Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn delio â'n hôl-groniad gwaith achos apeliadau cynllunio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y newidiadau a wnaethom i’n prosesau yn cael effaith gadarnhaol ar ein hôl-groniad gwaith achos apeliadau. 

Rydym wedi lleihau nifer gyffredinol yr achosion sy’n aros am gael eu dyrannu i Arolygydd o oddeutu 300 i 200, ac wedi lleihau’r oedi cyn dechrau apeliadau newydd o 24 i 12 wythnos. 

Mae ôl-groniad o hyd, ond rydym yn hyderus y bydd amseroldeb yn parhau i wella yn ystod y misoedd i ddod. 

Rydym yn parhau i flaenoriaethu ein Gwasanaethau Apeliadau Deiliaid Tai, Hysbysebion, a Masnachol Bach. Rydym yn dechrau’r apeliadau hyn cyn gwaith achos arall. 

Rydym hefyd yn blaenoriaethu: 

  • archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol
  • ceisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (gweler diweddariad ar wahân)
  • gwaith achos mawr arall oherwydd diddordeb sylweddol y cyhoedd ynddo

Bydd yr holl waith achos arall yn cael ei drin yn nhrefn y dyddiad y cafodd ei dderbyn (heblaw am nifer gyfyngedig o achosion arbenigol). 

Byddwn yn ceisio rhaglennu digwyddiadau Gwrandawiadau ac Ymchwiliadau cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau apeliadau, ond bydd oedi’n anochel o ganlyniad i bwysau llwyth gwaith ac adnoddau. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddewis a hwyluso’r math mwyaf priodol o ddigwyddiad. Digwyddiadau rhithwir yw’r opsiwn a ffafrir oni bai bod rhesymau clir dros drefnu digwyddiadau wyneb yn wyneb. 

Arhoswch nes bod 12 wythnos wedi mynd heibio ar ôl derbyn cydnabyddiaeth gychwynnol cyn holi ynglŷn ag apêl.

Rydym yn:

  • gweithio’n galed i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu parhau i fod yn sicr o ansawdd ein gwaith
  • gwneud popeth a allwn i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o waith achos i ganiatáu i ni ddychwelyd i raddfeydd amser arferol

Diolchwn i chi am eich amynedd wrth i ni ymdrechu i wella’r gwasanaeth a ddarparwn.