Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith mesurau arbennig cytunedig

Wyth parth

  • Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio.
  • Y gweithlu a datblygu sefydliadol.
  • Llywodraethiant a rheoli ariannol.
  • Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol.
  • Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch.
  • Cyflawni gweithredol.
  • Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau.
  • Gwasanaethau sy'n agored i niwed yn glinigol.

Amodau ar gyfer cynaliadwyedd

  • Gweledigaeth strategol glir.
  • Taith newid diwylliannol.
  • Bwrdd effeithiol.
  • Arweinyddiaeth ac ymgysylltiad cryf.
  • Arweinyddiaeth glinigol.
  • Gwasanaethau clinigol cryfach.
  • Perfformiad ac ansawdd integredig.
  • Atebolrwydd.
  • Ymatebol.
  • Sefydliad sy’n dysgu a gwella.
  • Rheoli rhaglenni’n gryf.
  • Gwell mynediad, canlyniadau a phrofiad.

Ymchwilio i ddiwylliant, ansawdd, diogelwch a pherfformiad

  • Canolbwyntio ar ddeall materion craidd ar draws y sefydliad.
  • 6 adroddiad Rheoliad 28.
  • 1 Atodlen 5.
  • Erlyniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi’i gadarnhau.
  • Cwynion/disgyblu.
  • Trosolwg perfformiad.

Gwaith ar y gweill

  • Cymorth ar gyfer Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd ar waith.
  • Adolygiad cyflym – Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd.
  • Adolygu penodiadau interim.
  • Cwmpasu materion diogelwch cleifion. 
  • Adolygu adolygiadau iechyd meddwl.
  • Asesiad o'r effaith ar ddiogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl.
  • Cynaliadwyedd gwasanaethau orthopedig.
  • Dileu amseroedd trosglwyddo o 4 awr.
  • Asesiad sicrwydd fasgwlaidd.

Y gweithlu a datblygu sefydliadol

  • Mae adolygiad y sefydliad wedi cychwyn.
  • Mae rhaglen gwmpasu i asesu effeithiolrwydd a gweithrediad y model gweithredu newydd ar y gweill.
  • Mae gweithdai gyda pwyllgor meddygol lleol a phartneriaethau lleol ar ochr staff yn cael eu trefnu. 
  • Mae adolygiad o bolisïau llesiant, ymgysylltu a'r gweithlu ar y gweill.
  • Mae adolygiad o apwyntiadau interim wedi cychwyn.

Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch

  • Mae cwmpas adolygu llywodraethu clinigol yn cael ei gytuno.
  • Mae asesiad interim mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelwch cleifion ar y gweill.
  • Adolygiadau cyflym Crwner ei Fawrhydi ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
  • Strwythur rhaglenni dysgu ac adrodd ar waith.

Sefydlogi'r Bwrdd

  • Mae chwech aelod annibynnol mewn swyddi.
  • Mae pedwar pwyllgor wedi’u cynnal.
  • Mae dau gyfarfod i’r Bwrdd a dau weithdy wedi’u cynnal.
  • Mae pum cynghorydd annibynnol ar waith.
  • Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch tri archwiliad mewnol pellach.
  • Cymorth ar gyfer gafael gweithredol sydd wedi'i wreiddio yn y bwrdd iechyd.
  • Mae prif swyddog gweithredol dros dro ar waith ac mae’r broses recriwtio ar gyfer prif swyddog gweithredol newydd wedi cychwyn.
  • Gwnaed newidiadau i Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd.
  • Mae adolygiad cyflym o strwythur a chylch gwaith Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd ar y gweill.

Cyflawni gweithredol

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cymorth uniongyrchol.
  • Canolbwyntio ar ddileu amseroedd trosglwyddo o 4 awr a darparu gwasanaethau orthopedig.
  • Cynhelir gweithdai ar ganolfannau triniaeth rhanbarthol a gwasanaethau orthopedig.
  • Uwchgynhadledd gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Gwasanaethau clinigol

  • Cynhaliwyd asesiad diogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl ym mis Ebrill.
  • Mae’r gwaith o adolygu adolygiadau iechyd meddwl blaenorol wedi cychwyn.
  • Goruchwylir gwasanaethau fasgwlaidd ac asesiad sicrwydd.
  • Adolygiad niwed ar gyfer y rhai sy'n aros am lawdriniaeth blastig (dermatoleg).
  • Cynhaliwyd cynhadledd arweinyddiaeth glinigol uwch arweinwyr meddygol ym mis Ebrill.

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

  • Adolygiad rhagarweiniol o arweinyddiaeth ddiwylliannol dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Llywodraethiant a rheoli ariannol

  • Ymchwilio’n drylwyr ac yn fanwl i'r rhesymau dros y diffyg ariannol a ragwelir. 
  • Nodwyd opsiynau ar gyfer effeithlonrwydd. 
  • Dull sy’n seiliedig ar werth yn cael ei ddatblygu.
  • Rheolaethau ariannol a llywodraethiant ariannol.

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

  • Cynllun blynyddol drafft. 
  • Amlygwyd meysydd cyfle. 
  • Mae'r cynllun diwygiedig i'w gyflwyno ddiwedd mis Mehefin yn cael ei ddatblygu. 
  • Cynhelir gweithdy Bwrdd i ddeall yr heriau a'r opsiynau.
  • Cynlluniau a dirprwyaethau ariannol yn cael eu datblygu.