Cyfarfod, Dogfennu
Diweddariad ar Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol: papur i'w nodi
Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol nodi cynnwys y papur hwn a chynnydd y gwaith i sefydlu is-grŵp caffael o’r Cyngor a dod â Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i rym.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 98 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cychwyn
- Nid yw Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, ac Adrannau 9 a 10 sy'n ymwneud â sefydlu is-grŵp caffael y Cyngor, wedi cychwyn eto.
- Mae'r adrannau hyn o'r Ddeddf yn perthyn yn fras i dri chategori: diffiniadau; dyletswyddau neu ddarpariaethau i Weinidogion Cymru ddatblygu is-ddeddfwriaeth a chanllawiau; a dyletswyddau i'w gosod ar Awdurdodau Contractio.
- Disgwylir i'r gorchymyn cychwyn cyntaf gael ei wneud ym mis Ebrill. Bydd hyn yn cynnwys adrannau o'r Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion ddatblygu is-ddeddfwriaeth, y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol a’r cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol, y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu (y Cod Dwy haen newydd), ac i gyhoeddi canllawiau, gan gynnwys canllawiau ar gyfansoddiad is-grŵp caffael y Cyngor.
- Yn dilyn y gorchymyn cychwyn cyntaf, bydd gwaith yn cychwyn ar yr is-ddeddfwriaeth, y cod a'r cymalau, a'r canllawiau. Bydd swyddogion yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan rannu cynnydd gyda'r Cyngor wrth i ddeunydd gael ei ddatblygu, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan ymgynghoriad agored ar lawer o'r deunydd.
- Unwaith y bydd y rheoliadau a dogfennaeth eraill wedi'u cwblhau, bydd ail orchymyn cychwyn yn cael ei wneud, gan ddod â'r dyletswyddau ar awdurdodau contractio yn Rhan 3 i rym.
Rheoliadau
- Mae angen gwneud pedair set o reoliadau cyn y gellir cychwyn Rhan 3.
i. Newid yr ymadrodd "pobl ag anableddau" i "bobl anabl" yn yr adran am gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol. Mae hyn er mwyn defnyddio iaith sy'n gyson â'r model cymdeithasol o anabledd.
ii. Diffinio "caffaeliadau rhagnodedig" fel contractau sydd uwchlaw’r trothwyon hysbysebu a bennir yn Neddf Caffael 2023. Uwchlaw’r trothwyon hyn, rhaid i awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion.
iii. Diffinio "contractau cofrestradwy" i'w cynnwys mewn cofrestrau contractau cyhoeddedig.
iv. Rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau contractio ei chynnwys yn eu hadroddiadau blynyddol i ddangos sut maent wedi cyfrannu at nodau llesiant drwy eu caffael dros y flwyddyn ariannol flaenorol.
- Mae'r amserlen fanwl ar gyfer datblygu'r rheoliadau hyn yn cael ei chwblhau, ond disgwylir y bydd yr ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn yn digwydd yn yr hydref, gyda gwaith craffu'r Senedd wedi’i gwblhau erbyn dechrau 2026.
- Mae gwaith wedi'i wneud, gan gynnwys trafodaethau gyda phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ar yr "wybodaeth" (metrigau llesiant) sydd i'w chynnwys mewn adroddiadau blynyddol. Mae cynlluniau ar gyfer sut y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chofnodi a'i hadrodd hefyd yn cael eu datblygu.
Rhan 3: Caffael Cymdeithasol Gyfrifol: diweddariad ar ddeunydd ategol a chanllawiau
- Mae drafft o'r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu, gyda'i gymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol cysylltiedig, wedi cael ei drafod â rhanddeiliaid, gan gynnwys y Cyngor. Bydd hyn hefyd yn destun ymgynghoriad ffurfiol ar ôl i'r gorchymyn cychwyn cyntaf gael ei wneud.
- Mae gwaith ar y cymalau contractau adeiladu drafft (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol) wedi'i wneud, gan gynnwys trafodaethau gyda rhanddeiliaid. Mae swyddogion yn gweithio ar ddrafft o'r cymalau hyn, ynghyd â'r canllawiau cysylltiedig, gyda'r nod o fod yn barod ar gyfer ymgynghori’n ffurfiol unwaith y bydd y gorchymyn cychwyn cyntaf wedi'i wneud.
- Mae swyddogion yn gweithio ar adrannau eraill o’r canllawiau, a ddisgrifir yn adran 43 o'r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar gyflawni caffael mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol, pennu amcanion llesiant caffael, ac ymarferoldeb y broses hysbysiadau sy'n ofynnol pan fydd awdurdodau contractio yn penderfynu peidio â chynnwys y cymalau gweithiau a'r gweithlu mewn contractau perthnasol. Gwahoddir partneriaid cymdeithasol i gymryd rhan yn natblygiad y canllawiau.
Adrannau 9 a 10: is-grŵp caffael y Cyngor
- Mae'r Ddeddf yn mynnu bod tri cham yn cael eu cymryd i sefydlu'r is-grŵp caffael statudol. Yn gyntaf, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfansoddiad y grŵp fel y nodir yn Adran 9(5). Yna, o fewn 6 mis i adran 9 ddod i rym, rhaid i'r grŵp gael ei sefydlu gan y Cyngor a rhaid i’w weithdrefnau gael eu sefydlu a'u cyhoeddi.
- Bydd drafft o'r ddogfen ganllaw yn cael ei anfon at y Cyngor pan fydd ar gael - rydym yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd dros yr ychydig wythnosau nesaf.
- Y prif gamau yw:
i. cwblhau’r cynnig ar gyfer cyfansoddiad yr is-grŵp;
ii. trafod y cynnig gyda'r Cyngor;
iii. cytuno ar y cynnig gyda Gweinidogion Cymru;
iv. cyhoeddi canllawiau ar gyfansoddiad yr is-grŵp; a
v. chyflawni'r broses benodi a datblygu'r gweithdrefnau i alluogi i'r is-grŵp weithredu'n effeithiol.
- Y bwriad yw cyhoeddi'r canllawiau ym mis Mai, gyda'r broses benodi wedi'i chwblhau cyn Nadolig 2025. Bydd diweddariadau pellach ar yr amserlen yn cael eu rhannu gyda'r Cyngor yn fuan.
- Daeth Deddf Caffael y DU 2023 a rheoliadau Cymru i rym ddydd Llun 24 Chwefror, ac maent yn ymdrin â'r broses gaffael yn bennaf. Mae'r dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol yn y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ymwneud â chanlyniadau a sicrhau bod y nodau llesiant yn cael eu dilyn drwy gaffael.
- Cafodd y Ddeddf Gaffael ei phasio gan Lywodraeth y DU yn 2023, ac ers Etholiad Cyffredinol y DU mae'r Llywodraeth newydd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd tuag at newidiadau pellach i'r drefn gaffael.
- Mae'r Bil Hawliau Cyflogaeth yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gwelliant i'r Ddeddf Caffael er mwyn caniatáu ailgyflwyno Cod gweithlu dwy haen, ac mae'n debygol y bydd newidiadau pellach yn dilyn. Bydd yn bwysig ystyried goblygiadau hyn nid yn unig ar Awdurdodau Contractio Cymru a restrir yn Atodlen 1 y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, sy'n cael eu cwmpasu gan y Dyletswyddau Caffael Cymdeithasol Gyfrifol, ond hefyd ar awdurdodau contractio Cymru fel y disgrifir yn Neddf Caffael 2023 nad ydynt wedi'u cynnwys yn Atodlen 1.
Y camau nesaf
- I grynhoi, bydd y canllawiau drafft ar gyfansoddiad yr is-grŵp caffael yn cael eu rhannu gyda'r Cyngor yn fuan. Unwaith y bydd y gorchymyn cychwyn cychwynnol yn cael ei wneud, bydd ymgyngoriadau ar y cymalau gweithiau a'r gweithlu a chod y gweithlu yn cael eu trefnu. Bydd dogfennaeth ddrafft ac amserlenni ar gyfer yr ymgyngoriadau hyn yn cael eu rhannu gyda'r Cyngor.
- Bydd swyddogion yn hapus i drefnu sesiynau briffio technegol gyda'r Cyngor pe bai hynny'n ddefnyddiol.
