Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bil Caffael Llywodraeth y DU yn parhau ar ei siwrne ddeddfwriaethol trwy Dŷ’r Arglwyddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno dros 300 o ddiwygiadau i’r Bil, gan gynnwys nifer a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r diwygiadau’n cael eu trafod gan yr Arglwyddi yn ystod y cam Pwyllgor. Yn sgil y nifer o ddiwygiadau posibl a chymhlethdod y Bil, bydd Pwyllgorau’r Arglwyddi’n parhau tu hwnt i’r gwyliau haf. Wedyn bydd pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi yn pleidleisio dros ba ddiwygiadau fydd yn cael eu derbyn cyn bod y Bil yn cael ei basio i Dŷ’r Cyffredin.

Mae Memonrandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ychwanegol (LCM) wedi ei osod gerbron y Senedd ar 11 Gorffennaf, yn rhoi gwybodaeth ar y diwygiadau a wnaed i’r Bil Caffael. Mae hyn yn dilyn y LCM a gyflwynwyd ym mis Mehefin gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at: DiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru.