Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar y cynnydd ry’n ni’n ei wneud wrth frechu pobl Cymru ac adolygu ein trefn o frechu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhagair y gweinidog

Ar 11 Ionawr cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu ar 11 Ionawr. Fe wnaethon ni ddweud y byddem yn parhau i'w hadolygu wrth i'n rhaglen fynd yn ei blaen. Cyhoeddwyd diweddariad i'r strategaeth ar 26 Chwefror. Heddiw rwy'n cyhoeddi diweddariad pellach – sy'n dangos pa mor gyflym y mae’r rhaglen yn symud yn ei blaen.

Rydym yn agosáu at ddiwedd cam 1 ein rhaglen. Fe wnaethon ni ddweud y byddwn, erbyn canol mis Ebrill, wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth. 

Mae dros 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae dros 350,000 o bobl wedi eu brechu'n llawn ar ôl cael y ddau ddos. Rydyn yn gweithio’n gyflym drwy'r 9 grŵp blaenoriaeth presennol. Mae gennym borth o 50% ar gyfer symud o un garfan i'r llall ac rydym yn disgwyl dechrau gwahodd y rhai dan 50 oed ar gyfer eu dosau cyntaf yn gynnar ym mis Ebrill.

Mae'n werth cofio bod hyn i gyd wedi'i gyflawni mewn dim ond 15 wythnos ers y pigiad cyntaf. Mae hyn yn rhyfeddol ac mae ein timau brechu, ein partneriaid lleol a'r gwirfoddolwyr niferus ledled y wlad, a’u hymrwymiad anhygoel yn destun balchder mawr imi.

Mae ail ddos yn hanfodol ar gyfer diogelwch tymor hirach, ac felly mae'n bwysig iawn bod pawb yn dod ymlaen ar gyfer eu cwrs llawn pan gânt eu galw.

Mae cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i'n rhaglen wedi bod yn anhygoel. Mae brechu yn rhoi gobaith gwirioneddol inni am ddyfodol mwy disglair, a hynny’n fuan iawn, ac mae'n amlwg felly pam mae lefelau mor uchel o bobl wedi manteisio ar y cynnig. Yr her i ni yn awr yw cynnal y lefel uchel hon o gefnogaeth a brwdfrydedd wrth i ni symud y tu hwnt i'r rhai mwyaf agored i niwed i grwpiau o'n poblogaeth sy'n iau ac yn iachach ar y cyfan. 

Mae hyder pobl yn effeithiolrwydd y brechlynnau yn cynyddu. Mae’r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch effaith y brechlyn o ran atal salwch difrifol ac atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn glir. Cafwyd astudiaeth arall o’r Unol Daleithiau ddoe ddiwethaf. Mae hynny bellach i’w weld yn y niferoedd sy’n cael eu derbyn i'n hysbytai a, diolch byth, yn niferoedd y marwolaethau o'r coronafeirws sy'n cael eu cofnodi. Mae rheoleiddwyr y DU a'r UE hefyd wedi bod yn glir iawn yn ystod yr wythnos ddiwethaf am ddiogelwch y brechlynnau. Mae manteision brechu gymaint yn fwy nag unrhyw risgiau posibl. Mae'r brechlynnau yn ddiogel ac yn effeithiol.

Nid yw’r argyfwng hwn drosodd eto serch hynny.  Mae'r holl dystiolaeth yn ein hatgoffa o beryglon trydedd don.  Nid oes ond rhaid inni edrych i Ewrop i weld hyn yn digwydd. Mae’n bwysig iawn fod pob un ohonom yn parhau i ddilyn y rheolau a'r canllawiau sydd ar waith er mwyn cadw ein hunain a'n teuluoedd yn ddiogel. Er ein bod yn codi rhai cyfyngiadau ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau wrth i ni symud i mewn i'r gwanwyn, mae'r feirws yn dal gyda ni. Mae’n bwysig iawn, felly, ein bod yn parhau i gadw’r nifer o bobl rydym yn cyfarfod â nhw i’r nifer isaf bosibl, golchi ein dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb a chadw pellter oddi wrth eraill.

Trosolwg a lle rydyn ni nawr

Cyhoeddwyd ein strategaeth genedlaethol ar 11 Ionawr. Fe wnaethon ni ddweud y byddem yn parhau i'w hadolygu wrth i'n rhaglen fynd yn ei blaen. Cyhoeddwyd y diweddariad cyntaf i'n strategaeth ar 26 Chwefror. Dyma’r ail ddiweddariad wrth inni ddal i adolygu’r sefyllfa gan ein bod yn awyddus i ddarparu rhagor o wybodaeth wrth iddi ddod i’n sylw.

Ers cyhoeddi'r diweddariad cyntaf fis diwethaf, mae ein rhaglen wedi dal i fynd o nerth i nerth. Ar hyn o bryd rydym yn brechu'n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU, ac mae mwy o'n poblogaeth wedi cael eu cwrs brechu llawn nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi dweud o'r cychwyn mai'r cyflenwad brechlynnau yw'r ffactor sy’n cyfyngu ar ein rhaglen.  Mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r cyflenwad sy'n dod i mewn i'r DU wedi dod i'r amlwg eto yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a bydd y cyflenwad yr oeddem yn ei ddisgwyl cyn canol mis Ebrill yn ein cyrraedd hyd at 4 wythnos yn hwyrach na'r cynllun erbyn hyn. Mae'r ansicrwydd a'r ansefydlogrwydd hwn yn debygol o godi drwy gydol y rhaglen. 

Pryd bynnag y mae’r cyflenwad wedi bod ar gael, mae ein rhaglen wedi bod yn gyflym dros ben. Mae timau aml-bartner ledled y wlad wedi bod yn brechu tua 1% o'r boblogaeth y dydd yn ystod rhai cyfnodau dros yr wythnosau diwethaf. Pryd bynnag y mae’r cyflenwad wedi bod ar gael, mae ein seilwaith a'n capasiti wedi ehangu mewn ymateb. Roedd pobl yn cael eu brechu mewn mwy na 600 o leoliadau ledled y wlad yr wythnos diwethaf. Mae'r dull cyfunol rydym wedi'i weithredu – sef cyfuniad o ganolfannau, meddygfeydd teulu, safleoedd ysbytai ac unedau symudol – wedi ein galluogi i fod yn hyblyg ac addasu i lefelau’r cyflenwadau.  

Rydym yn parhau i gyhoeddi ystod o wybodaeth yn aml er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o ddatblygiadau a chynnydd y rhaglen. Ceir rhagor o fanylion yn nes ymlaen ar hyn.

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

Ers cyhoeddi ein diweddariad diwethaf ar y strategaeth ym mis Chwefror, rydym wedi:

  • parhau i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau – mae dros 95% o breswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal bellach wedi cael eu dos cyntaf, ac mae bron i hanner wedi cael eu cwrs llawn o'r brechlyn
  • cyrraedd ein targedau o ddarparu miliwn dos a brechu miliwn o bobl. Mae mwy nag 1.5 miliwn o ddosau bellach wedi'u rhoi
  • gwneud cynnydd cryf o ran cyrraedd ail garreg filltir ein strategaeth, sef brechu grwpiau blaenoriaeth 5-9.  Mae dros 70% o'r rhai sy’n agored i niwed yn glinigol wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn a thros 60% o bobl 50-69 oed.  Mae'r llwybr ar gyfer yr wythnosau nesaf yn glir ac rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y garreg filltir hon erbyn ein dyddiad targed, sef canol mis Ebrill.
  • parhau i weld niferoedd anhygoel o grwpiau blaenoriaeth 1-9 yn manteisio ar y brechlyn, ac mewn rhai grwpiau mae mwy na 95% wedi cael eu dos cyntaf
  • symud ymlaen yn gyflym gyda'n rhaglen ail ddos.  Mae dros 70% o staff gofal iechyd eisoes wedi cael eu brechiad
  • cynyddu ein capasiti ymhellach ac ehangu ein seilwaith i sicrhau bod pob brechlyn a dderbynnir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl
  • cyhoeddi canllawiau i roi eglurder ynghylch pa grwpiau blaenoriaeth allweddol sy’n gymwys, gan gynnwys gofalwyr di-dâl, pobl ag anabledd dysgu a phobl ddigartref
  • ymgysylltu â chymunedau i sicrhau yr un cyfleoedd a’r un mynediad at y brechlyn i bawb – gan gynnwys defnyddio adeiladau ffydd fel canolfannau brechu a brechu ar safleoedd Teithwyr
  • estyn allan at ystod eang o gymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid ac ymgysylltu â nhw er mwyn sicrhau dull gweithredu teg sy'n ennyn hyder, yn ysgogi ymdeimlad o gyfrifoldeb cymunedol a phersonol, a hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl
  • cyhoeddi data wythnosol ar stociau brechu a gwastraff, er mwyn rhoi tryloywder ynghylch  cyflenwadau brechlynnau Cymru

Ein blaenoriaethau

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaethu o ran brechu ar sail rhestr Cyd-bwyllgor y DU ar Imiwneiddio a Brechu, sy’n bwyllgor arbenigol annibynnol. Caiff yr un rhestr flaenoriaethu ei dilyn gan 4 gwlad y DU, ac mae 4 Prif Swyddog Meddygol y DU yn ei chefnogi. Mae'r Cyd-bwyllgor wedi cyhoeddi ei gyngor interim ar sut i fynd ati i flaenoriaethu gweddill y boblogaeth oedolion yng ngham 2 y rhaglen (ein carreg filltir 3 ni). Yn unol â'r hyn a ddigwyddodd yng ngham 1, mae pob un o bedair llywodraeth y DU wedi cytuno i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar gyfer cam 2.  Mae rhagor o wybodaeth am hyn isod o dan garreg filltir 3.

Rydym wedi seilio tair carreg filltir ein strategaeth ar gyngor blaenoriaethu’r Cyd-bwyllgor. 

Carreg filltir 1

Cyrhaeddwyd carreg filltir 1 ar 12 Chwefror. Roedd y diweddariad a gyhoeddwyd gennym ar y strategaeth ym mis Chwefror yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn. Rydym wedi gweithredu dull sy’n sicrhau bod neb yn cael ei adael ar ôl. Ni fydd unrhyw un yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf hynny sydd am gael brechlyn yn cael eu colli na'u gadael ar ôl. Mae'r dull hwn yn un y byddwn yn parhau i'w hyrwyddo drwy gydol y rhaglen frechu.

Carreg filltir 2

A llai na mis tan y dyddiad targed rydym wedi ei bennu ar gyfer cyrraedd carreg filltir 2, rydym yn gwneud yn dda iawn.  

Rydym wedi dweud ei bod yn nod gennym, erbyn canol mis Ebrill, i fod wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 5-9. Mae hyn yn cynnwys:

  • pawb rhwng 50 a 69 oed
  • pawb dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl clinigol o fynd yn ddifrifol sâl yn sgil COVID-19 – gan gynnwys rhai pobl ag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol a phobl ddigartref 
  • llawer o ofalwyr di-dâl amhrisiadwy sy'n darparu gofal i rywun sy'n glinigol agored i niwed yn sgil COVID-19

Mae dros 90% o'r rheini sydd yng ngrŵp 5 – pobl 65-69 oed – bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, yn ogystal â mwy na dwy ran o dair o’r grŵp sy’n agored i niwed yn glinigol a dros hanner y bobl 50-64.  Rydym yn hyderus, felly, y byddwn yn cyrraedd ein nod o weld 75% o blith grwpiau 5-9 yn manteisio ar y brechlyn. Fodd bynnag, byddwn yn anelu'n uwch na 75%. Rydym am i'r nifer fod mor uchel â phosibl ac, yn ddelfrydol, yn llawer agosach at 100%. Yn unol â’n polisi o adael neb ar ôl, bydd y cynnig i gael y brechlyn yno bob amser i unrhyw un sydd ei eisiau. Mae pob brechiad sy’n cael ei roi yn cyfrif – mae'n bwysig o ran diogelu unigolion ac mae hefyd yn cyfrannu’n anuniongyrchol at warchod y gymuned. Gyda'i gilydd, gall y manteision hyn greu llwybr credadwy at ddyfodol sy'n edrych yn debycach i fywyd arferol.

Mae'r llwybr ar gyfer yr wythnosau nesaf yn glir ac rydym yn hyderus y byddwn, yn seiliedig ar ein rhagdybiaethau cynllunio presennol, yn cyrraedd carreg filltir 2 o fewn yr amserlen yr ydym wedi ei gosod i ni'n hunain.  Mae GIG Cymru wedi profi ei fod yn gallu cyrraedd ein targedau brechu cenedlaethol, ac mae gennym bob ffydd y bydd hyn yn parhau.

Mae hynny, wrth gwrs, yn rhagdybio na fydd unrhyw newidiadau pellach i'n cyflenwad o frechlynnau. Bydd lefelau is y cyflenwadau sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn wasgfa ar yr hyn y byddwn yn gallu ei gyflawni. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y garreg filltir.

Bydd cyrraedd carreg filltir 2 yn bwynt sylfaenol yn ein strategaeth. Bydd pawb yng Nghymru yr ystyrir eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef yn ddrwg yn sgil y coronafeirwswedi cael cynnig y brechlyn. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn amcangyfrif bod tua 99% o farwolaethau COVID-19 yn bobl o’r grwpiau hyn. Mae hyn yn aruthrol o arwyddocaol, ond mae mwy i'w wneud. 

Carreg filltir 3

Mae carreg filltir 3 yn cynrychioli ail gam ein rhaglen. Rydym wedi dweud mai ein nod yw cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i weddill y boblogaeth oedolion sy’n gymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae gennym borth o 50% ar gyfer symud o un garfan i'r llall ac rydym yn disgwyl dechrau gwahodd y rhai dan 50 oed ar gyfer eu dosau cyntaf yn gynnar ym mis Ebrill.

Y cyflenwad brechlynnau yw'r ffactor sy’n cyfyngu ar ein gallu i gyflawni hyn, ac mae digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf yn dangos bod angen i ni fod yn ofalus. Os bydd y cyflenwad ar gael ac yn brydlon, bydd GIG Cymru a'i bartneriaid yn ymateb ac yn gweithredu.

Rydym wedi cadarnhau, ynghyd â 3 Llywodraeth arall y DU, y byddwn yn parhau i ddilyn cyngor blaenoriaethu'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar gyfer cam 2. Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ei gyngor interim ar gam 2 ar 26 Chwefror. Disgwylir cyngor terfynol cyn bo hir. 

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell y dylid parhau i roi’r brechlyn ar sail oedran. Y rheswm am hyn yw mai oedran yw'r ffactor risg mwyaf arwyddocaol o hyd. Mae'r Cyd-bwyllgor hefyd wedi argymell y dylid canolbwyntio’n benodol, o fewn model sy'n seiliedig ar oedran, ar ddynion, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n profi amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Wrth argymell y dull gweithredu hwn, nododd y Cyd-bwyllgor bwysigrwydd parhau i frechu’n gyflym, a bod oedran yn ganllaw syml i'r GIG, a fydd yn ei gwneud yn bosibl cynnal y momentwm presennol.

Pan fydd ein rhaglen yn symud o gam 1 i gam 2, felly, y bobl gyntaf ar ôl grwpiau 1-9 i gael eu gwahodd am eu dos cyntaf o'r brechlyn fydd y rhai 40-49 oed. Rydym yn disgwyl i’r grŵp hwn ddechrau cael eu galw i apwyntiadau yn gynnar ym mis Ebrill. 

Yr ystod oedran ar gyfer cam 2 yw 18-49. Byddai'n well gennym ostwng yr oedran isaf i 16 oed. Byddai hyn yn gydnaws â'r hawliau sydd gennym ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Credwn hefyd y byddai sail gadarn dros eu cynnwys o safbwynt trosglwyddo’r feirws o ystyried bod pobl iau yn aml yn cymysgu ag eraill i raddau mwy na rhai grwpiau hŷn o'r boblogaeth. Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ystyried hyn ymhellach ac rydym wedi cael sicrwydd eu bod yn gwneud. 

Ein dull gweithredu ar gyfer carreg filltir 3 

Yn ein diweddariad ym mis Chwefror dywedwyd y byddai carreg filltir 3 yn golygu bod angen inni edrych yn fanwl ar ein dull gweithredu a'n model cyflawni. Yn ystod y cam nesaf hwn, bydd ein rhaglen yn ceisio targedu pobl iau a rhannau o'n poblogaeth sy'n iachach ar y cyfan. Bydd hyn yn cyflwyno heriau o ran cynnal lefelau uchel o bobl sy'n manteisio ar y brechlyn am amrywiaeth eang o resymau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol inni adeiladu ar ein dull gweithredu o ran tegwch er mwyn inni estyn allan ymhellach i gymunedau. Bydd angen inni hefyd edrych yn ofalus ar gadernid ein model o safbwynt capasiti a seilwaith, gan gynnwys yng nghyd-destun cymdeithas sy'n dechrau agor.

Felly, bydd ein strategaeth ar gyfer carreg filltir 3 yn seiliedig ar yr ystyriaethau allweddol canlynol:

Cynnal y lefel uchel sy’n manteisio ar y brechlyn

Mae cynnal cefnogaeth a chymhelliant i frechu yn gwbl hanfodol os yw'r rhaglen am barhau i fod yn llwybr allan o'r cyfyngiadau symud. Rydym yn gwybod bod prif amrywiolyn y coronafeirws sydd bellach yn lledaenu yng Nghymru yn fwy trosglwyddadwy na'r amrywiolyn gwreiddiol. Mae hyn yn golygu bod angen i ni sicrhau lefelau eithriadol o uchel o imiwnedd er mwyn parhau i leihau'r cyfyngiadau ar fywydau pobl a cheisio atal neu leihau tonnau pellach o'r clefyd.

Rydym yn gwybod bod y brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Roedd y diweddariad a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror yn nodi rhywfaint o’r dystiolaeth o’r byd go iawn o ran effeithlonrwydd ac mae’r dystiolaeth hon yn parhau i dyfu (cyhoeddwyd astudiaeth o’r Unol Daleithau ar 22 Mawrth er enghraifft). Rydym yn gwybod hefyd bod y brechlynnau'n ddiogel. Ar 18 Mawrth cadarnhaodd Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA) a'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd fod y brechlynnau'n "ddiogel ac yn effeithiol i ddiogelu dinasyddion rhag COVID-19" a bod y manteision yn drech nag unrhyw risgiau posibl. Cadarnhawyd hefyd nad yw'r brechlynnau'n gysylltiedig â chynnydd yn y risg gyffredinol o ddigwyddiadau thromboembolig neu glotiau gwaed.

Er bod y gefnogaeth i frechu ar draws pob ystod oedran yn parhau'n uchel (dros 85% yn ôl yr arolwg diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru), mae risg y bydd cymhelliant i frechu yn aros ar yr un lefel ymhlith y grwpiau oedran iau am fod llai o risg y byddant yn dioddef yn ddrwg yn sgil y Coronafeirws. Rydym hefyd yn ymwybodol o amrywiaeth o bryderon sy’n creu petruster o ran manteisio ar y brechlyn, ac mae’r rheini debygol o fod yn fwy cyffredin yn y boblogaeth iau. Er enghraifft, pryderon o ran ffrwythlondeb ymhlith menywod iau.

Byddwn yn rhoi dull cadarn ar waith i sicrhau bod pobl yn manteisio ar y brechlyn:

  • drwy ddefnyddio'r holl sianeli cyfathrebu ac ymgysylltu sydd ar gael i ni yn genedlaethol ac yn lleol
  • drwy sicrhau bod ein model cyflawni yn cynnig y mynediad gorau posibl a chyfleus at frechu, fel ei fod yn ymateb i anghenion grwpiau a chymunedau sy’n anos eu cyrraedd ac ar y cyrion, gan gynnwys y rhai yn yr ystodau oedran iau
  • sy'n cymell y defnydd o frechlynnau, i sicrhau bod manteision personol a chymdeithasol brechu yn glir

Ar gyfer carreg filltir 2, fe wnaethon ni ddweud mai ein nod oedd gweld 75% yn manteisio ar y brechlyn,  gan weithio wrth gwrs tuag at gael gymaint o bobl â phosibl yn manteisio arno.  Roedd hyn yn seiliedig ar y lefelau a fanteisiodd ar raglenni imiwneiddio eraill, megis yr ymgyrch ffliw flynyddol. Byddwn yn parhau i anelu tuag at 75% yng ngharreg filltir 3 ac yn ceisio sicrhau bod lefel uwch yn manteisio ar y brechlyn. Er ein bod yn ymwybodol bod hyn yn debygol o fod yn heriol, byddwn yn parhau â'n dull gweithredu i gyrraedd pob dinesydd yng Nghymru. Mae pob brechlyn yn cyfrif mewn gwirionedd ac ni fydd unrhyw un yng Nghymru sydd am gael y brechlyn yn cael ei adael ar ôl.

Cydraddoldeb a mynediad teg 

Dylai pob person yng Nghymru gael mynediad teg at frechiad gyda chyfle teg i gael ei frechu. Dyna pam y bydd cymorth ychwanegol wedi'i deilwra'n cael ei roi ar waith ar gyfer grwpiau sy’n anos eu cyrraedd a grwpiau heb wasanaethau digonol, a allai fel arall gael eu gadael ar ôl, gan waethygu’r anghydraddoldebau presennol ym maes iechyd. 

Gellir ystyried camau gweithredu wedi'u targedu ar gyfer y grwpiau hyn ar draws tri dimensiwn rhyng-gysylltiedig, sef; pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl; pobl o dan anfantais economaidd-gymdeithasol sy'n byw mewn cymunedau sy’n ddifreintiedig iawn neu sydd wedi’u hallgáu’n cymdeithasol; a'r rhai mewn grwpiau ar y cyrion neu heb wasanaethau digonol fel ceiswyr lloches neu noddfa, pobl ddigartref, pobl sy'n rhan o'r system gyfiawnder, pobl sy’n dioddef iechyd meddwl gwael a phobl o gymunedau Teithwyr nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd traddodiadol yn rheolaidd. Fodd bynnag, bydd ein dull gweithredu hefyd yn edrych yn ehangach, y tu hwnt i grwpiau sydd ar y cyrion yn draddodiadol, gan fyfyrio ar brofiadau grwpiau a chymunedau yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau go iawn bod neb yn cael ei adael ar ôl.

Mae estyn allan i gymunedau wedi bod yn nodwedd bwysig drwy gydol y rhaglen. Rydym wedi rhoi trefniadau penodol ar waith ar gyfer rhai grwpiau ar y cyrion, gan gynnwys y rhai sy’n ddigartref neu'n gofalu am eraill. Rhoddwyd dulliau lleol ar waith hefyd i fynd â'r brechlyn i gymunedau, er enghraifft i rai safleoedd teithwyr a chanolfannau ffydd. Bydd hyn yn parhau ac yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y cam nesaf.

I gyd-fynd â’n strategaeth genedlaethol rydym yn cyhoeddi’r Strategaeth Brechu Teg, i nodi rhagor o fanylion am ein ffordd o feddwl a'n cynlluniau. Ffurfiwyd Pwyllgor Brechu Teg newydd i lywio'r gwaith hwn. Bydd yn monitro ac yn adolygu data, gwybodaeth ac ymchwil ar annhegwch o ran y rhai sy’n manteisio ar y brechlyn. Bydd hefyd yn cynghori ar ddulliau ymyrryd a chyfathrebu priodol i leihau annhegwch o ran y rhai sy’n manteisio ar y brechlyn yn y rhaglen. Bydd yn dilyn dull sydd wedi’i arwain gan y gymuned er mwyn i bryderon lleol gael eu mynegi, cydnabod rhwystrau penodol a mynd i'r afael â hwy drwy gymorth wedi'i deilwra wrth i'r rhaglen symud i'w cham nesaf.

Datblygwyd cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cynhwysfawr hefyd gan ddefnyddio mewnwelediadau ymddygiadol i archwilio a deall canfyddiadau ynghylch brechu, gan gynnwys yr hyn sy’n cymell ac yn rhwystro pobl rhag manteisio ar y brechlyn.

Cadernid y model cyflawni

Mae'r pwysau y mae GIG Cymru wedi gweithredu oddi tano ers dros flwyddyn bellach wedi bod yn ddigynsail ac yn aruthrol. Rydym yn hynod falch o'n staff GIG, gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol ac yn ddiolchgar tu hwnt iddynt am weithio'n ddiflino i'n diogelu yn ystod y pandemig, ac yn awr am ein diogelu rhag niwed yn y dyfodol drwy ein rhaglen frechu. Mae'r dull partneriaeth a welsom i roi’r rhaglen frechu hanfodol ar waith wedi bod yn anhygoel. Mae'n dangos yn union yr hyn y gellir ei gyflawni drwy ymdrechion a phartneriaeth ar y cyd.

Ond mae'n hanfodol ein bod yn pwyso a mesur wrth i ni symud i gam newydd ein rhaglen i ddiogelu cadernid ein model cyflawni, ystyried y cyd-destun ehangach – er enghraifft, niwed nad yw'n gysylltiedig â COVID a allai gael ei waethygu o ganlyniad i ganolbwyntio adnoddau o'r fath ar ein rhaglen frechu – a sicrhau bod ein model yn addas i'r diben o ran y boblogaeth darged yn ystod y cam nesaf hwn. Bydd hyn yn cynnwys cynyddu ein defnydd o adnoddau allweddol eraill, megis fferyllfeydd cymunedol, i gynnig llwybr cyflawni arall wrth symud ymlaen. Bydd ailasesu'r defnydd o leoliadau sy'n bodoli eisoes hefyd yn bwysig wrth i gymdeithas ddechrau agor a bydd angen dychwelyd rhai adeiladau, megis canolfannau hamdden, i'r diben a fwriadwyd.

Beth mae hyn yn ei olygu o ran ein dull gweithredu ar gyfer carreg filltir 3?

Mae angen dull gweithredu o’r gwaelod i fyny er mwyn cynllunio'r cam nesaf yn effeithiol, ac mae'r gwaith hwn eisoes yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y disgwyliadau cyffredinol canlynol yn ffurfio dulliau cyflawni lleol:

  • ffocws penodol ar grwpiau a allai fod yn llai tebygol o fanteisio ar y brechlyn – o ran cyfathrebu ac ymgysylltu a phenderfyniadau ar seilwaith
  • ystyriaeth benodol i leoliadau cymunedol, megis adeiladau ffydd neu ganolfannau cymunedol, fel canolfannau brechu – gyda'r nod uniongyrchol o dargedu'r cymunedau hynny beth bynnag fo’r opsiynau lleol ehangach
  • defnyddio data, tystiolaeth a gwybodaeth leol a gasglwyd o waith ymgysylltu i ddatblygu cynlluniau lleol
  • defnydd deallus o gapasiti lleol, gyda’r broses o wneud penderfyniadau yn pwyso a mesur ystyriaethau ehangach ac ystyriaethau yn y dyfodol – gan gynnwys lleihau niwed nad yw'n gysylltiedig â COVID, sicrhau cadernid y gweithlu, yn enwedig yng nghyd-destun rhaglen  pigiad atgyfnerthu bosibl yn yr hydref a rhaglen flynyddol barhaus bosibl, a'r posibilrwydd o ddychwelyd rhai lleoliadau

Bydd trefniadau cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i lwyddiant ein dull gweithredu ar gyfer carreg filltir 3. Mae ein cynulleidfa darged yn boblogaeth iau ac iachach a fydd yn debygol o deimlo'n llai mewn perygl. Mae’r potensial hefyd am fwy o betruster o ran manteisio ar y brechlyn, er enghraifft oherwydd pryderon ynghylch ffrwythlondeb neu gynhwysion y brechlyn yn cynnwys cynhyrchion cig. Bydd ein trefniadau cyfathrebu'n cael eu targedu a'u seilio ar dystiolaeth a byddant yn gwneud defnydd llawn o ffigurau cyhoeddus y gellir ymddiried ynddynt i gynnal cefnogaeth a chymhelliant i frechu.

Edrych i'r dyfodol

Er nad oes fawr o amheuaeth am lwyddiant y rhaglen frechu, ac mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn gadarnhaol iawn o ran effeithlonrwydd brechlynnau o ran atal clefyd difrifol a lleihau trosglwyddiad, nid yw’r argyfwng hwn drosodd eto. Ceir rhagor o wybodaeth am ein dulliau gweithredu ehangach tuag at y pandemig yn ein Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig.

Wrth i ni nesáu at yr hydref a'r gaeaf eleni, mae angen i ni fyfyrio'n ofalus ar y rhaglen pigiad atgyfnerthu posibl i frechlynnau COVID, yn enwedig ymhlith y grwpiau blaenoriaeth. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wrthi'n ystyried y dystiolaeth a bydd yn rhoi cyngor ar yr hyn sydd ei angen. Bydd hyn yn cynnwys ystyried yr opsiynau ar gyfer cyd-fynd â'r brechlyn ffliw gaeaf traddodiadol. Byddwn yn rhoi diweddariad pellach yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu

Rydym yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth am y rhaglen frechu yn rheolaidd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyhoeddi data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol, sy'n rhoi gwybodaeth am faint o frechlynnau sydd wedi'u rhoi, gan gynnwys dadansoddiadau dyddiol yn ôl grŵp blaenoriaeth, a dadansoddiadau wythnosol yn ôl bwrdd iechyd. Hefyd, mae adroddiadau gwyliadwriaeth misol ar gydraddoldeb cyfraddau brechu rhwng grwpiau ethnig a lefelau amddifadedd economaidd-gymdeithasol yn cael eu cyhoeddi bellach.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.

Rydym hefyd yn cyhoeddi diweddariad wythnosol i roi gwybod am gynnydd yn erbyn ein strategaeth.