Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

  1. Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ysgrifenedig cynhwysfawr ar y Bil Hawliau Cyflogaeth ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr. Roedd hyn yn cynnwys crynodeb o'r cynnwys a'r darpariaethau yn y Bil. Nid yw'r papur diweddaru hwn yn ailadrodd yr wybodaeth honno. I gael trosolwg o'r Bil, cynghorir aelodau’r Cyngor i gyfeirio at y papur blaenorol.  
     
  2. Mae'r papur diweddaru hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiadau ers y papur a gyflwynwyd ar 5 Rhagfyr ac yn ymdrin â:  
    (i) Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a osodwyd gerbron y Senedd gan Lywodraeth Cymru
    (ii) Crynodeb o Gyfnod Pwyllgor Bil Cyhoeddus y Bil.  
    (iii) Trosolwg o ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Busnes a Masnach.
    (iv) Nodyn atgoffa o'r ymgyngoriadau ffurfiol a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU.  
     
  3. Mae'r papur diweddaru hwn hefyd yn crynhoi safbwyntiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thri mater y cyfeirir atynt yn y papur a gyflwynwyd ar 5 Rhagfyr, (a) cytundebau cyflog teg mewn gofal cymdeithasol; (b) Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb; (c) Corff Negodi Staff Cymorth mewn Ysgolion.  
     
  4. Yn olaf, mae'r papur hwn yn edrych ymlaen at y Cyfnod Adrodd a thu hwnt - er nas penderfynwyd eto ar yr amserlenni Seneddol y tu hwnt i'r Cyfnod Adrodd.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

  1. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol gerbron y Senedd. Mae hyn yn unol â Rheol Sefydlog 29 trafodion y Senedd ac i gydnabod bod rhai cymalau o'r Bil Hawliau Cyflogaeth yn effeithio ar faterion datganoledig. 
     
  2. Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol wedi cael eu cyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd, gyda 7 Mawrth 2025 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd. Yna bydd dadl yn cael ei chynnal maes o law.  
     
  3. Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn nodi’n glir bod y Bil Hawliau Cyflogaeth yn gyson â ffocws Llywodraeth Cymru ar waith teg ac yn rhoi cyfle i gryfhau hawliau cyflogaeth i weithwyr yng Nghymru. Felly mae Llywodraeth Cymru yn cynghori bod y Senedd yn cefnogi'r cynigion ac yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil.

Crynodeb o’r Cyfnod Pwyllgor

  1. Cymerodd Pwyllgor Bil Cyhoeddus yn Nhŷ'r Cyffredin dystiolaeth ac archwilio’r Bil Hawliau Cyflogaeth rhwng 26 Tachwedd 2024 ac 16 Ionawr 2025.
     
  2. Cynhaliodd y pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys undebau llafur, cymdeithasau cyflogwyr ac arbenigwyr cyfraith cyflogaeth. Bu'r pwyllgor hefyd yn archwilio pob cymal o'r Bil yn fanwl, gan drafod gwelliannau a'u goblygiadau.
     
  3. Cyflwynwyd cyfanswm o 264 o welliannau yn ystod y Cyfnod Pwyllgor. Cafodd holl welliannau'r gwrthbleidiau naill ai eu tynnu'n ôl, ni chawsant eu cynnig, neu methasant â chael mwyafrif yn y pwyllgor. Cytunwyd ar gyfanswm o 149 o welliannau. Roedd y rhain i gyd, heb eithriad, yn welliannau gan Lywodraeth y DU.  
     
  4. Roedd llawer o'r gwelliannau yn dechnegol eu natur; fodd bynnag, dau welliant arwyddocaol oedd y rhai a gyflwynodd gymalau newydd ar:  
  • Gynyddu'r terfynau amser pan all pobl wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth (ar gyfer bron pob hawliad), o dri mis i chwe mis.
  • Cyflwyno pwerau newydd i weithredu confensiynau morwrol rhyngwladol a Siarter Morwyr drwy reoliadau.

Ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Busnes a Masnach

  1. Mae'r Pwyllgor Dethol Busnes a Masnach wedi cynnal ymchwiliad i'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a chynnal tair sesiwn dystiolaeth lafar rhwng 17 Rhagfyr a 14 Ionawr.
     
  2. Pwrpas yr ymchwiliad yw gwerthuso a fydd y Bil yn amddiffyn gweithwyr yn effeithiol ac yn gwella diogelwch swyddi, yn ogystal ag ystyried ei effaith ar fusnesau. Mae'r Pwyllgor wedi gorffen ei ymchwiliad, ac mae ei adroddiad yn cael ei ddisgwyl.

Ymgyngoriadau Llywodraeth y DU

  1. Cynhaliodd Llywodraeth y DU bedwar ymgynghoriad ar agweddau penodol ar y Bil. Mae'r ymgyngoriadau hyn yn ymwneud â:  
  1. Mae Llywodraeth y DU yn adolygu ei hymateb i'r ymgyngoriadau hyn. Mewn rhai achosion, megis y gyfradd amnewid enillion ar gyfer tâl salwch statudol, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu cyflwyno gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd. Mewn achosion eraill, bydd yr ymgyngoriadau yn llywio cynnwys rheoliadau a wneir yn y dyfodol o dan y pwerau a roddwyd gan y Bil.

Cytundebau Cyflog Teg mewn Gofal Cymdeithasol

  1. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol Oedolion i wneud cytundebau ynghylch cyflog, telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol oedolion ("cytundebau cyflog teg") yn Lloegr.
     
  2. Yn dilyn trafodaethau helaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i gyflwyno gwelliant fydd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu corff negodi tebyg yng Nghymru.
     
  3. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n llwyddiannus dros gynnwys gwasanaethau plant yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu gwahaniaeth polisi sylweddol â Lloegr. Bydd yn caniatáu i gytundeb cyflog teg yng Nghymru fod yn weithredol ar draws yr holl ofal cymdeithasol, gan gyd-fynd â'n dull polisi yng Nghymru, yn hytrach na chael ei gyfyngu i ofal cymdeithasol oedolion, fel yn Lloegr.

Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb

  1. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr â 250 neu fwy o weithwyr greu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb. Dylai'r cynllun hwn amlinellu sut maent yn bwriadu mynd i'r afael â materion yn ymwneud â’r bwlch cyflog rhywedd a chefnogi gweithwyr sy'n wynebu’r menopos.
     
  2. Er bod cyrff cyhoeddus nad ydynt wedi’u datganoli, yn ogystal â chyflogwyr preifat a thrydydd sector gyda 250 neu fwy o weithwyr, o fewn y cwmpas, nid yw awdurdodau datganoledig Cymru wedi’u cynnwys, heblaw am Gomisiwn y Senedd. Mae hyn yn cyd-fynd ag Atodlen 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gan Weinidogion Cymru yr awdurdod i weithredu ynghylch awdurdodau cyhoeddus Cymru, fel y mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sy’n benodol i Gymru, yn dangos.

Corff Negodi Staff Cymorth mewn Ysgolion

  1. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i ailsefydlu Corff Negodi Staff Cymorth mewn Ysgolion ar gyfer Lloegr. Bydd y Bil yn gwneud hyn drwy ddiwygio'r Ddeddf Addysg, y mae ei rhychwant tiriogaethol yn cwmpasu Lloegr yn unig. Mae swyddogion wedi rhoi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar amrywiaeth o opsiynau. Mae'r cyngor yn cael ei ystyried.

Rhagolwg

  1. Rydym yn disgwyl i Gyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin ddigwydd dros ddau ddiwrnod (11 a 12 Mawrth), er nad yw hyn wedi'i gadarnhau eto ar adeg ysgrifennu’r papur hwn. Y disgwyliad yw y bydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol cyn toriad yr haf. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod yn destun trafodion ac amserlenni seneddol nad oes gennym sicrwydd yn eu cylch ar hyn o bryd.  
     
  2. Mae safbwynt cyffredinol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r Bil yn parhau i fod yn glir ac mae'n croesawu'r gwaith o uwchraddio hawliau gweithwyr, cryfhau gorfodaeth, a chael gwared ar gyfyngiadau diangen ar undebau llafur y bydd y Bil yn ei gyflawni.  

DS:  Mae'r Bil hwn yn datblygu'n gyflym, gyda llawer o elfennau cymhleth. Er bod y papur hwn yn adlewyrchu'r sefyllfa yn gywir ar 24 Chwefror 2025 (i fodloni'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau ar gyfer cyfarfod mis Mawrth y Cyngor), ni all roi cyfrif am ddatblygiadau ar unrhyw un o'r pethau uchod na chyhoeddi diwygiadau cyfnod adrodd Llywodraeth y DU sy'n digwydd ar ôl y dyddiad cau hwn, ond cyn cyfarfod y Cyngor ar 12 Mawrth.