Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi penderfyniadau apêl yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad yng Nghymru

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio a’i Harolygwyr bob amser yn ceisio cyhoeddi penderfyniadau’n brydlon ar ôl y digwyddiad. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cyn etholiadau lleol a chenedlaethol, rydym bob amser yn ofalus i sicrhau na ellir ystyried bod penderfyniadau Arolygwyr ynglŷn â chynigion sydd wedi codi sensitifrwydd neu ddiddordeb penodol mewn ardal, wedi dylanwadu ar etholiad neu wedi cael eu defnyddio er budd etholiadol gan unrhyw gorff â buddiant. Yn unol â hynny, ni chyhoeddir y penderfyniadau hynny tan ar ôl i ganlyniadau’r etholiad gael eu cyhoeddi. 

Mae pob penderfyniad ynglŷn â ph’un a ddylai penderfyniad Arolygydd gael ei ddal yn ôl yn cael ei wneud ar sail amgylchiadau’r achos gan uwch reolwyr yn Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Byddwn, wrth gwrs, yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a ohiriwyd am y rhesymau uchod yn cael ei gyhoeddi’n brydlon ar ôl i ganlyniadau’r etholiad gael eu cyhoeddi. 

COVID 19: cyngor i gwsmeriaid

Rydym wedi bod yn cynnal ymweliadau safle cyn belled ag y bo’n bosibl ac yn unol â mesurau diogelu ers mis Mai 2020, sy’n cynnwys cyfnod y cyfyngiadau lleol, cyfyngiadau llymach y cyfnod atal byr a’r Rhybudd Lefel 4 Cymru gyfan a ddechreuodd ddydd Sul 20 Rhagfyr. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau llacio’r cyfyngiadau erbyn hyn, sy’n caniatáu i ni lacio ein safbwynt ar beidio â chynnal ymweliadau safle pan fydd angen mynd i mewn i adeilad.

Rydym eisiau sicrhau bod y gwaith yn parhau i symud a bod pawb sy’n gysylltiedig â’n gwaith achos yn cael canlyniadau amserol. Mae ein hymagwedd bresennol at gynnal ymweliadau safle fel a ganlyn;

  • O ran arolygiadau allanol, lle mae angen mynediad i safle, ffefrir gofyn i apelyddion ddatgloi giât ond peidio â bod yn bresennol yn ystod yr ymweliad
  • O ran arolygiadau mewnol (p’un a yw’n Ymweliad Safle sydd Angen Mynediad, neu’n Ymweliad Safle gyda Chwmni), cyn mynd i mewn i’r adeilad, bydd angen sicrhau bod modd cadw pellter o 2 fetr rhwng y partïon bob amser

Nid ydym yn cynnal gwrandawiadau ac ymchwiliadau ffisegol yn unig ar hyn o bryd, ond rydym yn cynnal gwrandawiadau ac ymchwiliadau’n rhithwir. Mae achosion sy’n gofyn am ddigwyddiad llafar yn cael eu brysbennu yn ôl nifer o ffactorau ac yn cael eu dyrannu yn unol â hynny. Byddwn yn gweithio gyda’r partïon sy’n rhan o apêl i sicrhau eu bod mor gyfforddus â phosibl wrth ymwneud â’r digwyddiad rhithwir ac y gallant gael eu clywed yn iawn. Wrth i’r cyfyngiadau symud barhau i gael eu llacio, bydd ein hymagwedd yn cael ei hadolygu.

Er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y Coronafeirws (Covid-19), mae ein Harolygwyr yn parhau i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru, gan roi ystyriaeth benodol i’w Chanllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill.

Mae ein staff cymorth yn gweithio o gartref gymaint â phosibl ac mae gennym fynediad cyfyngedig at ein swyddfeydd at ddibenion hanfodol yn unig. Ffefrir cyfathrebu trwy ddulliau electronig. Ni allwn warantu y bydd dogfennau a gyflwynir ar ffurf copi caled yn cael eu prosesu’n gyflym. Gellir anfon dogfennau trwy e-bost at cymru@planninginspectorate.gov.uk. Ein llinell ymholiadau cyffredinol yw 0303 444 5940.

Rydym bellach yn prosesu apeliadau yn ôl y drefn arferol gyda phob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.