Neidio i'r prif gynnwy

Gan gadw at yr wybodaeth arbenigol ddiweddaraf, fel mesur rhagofalus byddwn ni’n ymateb ar unwaith i’r newid yn y cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ac yn cynnig brechlyn arall yn lle brechlyn AstraZeneca i bobl o dan 40 oed sydd heb ffactorau risg glinigol ac sydd heb gael eu brechu eto.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y brechlyn priodol ar gael yn eu hapwyntiad.

Nid ydym yn rhag-weld y bydd hyn yn arwain at oedi yn ein rhaglen frechu yng Nghymru.

Dylai pawb sydd eisoes wedi cael dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca gael eu sicrhau mai cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yw y dylent gael ail ddos o’r un brechlyn, ni waeth beth fo’u hoedran. Gall eithriadau meddygol fod yn berthnasol i leiafrif bach iawn.

Mae brechlyn AstraZeneca eisoes wedi achub miloedd o fywydau ac mae’n ddiogel ac yn effeithiol o hyd i’r mwyafrif o’r boblogaeth. Mae dros 1.2miliwn o bobl wedi cael brechlyn AstraZeneca yng Nghymru ers mis Ionawr, ac ychydig iawn o achosion o glotiau gwaed gyda thrombocytopenia sydd wedi bod.

Brechlynnau yw’r ffordd orau o hyd o ddod allan o’r pandemig hwn ac maent yn darparu amddiffyniad cryf rhag COVID-19 – mae’n bwysig bod pobl yn cael eu brechiad pan gânt eu gwahodd. Hyd yma, mae dros 1.8miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn ac mae 800,000 pellach wedi cael ail ddos hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn gweithio gydag asiantaethau eraill i fonitro diogelwch brechlynnau’n barhaus a byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa’n ofalus iawn. Yng Nghymru, diogelwch pobl a ddaw gyntaf bob amser ac ni fyddwn ond yn defnyddio brechlynnau pan fo hynny’n ddiogel a phan fo’r manteision yn dal i fod yn fwy na’r risgiau.