Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 9 Mawrth 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl oedd wedi bod ar y gweill gan GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol;
  • Ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt – ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd;
  • Sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd y Diweddariad i’n Strategaeth Genedlaethol ar 26 Chwefror 2021 i ystyried y cynnydd a rhoi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i’r dyfodol.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol y DU. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi'r rhestr.

Ein blaenoriaeth gyntaf oedd cynnig y brechlyn i grwpiau blaenoriaeth 1-4. Roedd hyn yn cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal pobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Dywedasom, yn amodol ar y cyflenwad, mai ein huchelgais oedd gwneud hyn erbyn canol mis Chwefror. Cyflawnwyd y targed hwnnw. Mae’r grwpiau cyntaf hyn yn awr yn dechrau cael cynnig ail ddos y brechlyn, sy’n bwysig i sicrhau diogelwch hirdymor.

Rydym yn awr yn brechu’r set nesaf o grwpiau blaenoriaeth:

  • pawb rhwng 50 a 69 oed
  • pawb dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn perygl o ddioddef salwch difrifol gyda COVID-19 – gan gynnwys rhai pobl ag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol
  • gofalwyr di-dâl sy’n darparu gofal i rywun sy’n agored i niwed yn glinigol yn sgil COVID-19

Yn amodol ar y cyflenwad, ein nod yw cynnig y brechlyn i bawb yn y grwpiau hyn erbyn canol mis Ebrill.

Heddiw, roedd nifer y bobl a oedd wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yn fwy nag un miliwn. Mae hyn yn golygu bod 4 o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn awr wedi cael eu dos cyntaf o leiaf. Mae hyn oll wedi’i gyflawni o fewn tri mis yn unig inni ddechrau brechu.

Hyd yn hyn mae mwy na 1,007,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru; ac mae mwy na 192,000 wedi cael dau ddos y brechlyn. Yn gyfan gwbl, mae mwy na 1,199,000 o frechlynnau wedi cael eu rhoi.

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Rydym wedi bod yn adeiladu seilwaith o'r gwaelod i fyny. Mae'r model cyflawni yn fodel cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl, sicrhau diogelwch, diwallu anghenion nodweddion y brechlynnau, sicrhau lleoliadau sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ym mhob rhan o’r wlad ac ym mhob cymuned.

Gwelwyd cyflenwad is o frechlynnau yn y DU dros yr wythnosau diwethaf. Roedd hyn yn ddisgwyliedig ac roeddem wedi cynllunio ar ei gyfer, gan addasu’r seilwaith i ddiwallu’r cyflenwad. O’r wythnos hon ymlaen, byddwn yn gweld cynnydd yn y cyflenwad o’r brechlyn sy’n cyrraedd y DU a Chymru. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechlynnau’n cael eu rhoi mewn 492 o leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys:

  • 41 o ganolfannau brechu torfol
  • 360 o leoliadau practis cyffredinol
  • 35 o ysbytai
  • gan 105 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawni marcwyr a cherrig milltir

Yn ein Strategaeth, amlinellwyd 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni carreg filltir 1 erbyn canol mis Chwefror: 

Marciwr 1 oedd cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. Cyflawnwyd hyn.

Marciwr 2 oedd cynnig y brechlyn i bob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn.

Marciwr 3 oedd bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn a rhagorwyd arno cyn y dyddiad a nodwyd.

Carreg Filltir 1 yn ein strategaeth oedd bod wedi:

  • cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi i bobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pobl 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Cadarnhawyd gennym ddydd Gwener 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir hon. Mae pob unigolyn yn y 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf wedi cael cynnig y brechlyn ac mae mwy na 85% yn awr wedi derbyn eu dos cyntaf. Mae dros 90% o rai grwpiau yn manteisio ar y brechlyn, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal ac unigolion dros 70 oed. 

Marcwyr a cherrig milltir sydd ar y gweill

Ein blaenoriaeth bresennol yw carreg filltir 2 yn ein strategaeth. Rydym wedi dweud mai ein nod yw cynnig dos cyntaf y brechlyn i bawb yn y 9 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill. Mae mwy na 85% o unigolion rhwng 65-69 oed eisoes wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn ac mae unigolion yn y grŵp oedran 50-64 oed hefyd yn dechrau cael eu galw i’w hapwyntiadau yn awr. Gyda 4 o bob 10 o’r boblogaeth sy’n oedolion yn awr wedi cael eu brechu, rydym yn gwneud cynnydd da.

Mae ein rhaglen ar gyfer cyflwyno’r ail ddos hefyd yn mynd rhagddi yn gyflym. Mae sicrhau bod nifer y rheini sy’n manteisio ar y cynnig o ail ddos yn uchel yn agwedd allweddol arall ar ein dull, oherwydd mae’r ail ddos yn hanfodol ar gyfer diogelwch hirdymor.

Ni sydd â’r gyfradd frechu orau yn y DU ar hyn o bryd, fel y gwelir yn y siart cyfartaledd treigl 7 diwrnod a ganlyn, ac mae cyfradd uwch o bobl yng Nghymru wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn nag yn unrhyw ran arall o’r DU.

Image
Dosau cyntaf y bechlyn, fesul diwrnod, ym mhob 100,000 o bobl, fel cyfartaledd dros 7 diwrnod


Pan fydd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth presennol wedi cael cynnig dos cyntaf o’r brechlyn, yn ogystal â pharhau gyda rhaglen yr ail ddos, bydd GIG Cymru’n cynnig y brechlyn i unigolion 40-49 oed, yn unol â’r cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar gyfer cam 2 y rhaglen. Rydym wedi dweud mai ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf.    

Rhagor o wybodaeth

Mae cyfres o wybodaeth am ein rhaglen frechu i’w chael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau a gyhoeddwyd mewn perthynas â’r grwpiau blaenoriaeth.

Mae’r Diweddariad i’n Strategaeth Genedlaethol a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr ymchwil sy’n cael ei chyhoeddi ar effeithiolrwydd y brechlynnau. Mae’r ymchwil yn gadarnhaol iawn ond mae gennym ragor i’w ddysgu eto.

Un peth sy’n dod yn fwyfwy clir yw pwysigrwydd cynnal y lefelau uchel presennol o ran y niferoedd sy’n cael y brechlyn. Mae pob dos a roddir a phob unigolyn a ddiogelir yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r brechlynnau yn ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pob un i fanteisio ar y cynnig pan ddaw eu tro.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi datganiadau data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.