Amserlenni cyfredol a chanllawiau ar gyfer ceisiadau DNS.
Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn parhau i wynebu pwysau llwyth gwaith sylweddol. Mae hyn yn wir ar draws yr ystod o geisiadau, apeliadau a gwaith arall rydym yn gyfrifol amdanynt. Mae hyn yn effeithio ar ein gallu i fwrw ymlaen â’n gwaith achos mor gyflym ag y byddem yn dymuno.
Yn ystod y misoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau DNS a gyflwynwyd i PCAC. Disgwyliwn i’r ffrwd hon o gyflwyniadau barhau drwy gydol 2024.
Mae hyn yn golygu bod oedi’n debygol cyn derbyn a dechrau ceisiadau DNS; yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddwn yn bodloni’r amserlenni safonol o 4 a 6 wythnos ar gyfer derbyn ceisiadau nad ydynt yn rhai Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a cheisiadau AEA.
Er mwyn rheoli ein hadnoddau’n effeithiol, mae’n rhaid parhau â cheisiadau DNS yn dibynnu ar ba Arolygwyr sydd ar gael. Dim ond nes y gellir penodi Arolygydd priodol bydd achosion yn cael eu dechrau.
Mae hyn yn golygu y bydd yr amser a gymerir i ddechrau achosion unigol yn amrywio. Ceisiwn roi:
- diweddariadau realistig i ymgeiswyr ar yr adeg cyflwyno
- dyddiadau dechrau disgwyliedig pan fyddant yn hysbys
Rydym yn gweithio’n galed i gynyddu ein hadnoddau trwy recriwtio Arolygwyr newydd a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio. Er hyn, mae’n debygol y bydd yn cymryd ychydig peth amser i’r ymdrechion hyn ddwyn ffrwyth.
Yn y cyfamser, gall ymgeiswyr ein cynorthwyo trwy:
- roi diweddariadau rheolaidd cyn cyflwyno eu cais (fel y gallwn gynllunio’n effeithiol)
- sicrhau eu bod yn dilyn ein canllawiau ynglŷn â sut i gyflwyno’r cais. (Bydd hyn yn ein helpu i osgoi gweinyddiaeth ddiangen yn ymwneud â materion fel dogfennau coll a ffeiliau electronig o faint anymarferol)
Diolchwn i chi am eich amynedd wrth i ni ymdrechu i ddarparu ein gwasanaethau’n well.