Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Pan gyhoeddwyd ein Cyllideb ar gyfer 2023-24, er ei bod yn un o'r rhai anoddaf ers datganoli, bu inni fanteisio ar yr holl adnoddau a oedd ar gael i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a darparu cymorth wedi'i dargedu i bobl a busnesau a oedd â'r angen mwyaf yn wyneb yr argyfwng costau byw.

Ers pennu'r cynlluniau hyn, rydym wedi gweld lefelau hir o chwyddiant ynghyd â heriau parhaus yn y cyd-destun cyllidol, yn enwedig mewn meysydd megis tâl y sector cyhoeddus. O ganlyniad, yn gyffredinol, rydym yn gorfod gwario mwy na'r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wario yn flaenorol eleni, gan roi pwysau digynsail ar Gyllideb ddatganoledig Cymru.

Yn wahanol i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu'n fawr gan gyfuniad o'r Fframwaith Cyllidol, gofyniad i gydbwyso'r gyllideb a'r cyfyngiadau ar ein gallu i fenthyca neu gynyddu refeniw trethi. Er mwyn delio â phwysau penodol sy'n wynebu'r GIG a'r rheilffyrdd, rydym yn gorfod ailddyrannu cyllid sy'n golygu gostyngiadau mewn rhai meysydd.

Rydym wedi cymryd camau darbodus drwy ailedrych ar gynlluniau gwario ar gyfer 2023-2024, i'n galluogi i gydbwyso ein dyletswydd o reolaeth gyllidol gadarn ag ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus gan barhau i dargedu cymorth yr un pryd i'r rhai sydd â'r angen mwyaf i'r graddau y gallwn wneud hynny.

Bydd y newidiadau yr ydym wedi'u gwneud yn cael eu ffurfioli'n fanwl yn yr Ail Gyllideb Atodol a gaiff ei gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Mae'r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o brif ganlyniadau'r adolygiad.

Asesiad cryno

Roedd set o egwyddorion clir yn sail i'r gwaith hwn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau craidd yn cael eu diogelu cyn belled â phosibl ac i sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd a gafodd eu bwrw galetaf gan yr argyfwng costau byw presennol. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i bwysigrwydd diogelu swyddi. Drwy ddefnyddio'r dull gweithredu hwn:

  • Bydd y newidiadau y cytunwyd arnynt yn arwain at gynnydd sylweddol mewn cyllid ar gyfer GIG Cymru a Thrafnidiaeth Cymru eleni. Rydym wedi gwneud penderfyniad i ddiogelu'r Grant Cynnal Refeniw presennol i'r awdurdodau lleol.
  • Er mwyn cyflawni hyn, bu angen i bortffolios Gweinidogol eraill gyfrannu at fodloni'r pwysau yr ydym yn eu hwynebu ar sail drawslywodraethol. Mae arbedion sydd wedi'u gwneud yn deillio o ailragymcanu (er enghraifft oherwydd newidiadau yn y nifer sy'n derbyn gwasanaethau, neu'r galw amdanynt); cynyddu incwm i'r eithaf; ac ail-flaenoriaethu gweithgarwch gymaint â phosibl, yn hytrach na rhoi'r gorau i raglenni yn eu crynswth.
  • Mae'n anochel y bydd gan rai arbedion effeithiau negyddol tebygol. Ym mhob achos, rydym wedi gweithio'n galed i gynnal cyllid ac i gymryd camau lliniaru lle bo modd, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i leihau effeithiau.

I gyflawni hyn rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Manteisio i'r eithaf ar ein cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn a chronfeydd wrth gefn Cymru tra'n cynnal lefel ddarbodus o gyllid wrth gefn
  • Cynllunio ar sail defnyddio symiau canlyniadol a ddisgwylir oddi wrth Lywodraeth y DU
  • Gofyn am newid o gyfalaf i refeniw oddi wrth Lywodraeth y DU
  • Gwneud cyfuniad o arbedion refeniw a chyfalaf mewn cyllidebau adrannol (MEGs).

Mae rhai o'r penderfyniadau sy'n deillio o'r dull hwn yn benderfyniadau gwario un tro yn unig, ond bydd gan rai oblygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Byddwn yn gweithio ar y rhain wrth inni ddatblygu Cyllideb Ddrafft 2024-2025. 

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'r GIG yng Nghymru yn wynebu'r pwysau ariannol mwyaf yn ei hanes diweddar. Y rheswm dros hwn yw effeithiau chwyddiant ar gostau gan gynnwys ynni, meddyginiaethau a phwysau sy'n gysylltiedig â thâl a thros ddegawd o dangyllido gwasanaethau cyhoeddus gan gyfres o lywodraethau'r DU.  Mae'r GIG yng Nghymru hefyd yn parhau i weld pwysau parhaus sy'n gysylltiedig â phandemig Covid a'r galw cynyddol mewn gofal a gynlluniwyd a gofal mewn argyfwng.

I gydnabod yr effeithiau rhyng-gysylltiedig hyn, byddwn yn darparu £425m yn ychwanegol i gefnogi'r GIG eleni. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn blaenoriaethu gwariant pellach ar y GIG o fewn ei chyllideb adrannol gyffredinol lle bo hynny'n bosibl.

Ond er gwaethaf y cymorth ychwanegol hwn, mae'n amlwg y bydd angen i fyrddau iechyd wneud rhai penderfyniadau anodd iawn eleni ac yn y flwyddyn ariannol nesaf i gydbwyso eu cyllidebau.

Rydym yn rhyddhau £16.1m o'r cyllidebau sy'n cefnogi gweithgareddau'r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae. Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn wedi'i ryddhau o ganlyniad i ragolygon wedi'u diweddaru ar y nifer sy'n manteisio ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Mae'r Cynnig, sy'n darparu gofal plant wedi'i ariannu i blant tair a phedair oed, yn cael ei arwain gan y galw, gydag amrywiadau blynyddol yn nifer y teuluoedd cymwys, nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar eu hawl a nifer yr oriau o ofal plant a ddefnyddir gan aelwydydd.

Mae ein penderfyniadau ynghylch llywodraeth leol a nodir yn yr adran nesaf yn cydnabod eu pwysigrwydd wrth ddarparu gofal cymdeithasol.

Llywodraeth Leol

Rydym wedi diogelu Grant Cynnal Refeniw (RSG) llywodraeth leol sy'n rhan o'r cyllid craidd ar gyfer yr awdurdodau lleol drwy setliad llywodraeth leol.  Mae'r awdurdodau lleol yn darparu ystod eang o wasanaethau cyhoeddus a hynny yn aml i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas neu'r rhai sydd o dan anfantais economaidd.

Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys gofal cymdeithasol, addysg a digartrefedd. Gan gydnabod yr angen i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r gwasanaethau pwysig hyn a ddarperir gan yr awdurdodau lleol, rydym wedi cynnal y lefel bresennol o gyllid.

Addysg

Rydym yn cadw'r effeithiau ar ysgolion, colegau a phrifysgolion i'r lleiaf, gyda gostyngiadau refeniw wedi'u nodi drwy adolygiad o gyllidebau a arweinir gan y galw a chyllid heb ei ymrwymo ar draws y portffolio.

Ochr yn ochr â diogelu'r Grant Cynnal Refeniw, rydym wedi sicrhau arbedion drwy adolygu cyllidebau a arweinir gan y galw, megis Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Ysgol Gynradd (UPFSM), Grantiau Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Uwch a chymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Rydym yn rhyddhau £11.5m o gyllideb UPFSM. Grant i'r awdurdodau lleol sy'n cael ei arwain gan y galw yw hwn ac mae cyllideb ddigonol o hyd i gwmpasu'r cynlluniau cyflwyno ar gyfer 2023-24. Mae mesurau wedi'u rhoi ar waith os bydd y galw yn fwy na'r rhagdybiaethau cynllunio presennol am weddill y flwyddyn ariannol hon. Wrth adolygu'r proffil ar gyfer 23/24, rydym yn hyderus y bydd yr ymrwymiad yn cael ei gyflawni'n llawn erbyn Medi 2024 fel y cynlluniwyd.

Rydym yn rhyddhau cyfalaf o £40m o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (SCfL). Un o brif gryfderau'r Rhaglen yw ei model gweithredu cyd-adeiladu a'i threfniant ar gyfer rhannu buddsoddiadau. Cynhelir trafodaethau â phartneriaid cyflenwi i nodi cyfleoedd ynghylch amseriad y trefniant rhannu buddsoddiad fel ffordd o gynnal y rhaglenni a ddarperir yn ystod y flwyddyn.

Rydym yn lleihau £8.5m ar y gyllideb ar gyfer darpariaeth ôl-16. Mae'r gostyngiadau hyn wedi'u cyflawni drwy fonitro diwedd blwyddyn arferol ac adennill unrhyw grantiau nad oeddent wedi'u gwario'n llawn.

Cyfiawnder Cymdeithasol

Rydym yn gwneud gostyngiadau o £4.2m mewn cyllid ar gyfer ein Cyllidebau Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol. Mae'r rhan fwyaf o'r arbedion hyn wedi codi drwy ohirio graddfa a chyflymder gweithredu arfaethedig lle nad oes cyllid wedi'i ymrwymo.

Rydym wedi rhyddhau cyllid o £1.5m o'n cyllidebau ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu drwy rewi recriwtio. Byddwn yn gweithio gyda heddluoedd i nodi lefel y "corddi" ac effaith debygol rhewi recriwtio, gan gynnwys monitro'r effeithiau daearyddol gan fod rhai heddluoedd eisoes wedi mynd ati i recriwtio cyn i recriwtio gael ei rewi; bydd hyn yn effeithio'n bennaf ar ardaloedd plismona Gogledd Cymru a Gwent.

Rydym wedi nodi cyllid o £4.3m a ddyrannwyd yn flaenorol i gefnogi ein rhaglen ar gyfer Wcráin. Bydd ein hymdrechion yn parhau i ganolbwyntio ar integreiddio pobl i'n cymunedau ledled Cymru.

Rydym hefyd yn rhyddhau cyllid cyfalaf o £4.6m.

Yr Economi

Canfuwyd y rhan fwyaf o'r arbedion o bortffolio'r Economi o ganlyniad i ragolygon diwygiedig neu o dderbyniadau incwm untro, yn ymwneud â digidol incwm yr UE neu werthiannau eiddo.

Mae hyn yn cynnwys £17.5m sy'n gysylltiedig â rhagolygon diwygiedig ar gyfer cyllid prentisiaethau a arweinir gan y galw. Rydym hefyd yn lleihau £5.3m ar gyllid o'r rhaglen React+ a arweinir gan alw. Byddwn yn parhau i fonitro'r cyllid hwn yn agos yng ngoleuni'r cyd-destun sy'n newid o safbwynt yr economi a'r farchnad lafur.

Newid Hinsawdd

Wrth inni barhau i fuddsoddi yn nyfodol y rheilffyrdd, gan gynnwys drwy Fetro De Cymru, rydym wedi ailflaenoriaethu gwariant o fewn y portffolio a chyda chymorth ychwanegol o feysydd eraill, rydym yn gallu darparu cynnydd o £125m i Drafnidiaeth Cymru. Er y bydd yn dal i wynebu pwysau sylweddol, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi'r sefydliad wrth iddo barhau i reoli costau cynyddol a gostyngiad yn nifer y teithwyr ar ôl y pandemig.

Rydym hefyd yn rhyddhau cyfalaf o £3.5m o amrywiaeth o gynlluniau trafnidiaeth heb eu hymrwymo.

Mae cyfanswm o £19m o gyfalaf yn cael ei ryddhau o'n cynllun Cartrefi Gwag, sy'n ymwneud â rhagolygon wedi'u diweddaru a gohirio gweithgarwch a chyllid. Anelir y dull hwn at gadw effeithiau i'r lleiaf posibl, gan gydnabod ei bod yn cymryd amser i ddylunio, gweithredu a dechrau gwario ar fuddsoddiadau cyfalaf cymhleth.

Rydym yn rhyddhau £14.5m o gyllidebau adfywio sy'n cynnwys incwm o £13m. Disgwylir y bydd modd cyflawni'r holl brosiectau wedi'u hymrwymo o hyd, ond rhai dros gyfnod hwy o amser.

Er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau'r effeithiau ar weithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, rydym wedi rhyddhau cyllid o gyllidebau gyda rhagolygon is diwygiedig neu drwy ohirio gweithgarwch. Er enghraifft, rydym yn lleihau cyfalaf gwerth £1m ar y rhaglenni Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a'r Rhwydweithiau Natur eleni.

Materion Gwledig

Rydym yn ailflaenoriaethu refeniw o £10m a chyfalaf o £20m o'r Cynlluniau Buddsoddi Gwledig. Mae llawer o'r cyllid hwn yn ymwneud â rhagolygon wedi'u diweddaru gan arwain at  oblygiadau bach iawn i ddarparu cynlluniau sefydledig presennol gydag effeithiau bach ar lefel busnes fferm unigol.

Prif Newidiadau MEG

MEG Newidiadau (£m)
  Refeniw Cyfalaf
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 425.1 0
Cyllid a Llywodraeth Leol -28.5 -8.0
Newid Hinsawdd 82.6 -37.7
Y Gymraeg ac Addysg -74.7 -40.0
Yr Economi -28.6 -36.5
Materion Gwledig -17.3 -20.2
Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu -27.5 0
Cyfiawnder Cymdeithasol -7.0 -4.6
Total 324.1 -147.0