Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Chwefror 2019.

Cyfnod ymgynghori:
11 Ionawr 2019 i 19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 384 KB

PDF
384 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn awyddus ichi fynegi barn am ein bwriad i newid cyfraith ddomestig Cymru os na cheir cytundeb ar Brexit.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori am gywiriadau i rai o offerynnau statudol Cymru sy'n deillio o gyfraith yr UE. Maent yn ymwneud â safonau marchnata bwyd, labelu a llaeth ysgol.

Mae'r diwygiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud yn cywiro diffygion. Maen nhw'n cael eu gwneud er mwyn sicrhau y bydd y gyfraith yn parhau'n effeithiol os na fydd cytundeb ar Brexit. Ni ddylai'r newidiadau effeithio ar y diwydiant yng Nghymru.

Dyma'r ddeddfwriaeth sydd dan sylw:

  • Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
  • Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010
  • Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011.

Rydym wedi estyn y cyfnod ymgynghori er mwyn cynnwys cynigion ychwanegol ynghylch diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 a Rheoliadau Adrodd ar Gynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011. Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben yn awr ar 19 Chwefror.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen Ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 345 KB

PDF
345 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.