Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 02 Tachwedd 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth frechu COVID-19 ar 11 Ionawr 2021 ac, ynghyd â’r diweddariadau isod, mae’n amlinellu manylion Rhaglen y Frechu yng Nghymru.

Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau - rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (‘y Cyd-bwyllgor’), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu - rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Rydym wedi cyflawni'r ddau ymrwymiad canlynol yn ein Strategaeth Frechu ar gyfer yr Hydref a'r Gaeaf sef y byddem yn anelu at gynnig erbyn 1 Tachwedd: 

  • brechiad COVID-19 i bawb rhwng 12 a 15 oed
  • brechiad atgyfnerthu i’r holl breswylwyr cartrefi gofal sy’n gymwys 

Mae'r penderfyniad i gael brechiad COVID-19 yn ddewis i bob unigolyn ei wneud. Mae'n bwysig trafod eich dewis fel teulu a chwilio am wybodaeth gan ffynonellau dibynadwy, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gall pobl ifanc 12-15 oed naill ai fynd ar yr adeg a nodir yn eu llythyrau apwyntiad neu fynd i glinigau galw i mewn. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y brechlyn ar gael i'r rhai nad ydynt eto wedi gallu manteisio ar y cynnig. Os ydych rhwng 12 a 15 oed a heb gael eich gwahoddiad gallwch gysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol i drefnu apwyntiad; mae’r manylion ar gael yma.

Os byddwch yn dal COVID-19 a'ch bod i fod i gael eich brechiad COVID-19, bydd angen ichi aros 28 diwrnod cyn cael y brechlyn. Y rheswm am hyn yw er mwyn ogsoi dryswch rhwng symptomau haint COVID-19 â symptomau ar ôl y brechlyn.

Mae’r byrddau iechyd yn gweithio'n galed tuag at ein nod nesaf. Erbyn 31 Rhagfyr ein nod yw brechu'r rhan fwyaf o bobl sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu. Bydd y rhai sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu yn cael eu gwahodd yn awtomatig i ddod i apwyntiad pan ddaw eu tro.

Statws brechu COVID-19

O 11 Hydref ymlaen, mae’r Pàs Covid yn orfodol i bawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr diwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog (yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd), y bydd sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau yn cael eu hychwanegu at y rhestr o leoliadau y bydd angen iddynt ddefnyddio'r Pàs COVID o 15 Tachwedd ymlaen.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs Covid i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Mae Cam 3 ein rhaglen yn mynd rhagddi’n dda; rydym yn rhoi’r brechlynnau fel a ganlyn:

  • Dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Dos cyntaf i bobl ifanc 16 a 17 oed
  • Dos cyntaf i blant 12 i 15 oed 
  • Ail ddos i bawb sy’n gymwys
  • Trydydd dos sylfaenol i unigolion imiwnoataliedig iawn
  • Dosau atgyfnerthu i’r rhai sy’n gymwys 

Wrth i ni barhau i weithredu ar egwyddor o adael neb ar ôl, mae'r GIG yn parhau i fynd yn ôl a chynnig brechiad i’r rhai yn y grwpiau blaenoriaeth 1-9 nad ydynt wedi manteisio ar eu cynnig eto.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 5.1 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.44 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.24 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn
  • Mae mwy na 22,000 o bobl sy’n imiwnoataliedig iawn wedi cael eu trydydd dos sylfaenol
  • Mae 78.1% o oedolion 18 i 29 oed a 78.7% o oedolion 30 i 39 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae 74.8% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf ac mae 45.5% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae mwy na 446,000 o bobl wedi cael dos atgyfnerthu
  • Mae 69% o breswylwyr cartrefi gofal a 55% o staff cartrefi gofal wedi cael eu dos atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 ac anogir pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID-19 – gallwch ddarllen ei ddatganiad yma: Y Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID 

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma: Cael eich brechlyn COVID-19 

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.