Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad 2021

Cyhoeddwyd rhifyn diweddaraf MALlC ar 27 Tachwedd 2019. Cyhoeddwyd rhywfaint o ddata'r dangosyddion wedi'u rhannu yn ôl oedran ym mis Ionawr 2020. Yn 2021, byddwn yn cyhoeddi data ar gyflyrau cronig a chyflyrau iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddygon teulu wedi'u rhannu yn ôl oedran.

Rydym bellach wedi adolygu'r potensial ar gyfer diweddaru data dangosyddion yn ystod 2021. Gan ystyried defnyddioldeb cyfyngedig y diweddariadau sy’n bosibl, ansicrwydd arall a goblygiadau o ran adnoddau (i gyflenwyr data ac i Lywodraeth Cymru), ni fyddwn yn diweddaru unrhyw ddata dangosyddion yn 2021. Byddwn yn parhau i gyhoeddi allbynnau sy'n seiliedig ar 2019, yn cynnig sesiynau ymwybyddiaeth MALlC, ac yn ymgymryd â gwaith datblygu tymor hwy ar ddangosyddion allweddol cyn y diweddariad mynegai nesaf (nid yw'r amseru wedi'i bennu eto).

Yn 2021 rydym yn parhau i gyhoeddi allbynnau dilynol ar gyfer MALlC 2019. Gweler ein rhestr o allbynnau MALlC 2019 ar gyfer manylion llawn o gyhoeddiadau MALlC 2019, gan gynnwys yr hyn sydd i ddod.

Os hoffech gael hysbysiad am ddiweddariadau cyhoeddiadau ar gyfer MALlC, anfonwch e-bost ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio.

Diweddariad 2020

Ni fyddwn yn diweddaru unrhyw ddangosyddion MALlC yn 2020 am y rhesymau a amlinellir isod.

  • Byddai'r mwyafrif o ddiweddariadau data y gallwn eu cyflawni yn ymwneud â'r flwyddyn 2019 neu cyn, ac felly â chyfnod cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Golygai hyn y byddai diweddariad dangosydd o werth cyfyngedig, gyda dim ond ychydig o newid i’w gymharu â data a gynhwyswyd ym MALlC 2019, a ni cheir unrhyw ddealltwriaeth o'r newid sylweddol tebygol yn y darlun sylfaenol o ganlyniad i'r pandemig. Bydd y data dangosyddion y byddem wedi ceisio'u diweddaru (e.e. absenolrwydd ailadroddus, cyflyrau iechyd, hawlwyr budd-daliadau a chredyd cynhwysol) yn cael eu heffeithio gan y pandemig a/neu gyfyngiadau symud, a bydd angen eu hadolygu’n drylwyr wrth eu diweddaru.
  • Mae diweddaru data dangosyddion yn ddwys o ran adnoddau, ac ar hyn o bryd nid oes gennym y gallu i ymgymryd â'r gwaith yma oherwydd adleoliad adnoddau o ganlyniad i'r pandemig COVID-19.
  • Mae ein cyflenwyr data dangosyddion hefyd wedi gweld newid mewn cynhwysedd a blaenoriaethau oherwydd y pandemig, sy’n effeithio ar eu gallu i weithio gyda ni i bennu a chyflenwi data newydd.

Yn 2021 byddwn yn adolygu’r holl ddata dangosyddion MALlC ac yn penderfynu pa rai, os o gwbl, y gellir ac y dylid eu diweddaru erbyn diwedd y flwyddyn.