Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rhifyn hwn o Gylchlythyr Iechyd Cymru yn diweddaru cylchlythyr Taflenni rhwydi diogelwch o ran trefniadau rhyddhau oedolion a phlant o’r ysbyty (WHC/2025/051). Mae’n cynnwys diwygiadau i’r adnoddau rhwydi diogelwch cysylltiedig a’r deunyddiau ymwybyddiaeth o sepsis perthnasol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Dylai taflenni rhwydi diogelwch ac adnoddau eraill a ddatblygir o’r deunyddiau gwreiddiol a gyhoeddir yn y dyfodol gydnabod cyfraniad Corrine Cope, er cof am ei mab Dylan. Mae 'Sylwi ar sepsis mewn plant, taflen ymwybyddiaeth' (WHC/2024/045) hefyd wedi’i diweddaru yn dilyn cyngor diweddar gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. Dylai adnoddau hefyd gynnwys dolen i offeryn sgrinio sepsis Ymddiriedolaeth Sepsis y DU.