:

  1. Gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyda staff a chymorth ariannol i sicrhau darpariaeth ar gyfer datblygu prosiect gwres, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth gymunedol (gan barhau gyda thrydan adnewyddadwy) a chymorth ar gyfer perchnogaeth a rennir
  2. Camau gan y llywodraeth i annog datblygwyr preifat i gynnwys opsiynau ar gyfer rhannu perchnogaeth leol a chymunedol, gan gynnwys trwy dendrau a gyhoeddwyd ar dir cyhoeddus.
  3. Cyllid Llywodraeth Cymru i adeiladu capasiti ychwanegol mewn mentrau cymunedol i'w helpu i ddechrau graddio eu gwaith a mentora sefydliadau llai, i greu sector mwy a chynaliadwy.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Mae gwaith ar yr argymhelliad hwn yn mynd rhagddo’n dda ac mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi ynni cymunedol a lleol. 

Dyma rai o’r uchafbwyntiau dros y 6 mis diwethaf:

  • Mae CEW wedi recriwtio tîm newydd fydd yn helpu i roi’r argymhelliad ar waith;  
  • Parhau i weithio gyda CEW ac WGES i roi cyngor ar y buddion a geir o ganiatáu i gymunedau ddefnyddio’r ystâd gyhoeddus. 

Camau nesaf at gwblhau

Dyma rai o’r blaenoriaethau ar gyfer y 6 mis nesaf: 

  • Datblygu cynlluniau gyda Gwasanaeth Ynni newydd Llywodraeth Cymru i helpu cymunedau wrth weithio gyda datblygwyr preifat;
  • Ystyried opsiynau ar gyfer ariannu grantiau i grwpiau cymunedol i gyflogi pobl leol i gyflymu prosiectau a dechrau datblygu gwaith newydd; 
  • Ystyried sut y gallai arian ychwanegol i Ynni Cymunol Cymru (CEW) helpu cymunedau i weithio’n uniongyrchol ar y Cynlluniau Ynni Ardal Leol sy’n cael eu datblygu gan awdurdodau lleol a helpu i ehangu ynni cymunedol a datblygu SLES o fewn y cynlluniau. 
  • Defnyddio’r uchod i sicrhau bod lleisiau’r gymuned yn cael eu clywed a’u bod yn helpu i ddatblygu’r cynlluniau yn ogystal â sicrhau bod cymunedau’n deall y cyfleoedd ar gyfer gweithredu lleol y gallai’r cynlluniau eu nodi. 

15. CEW a Datblygwr dan Berchnogaeth Gyhoeddus (Ynni Cymru)

Argymhelliad  

Byddwn yn sicrhau bod y sector sy'n eiddo i'r gymuned yn cymryd rhan ac yn rhoi mewnbwn i Ynni Cymru gan ystyried y 3 opsiwn canlynol:

  1. Mae lles y sector ynni cymunedol ynghlwm yn y datblygwr dan berchnogaeth gyhoeddus 
  2. Mae LlC yn buddsoddi mewn sefydliad ynni cymunedol i ddarparu'r gwaith hwn e.e., YnNi Teg, Egni neu gwmni cydweithredol o gwmniau Ynni cydweithredol.
  3. Mae LlC yn buddsoddi yn y datblygwr ynni dan berchnogaeth gyhoeddus a datblygwr ynni sy'n eiddo i'r gymuned = dau gorff gydag adnodd i ddatblygu prosiectau.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Gweinidogion Llywodraeth Cymru’n cytuno ar gwmpas a maint y datblygwr ynni adnewyddadwy cyhoeddus.

Camau nesaf at gwblhau

Wrth i rannau gwahanol y gwaith fynd yn eu blaenau, byddwn yn trafod â’r sector cymunedol. 

16. Mynediad ynni cymunedol i’r ystad gyhoeddus

Argymhelliad   

Byddwn yn gwella mynediad i'r ystâd gyhoeddus i'r sector ynni cymunedol drwy (a) mae gan fentrau cymunedol hawliau i gynnig cyntaf os nad yw'n cael ei ddatblygu gan gorff cyhoeddus (b) strwythuro prosesau tendro i ffafrio prosiectau / cynlluniau cymunedol cymdeithasol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Rydym wedi cynnal arolwg o gyfleoedd ar Ystâd Goetiroedd Llywodraeth Cymru. Rydym wrthi’n edrych ar hyfywedd y safleoedd mwyaf addawol wrth baratoi ar gyfer lansio’r cwmni yn Ebrill 2024.  Mae Cyfarwyddwr Anweithredol cymunedol ein Bwrdd yn dal ati i herio’r rhaglen i ystyried sut i gynnwys y gymuned. 

Unwaith y bydd y cwmni wedi’i sefydlu, byddwn yn gweithio gydag CNC a chymunedau i nodi’r rhannau hynny o’r ystâd a allai fod o ddiddordeb i gymunedau a sicrhau bod unrhyw broses dendro’n cefnogi canlyniadau cymdeithasol/cymunedol. 

Bydd y Cynlluniau Ynni Ardal Leol a ddatblygir yn sylfaen gadarn ar gyfer nodi rhagor o gyd-brosiectau posib ar gyfer cyrff cyhoeddus a chymunedau yn yr ardal. 

Dylai’r trafodaethau hyn arwain at hwyluso’r defnydd o’r ystâd gyhoeddus gan y sector ynni cymunedol, yn enwedig gyda help y Gwasanaeth Ynni i dynnu sylw at fanteision cydweithio o’r fath. 

Camau nesaf at gwblhau

Rydym yn disgwyl gallu datblygu’r gwaith hwn yn 2024 yn dilyn sefydlu’r cwmni.

17. Canllawiau perchnogaeth

Argymhelliad  

Byddwn yn cwblhau ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r canllawiau ar ranberchnogaeth, gan gynnwys yr hyn sy'n bodloni'r diffiniad o 'ranberchnogaeth', ac yn gweithio'n agos gyda datblygwyr preifat i gael yr effaith fwyaf posibl. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau yn ystod gwanwyn 2022.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

Byddwn yn rhoi adroddiad ar ein targedau perchenogaeth leol yn ein cyhoeddiad rheolaidd am Gynhyrchu Ynni yng Nghymru. 

Camau nesaf at gwblhau

Mae’r argymhelliad wedi’i gwblhau. 

Gwerth economaidd a chymdeithasol

18. Seilwaith porthladdoedd a morol (TCE a Llywodraeth y DU)

Argymhelliad    

Byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd i arbenigo a chydweithio, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod i fuddsoddi ynddynt. Rydym yn galw ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud y gorau o werth cyfleoedd datblygu'r gadwyn gyflenwi a'r seilwaith yng Nghymru o'u cylchoedd prydlesu.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau’n flaenoriaeth yn enwedig oherwydd y cysylltiad rhwng cyfleoedd Ynni Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW) a rhyddhau prydlesi ar wely'r môr, a phenderfyniadau yn y dyfodol o ran y broses Contractio ar gyfer Gwahaniaeth (gweler argymhelliad 11). Mae ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Cymorth yn fuan yn y broses trwy neilltuo hyd at £1m o arian cyfatebol i Bort Talbot. Mae’r trafod â Doc Penfro yn parhau;  
  • Mae model ariannol wedi’i ddatblygu a’i drafod â’r porthladdoedd fydd yn ystyried y risg i refeniw o gofio amseriad a gwelededd y broses ddatblygu tymor hir. Caiff model caboledig ei ddefnyddio i ystyried trafodaethau ac opsiynau posib gyda chyd-gyllidwyr posib – Ystadau’r Goron, UKIB ac UKG. 

Camau nesaf at gwblhau

Bydd ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys: 

  • Trafodaethau â Banc Buddsoddi’r DU am fuddsoddiadau posibl – yn yr arfaeth o fewn y 3 – 6 mis nesaf. Yn gysylltiedig â’r pwynt bwled isod; 
  • Bwrw ymlaen â strategaeth Ynni Gwynt Arnofiol yn y Môr (FLOW) ar gyfer datblygu Port Talbot a Doc Penfro. Mae’r ddau borthladd wedi gwneud cais gyda’r awdurdod lleol am statws porthladd rhydd ac wedi cyfuno’u ceisiadau am arian FLOWMIS (yn aros am y broses/cyhoeddiad terfynol); 
  • Parhau i ystyried y cyfleoedd i ddenu mwy o brosiectau tyrbinau ar sylfeini yn y gogledd.

19. Cynllun gweithredu sgiliau sero net

Argymhelliad    

Wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022 byddwn yn cefnogi mwy o gydweithio mewn diwydiant er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

Cafodd y Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net ei gyhoeddi ar 28 Chwefror 2023. Mae’n cynnwys 7 maes gweithredu:

  • Deall y sefyllfa ar hyn o bryd o ran sgiliau ym mhob sector allyrru; 
  • Cyd-ddeall pa sgiliau net sero a geir ledled Cymru; 
  • Meithrin gweithlu crefftus i wireddu’n hymrwymiad i sero net; 
  • Cryfhau’r system sgiliau; 
  • Hybu cyfleoedd i bobl ifanc wireddu’u potensial; 
  • Gweithio ar draws y llywodraeth ac mewn partneriaethau i wireddu’n ymrwymiad i sgiliau; 
  • Newid cyfiawn.

Mae’r cynllun ar gael yma: Cynllun gweithredu sgiliau sero net

Camau nesaf at gwblhau

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i gwblhau.

20. Rhaglen adnewyddadwy'r diwydiant

Argymhelliad    

Gan weithio gyda diwydiant, byddwn yn cwmpasu rhaglen waith i osod cymaint a phosibl o osodiadau ynni adnewyddadwy, hyblygrwydd a storio ar safleoedd busnes a diwydiannol. Bydd y rhaglen yn edrych ar ddulliau o gefnogi ac osgoi risg wrth fuddsoddi.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae prif uchafbwyntiau’r cyfnod yn cynnwys: 

  • Gwneud Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW) yn gwmni corfforedig gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr; 
  • Mae NZIW yn gweithio ar gais i Launchpad, rhaglen a noddir gan Lywodraeth y DU; 
  • Yn sgil lansio cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru, gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu ffyrdd i ddatgarboneiddio. 

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn arwain at raglen waith barhaus ynghylch Diwydiant Sero Net Cymru. Bydd ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Penderfynu sut y caiff y corff ei lywodraethu a chyhoeddi rhaglen o waith disgwyliedig, gan gynnwys gwneud y gorau o gyfleoedd i osod paneli solar ar doeon diwydiannol; 
  • Parhau i gydweithio i fynd â chynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru yn ei flaen.

Arloesi

21. Rhanddirymiad Rheoleiddiol yng Nghymru gydag Ofgem

Argymhelliad  

Byddwn yn galw ar Ofgem i ddatblygu rhanddirymiad rheoleiddiol yng Nghymru i alluogi arloesedd modelau busnes ynni i gefnogi argymhellion ehangach yr Ymchwiliad Dwfn Ynni Adnewyddadwy. Dylai amcanion y rhanddirymiad gynnwys:

  1. Cyflymu graddfa ynni adnewyddadwy yng Nghymru
  2. Galluogi arloesi modelau busnes ynni
  3. Gwireddu manteision a chyd-fanteision ehangach ynni adnewyddadwy (o safbwynt Cymru a systemau ynni)
  4. Datgloi gwerth y system ynni, fel y gwerth o hyblygrwydd galw cwsmeriaid a defnyddwyr rhwng cyfoedion i fasnachu a chyflenwi trydan lleol
  5. Ymgysylltu'n well a diogelu buddiannau dinasyddion Cymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Rydym wedi gweithio gyda’r tîm sy’n dod â rhaglen arloesi ynni FLEXIS i ben ac wedi nodi meysydd lle gallwn gydweithio ynddyn nhw â’r byd academaidd, timau ynni rhanbarthol a busnesau. Nid ydym wedi gweld prosiect eto allai elwa ar randdirymiad. 

Mae’r Rhaglen ôl-osod wedi’i Optimeiddio yn treialu prosiectau o gwmpas modelau busnes arloesol ac yn gwireddu gwerth systemau. Rydym yn parhau i fonitro a pharatoi ar gyfer rhannu syniadau allweddol. 

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae ein blaenoriaethau am y 6 mis nesaf yn cynnwys: 

  • Defnyddio cynlluniau ynni lleol (argymhelliad 2) i ddatgelu’r heriau i’r drefn reoleiddio a chyllido fel tystiolaeth i’w chyflwyno i Ofgem ar gyfer ateb credadwy.  Gyda’r cynlluniau i ddod i ben ym mis Mawrth 2023, rhagwelir y caiff y gwaith hwn ei wneud yn ddiweddarach y flwyddyn honno.