Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 11Mai 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y cynllunio manwl yr oedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi bod yn ei wneud. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau - rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (‘y Cyd-bwyllgor’), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu - rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru

Cyhoeddwyd Diweddariad i'n Strategaeth Genedlaethol ar 23 Mawrth 2021, yn dilyn y Diweddariad a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror. Mae’n sôn am y cynnydd sydd wedi’i wneud ac yn darparu rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau nawr ac yn y dyfodol.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Fel y nodir yn yr adran isod ar gynnydd, rydym wedi cwblhau cam cyntaf y rhaglen:

  • pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn
  • staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • y rhai sy’n 50 oed a hŷn
  • y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  • y rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth

Rydym yn awr yn ail gam y rhaglen. Yn amodol ar gyflenwad, ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf. 

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael unrhyw un ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • pawb rhwng 30 a 39 oed
  • oedolion 40-49 oed sydd ar ôl heb eu brechu
  • pobl sy’n byw gydag unigolion a chanddynt systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau’n ddifrifol 
  • unrhyw un na chafodd ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl

Mae ein rhaglen ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyn pobl yn y tymor hirach felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd yr ail ddos.

Ble mae pobl yn cael eu brechu? 

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad a phob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 448 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 54 o ganolfannau brechu torfol
  • 338 o leoliadau practis cyffredinol
  • 12 o fferyllfeydd
  • 24 o leoliadau ysbyty
  • ac roedd 19 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawniad o ran marcwyr a cherrig milltir

Rydym wedi cwblhau cam cyntaf ein rhaglen, sy'n cynnwys 2 garreg filltir. 

Carreg filltir

Yn ein Strategaeth Frechu, fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad, yn:

Cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1–4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny'n cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Cadarnhawyd ar 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni'r garreg filltir hon.

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni’r garreg filltir gyntaf erbyn canol mis Chwefror: 

  • marciwr 1: cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr
  • marciwr 2: cynnig y brechlyn i bob preswylydd ac aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr
  • marciwr 3: sicrhau bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr

Mae’r grwpiau cyntaf hyn yn awr yn cael cynnig eu hail ddos o’r brechlyn, sy’n bwysig i’w hamddiffyn yn y tymor hirach. Mae 90% o breswylwyr cartrefi gofal a bron i 80% o staff cartrefi gofal yn awr wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn.

Carreg filltir 2

Fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad, yn:

Cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-9 erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny’n cynnwys pobl 50 oed a hŷn. 

Fe wnaethom gyflawni hyn ar 4 Ebrill.

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr yr oeddem yn disgwyl eu cyflawni yn ystod yr ail garreg filltir erbyn canol mis Ebrill:   

  • gweinyddu 1 miliwn dos o’r brechlyn erbyn 7 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 27 Chwefror
  • gweinyddu 1 miliwn dos cyntaf erbyn 14 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 9 Mawrth
  • gweinyddu 1.5 miliwn dos yn ystod yr ail garreg filltir. Cyflawnwyd hyn

I grynhoi:

  • mae pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael cynnig y brechlyn ac mae’r rheini yng ngrŵp blaenoriaeth 10 yn cael ei gynnig yn awr
  • mae nifer y rhai sydd wedi cymryd y brechlyn yn uchel iawn:
    • dosau cyntaf – dros 95% mewn rhai grwpiau yn derbyn y dos cyntaf, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a'r rhai sy'n 75 oed a hŷn, sy’n golygu bod grwpiau mwyaf agored i niwed ein poblogaeth wedi’u diogelu’n llawn
    • ail ddosau – eisoes dros 90% yn rhai grwpiau, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a’r rheini sy’n 75 oed a hŷn
  • hyd yma, mae 1,948,683 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru
  • mae 854,441 o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn. Gyda’i gilydd, mae mwy na 2.8 miliwn o frechlynnau wedi’u gweinyddu
  • mae 77% o’r garfan 40-49 oed wedi cael y dos cyntaf ac mae 52% o’r garfan 30-39 wedi cael y dos cyntaf
  • ni sydd â’r gyfradd frechu orau ar gyfer dosau cyntaf yn y DU, fel y mae’r siart canlynol ar gyfer cyfartaledd treigl 7 diwrnod o 9 Mai yn ei ddangos, ac mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos y brechlyn nag yn unrhyw ran arall o’r DU
  • yn gyffredinol, mae 77% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf ac mae un o bob tri oedolyn yng Nghymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos
Image
Graph

Mae diogelu ein poblogaeth agored i niwed wedi bod wrth galon ein hymateb ac mae cyflymder cyflwyno’r brechlynnau a’r nifer uchel sydd wedi eu derbyn yn golygu ein bod yn gwneud cynnydd da tuag at y nod pwysig hwnnw. Mae cynlluniau ar waith bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Felly, nid yw byth yn rhy hwyr i rywun yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf ddod ymlaen i gael eu brechu.  

Y marcwyr a’r cerrig milltir nesaf

Mae ail gam ein Rhaglen Frechu wedi dechrau a'n blaenoriaeth bresennol yw’r drydedd garreg filltir yn ein strategaeth. 

Rydym wedi dweud mai ein nod, yn amodol ar gyflenwad, yw cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yn y 10 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn diwedd mis Gorffennaf. 

Rydym yn parhau i symud yn gyflym drwy’r grwpiau oedran yng ngrŵp blaenoriaeth 10 ar draws Cymru. Mae 77% o bobl 40-49 oed wedi cael eu dos cyntaf.

Bydd y brechlyn sy’n cael ei gynnig mewn canolfannau brechu torfol yn amrywio, fodd bynnag, estynnir gwahoddiad i bobl ddod i apwyntiad ar ddiwrnod pan fydd y brechlyn a ddefnyddir yn addas ar gyfer eu hoedran neu eu hamgylchiadau clinigol. Mae’r cynnydd rhagorol sy’n cael ei wneud gan y rhaglen frechu yn golygu bod pob bwrdd iechyd nawr yn cynnig y brechlyn i bobl o dan 40 oed. Golyga hyn y bydd canolfannau brechu yn defnyddio’r brechlynnau Pfizer BioNTech neu Moderna yn bennaf.

Rhagor o wybodaeth

Diogelwch pobl sy’n dod gyntaf bob amser. Rydym yn defnyddio brechlynnau dim ond pan fo’n ddiogel i wneud hynny a phan fo’r manteision yn fwy na’r risg. Yr ydym yn hyderus yn y brechlynnau ac yn sicr bod yn rhaid inni gadw momentwm. 

Ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru, rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill i fonitro diogelwch brechlynnau’n barhaus a byddwn yn cadw golwg agos ar hyn.

Ddydd Gwener 7 Mai, diweddarodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ei gyngor arbenigol ac, fel mesur rhagofalus, bydd pobl o dan 40 oed sydd heb ffactorau risg glinigol ac sydd heb gael eu brechu eto yn cael cynnig brechlyn arall yn lle brechlyn AstraZeneca. Rydym wedi gweithredu’r newid hwn ar unwaith yn ein rhaglen, gan gadw at yr wybodaeth arbenigol ddiweddaraf. Yn unol â chyngor diweddaraf y JCVI, bydd byrddau iechyd yn sicrhau bod y brechlyn priodol ar gael ar yr adeg gywir i unigolion, yn enwedig y rhai o dan 40 oed sydd heb gael y dos cyntaf eto.  

Mae cyngor y JCVI yn seiliedig ar ystyried y sefyllfa benodol yn y DU, gan gynnwys epidemioleg bresennol, proffil manteision-risg yn ôl oedran, modelu rhagfynegiadau ar dueddiadau clefydau yn y dyfodol a rhagolygon presennol ar gyfer cyflenwadau o’r brechlyn.

Mae ein cyflenwad presennol o’r brechlyn a’r gyfradd heintio yn golygu y gallwn gymryd y cam rhagofalus hwn ac nid ydym yn rhagweld y bydd hyn yn arwain at oedi yn ein rhaglen frechu yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithio tuag at y drydedd garreg filltir yn ein Strategaeth, sef cynnig brechlyn i bawb sy’n 18 oed a hŷn erbyn 31 Gorffennaf 2021.

Cyngor y JCVI yw nad oes unrhyw arwyddion diogelwch sy’n peri pryder ar gyfer y digwyddiad niweidiol eithriadol o brin yn dilyn ail ddos y brechlyn AstraZeneca. 

Dylai pawb sydd eisoes wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca gael eu sicrhau mai cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yw y dylent gael ail ddos o’r un brechlyn, ni waeth beth fo’u hoedran. Gall eithriadau meddygol fod yn berthnasol i leiafrif bach iawn, er enghraifft y nifer fach iawn o bobl a gafodd glotiau gwaed gyda chyfrif platennau isel yn dilyn y brechiad cyntaf, neu sydd wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’w dos cyntaf.

Mae brechlyn AstraZeneca eisoes wedi achub miloedd o fywydau ac mae’n ddiogel ac yn effeithiol o hyd i’r mwyafrif o’r boblogaeth. Mae dros 1.2miliwn o bobl wedi cael brechlyn AstraZeneca yng Nghymru ers mis Ionawr, ac ychydig iawn o achosion o glotiau gwaed gyda thrombocytopenia sydd wedi bod.

Brechlynnau yw’r ffordd orau o hyd o ddod allan o’r pandemig hwn ac maent yn darparu amddiffyniad cryf rhag COVID-19 – mae’n bwysig bod pobl yn cael eu brechiad pan gânt eu gwahodd. 

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o’r rhai sy’n cymryd y brechlyn er mwyn cadw Cymru yn ddiogel. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pawb i fanteisio arnynt pan ddaw eu tro. Mae ail ddos y brechlyn yn bwysig i sicrhau diogelwch hirdymor yn erbyn COVID-19.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.