Neidio i'r prif gynnwy

Ar 23 Tachwedd, fe wnaeth y Prif Weinidog gyfeirio ei hunan am gyngor o dan God y Gweinidogion ynglŷn â’r atebion a roddwyd i Aelodau’r Cynulliad yn 2014 a 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol:

“Ar 23 Tachwedd, fe wnaeth y Prif Weinidog gyfeirio ei hunan am gyngor o dan God y Gweinidogion ynglŷn â’r atebion a roddwyd i Aelodau’r Cynulliad yn 2014 a 2017. Cytunodd James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar faterion yn ymwneud â Chod y Gweinidogion, i ymgymryd â’r gwaith hwn, ac mae eisoes wedi dechrau.

“Y cylch gorchwyl a osodwyd gan y Prif Weinidog ar gyfer Mr Hamilton yw rhoi cyngor ar: yr honiad imi dorri Cod y Gweinidogion o ran yr atebion a roddais i gwestiynau ar 11 Tachwedd 2014 a 14 Tachwedd 2017.

“Nid yw Cod y Gweinidogion yn rhagnodi hyd a lled y broses, ei ffurf na’r dull o’i gweithredu. Mater i Mr Hamilton yn awr yw pennu sut mae gweithredu ar y mater a gyfeiriwyd. Darparwyd ysgrifenyddiaeth ar gyfer Mr Hamilton, a sefydlwyd mesurau diogelu priodol i sicrhau bod y broses hon, ac unrhyw ddeunydd a gyflwynir, wedi’u gwahanu’n briodol oddi wrth Swyddfa’r Prif Weinidog a gweddill Llywodraeth Cymru.

“Gall unrhyw un sy’n dymuno cysylltu ag ysgrifenyddiaeth Mr Hamilton gyda deunydd sy’n berthnasol i’r cylch gorchwyl wneud hynny drwy ymchwiliadatgyfeirio@wales-uk.com. Caiff deunydd sy’n gysylltiedig â’r broses ei storio ar wahân ac yn annibynnol ar unrhyw un o systemau mewnol eraill Llywodraeth Cymru.

“Caiff canfyddiadau Mr Hamilton eu gwneud yn gyhoeddus unwaith y bydd wedi cwblhau ei waith.”