Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r Adran Drafnidiaeth a Chysylltedd Digidol yn holi barn ar ddiweddariadau arfaethedig i'r cod ymarfer ar ddiogelwch gwaith stryd a gwaith ffordd yng Nghymru

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
14 Rhagfyr 2026
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae gwaith stryd a gwaith ffordd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a gwella seilwaith a gwasanaethau cyfleustodau hanfodol. 

Rhaid gwneud gwaith o'r fath yn ddiogel er mwyn amddiffyn gweithwyr a lleihau risgiau i'r cyhoedd sy'n teithio.

Rydym yn holi barn ar ddiweddariadau arfaethedig i'r cod ymarfer ar ddiogelwch gwaith stryd a gwaith ffordd. 

Mae'r cod ymarfer drafft yn darparu canllawiau statudol ar arwyddo, goleuo a diogelu gwaith stryd a gwaith ffordd ar ffyrdd a phriffyrdd cyhoeddus er mwyn helpu i amddiffyn gweithwyr, defnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.

Mae'r diweddariadau arfaethedig yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau ac arferion gwaith ers i'r cod gael ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2013.

Pam mae eich barn yn bwysig

Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y cod diwygiedig yn glir, yn ymarferol ac yn effeithiol i'r rhai sy'n ei ddefnyddio.

Rydym yn croesawu barn gan:

  • gwmnïau cyfleustodau
  • contractwyr ffyrdd a pheirianneg sifil
  • sefydliadau proffesiynol a chyrff diwydiant
  • awdurdodau lleol
  • gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus
  • grwpiau hygyrchedd
  • y gwasanaethau brys
  • busnesau
  • aelodau'r cyhoedd.

Bydd eich adborth yn helpu i lunio'r cod yn y dyfodol ac i wella safonau diogelwch ledled Cymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK