Neidio i'r prif gynnwy

Manylion:

Dyddiad cyhoeddi:

5 Ionawr 2023.

Statws:

Gweithredu / gwybodaeth.

Categori:

Polisi.

Teitl:

Diweddaru cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin 2022 i 2026.

Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:

31 Rhagfyr 2026.

Angen gweithredu erbyn:

Parhaus.

I’w weithredu gan:

  • bob bwrdd iechyd
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC)

Anfonwr:

Yr Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Enw(au) Cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Kevin Francis, Uwch-reolwr Polisi Cyflyrau Iechyd Difrifol,
Nyrsio ac Ansawdd, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.
Rhif ffôn: 03000 255195.
E-bost: Kevin.Francis@gov.wales

Dogfennau amgaeedig:

Diweddaru cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin 2022 i 2026.

Diweddaru cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin 2022 i 2026

Crynodeb

Diben y cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at gyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig o 'Gynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin (2022 i 2026)'.

Cam gweithredu

Lle bo’n briodol, gofynnir i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG weithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), y Grŵp Gweithredu ar gyfer Clefydau Prin, y trydydd sector, a sefydliadau perthnasol eraill i hwyluso a gweithredu’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu a amlinellir yng 'Nghynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin'.

Dylai byrddau iechyd ystyried y blaenoriaethau ar gyfer clefydau prin wrth gynllunio eu gwasanaethau a datblygu eu cynlluniau tymor canolig integredig.

Diweddaru cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin  

Mae’r fersiwn ddiwygiedig o 'Gynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin 2022 i 2026' ar gael drwy ymweld â gwefan y Weithrediaeth GIG Cymru.

Ar Ionawr 9 2021, cyhoeddwyd 'Fframwaith y DU ar gyfer clefydau prin'. Yn sgil hynny, cafodd 'Cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin' ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2022, er mwyn amlinellu’r dull gweithredu a ddefnyddir yng Nghymru.

Cafodd Gweithrediaeth GIG Cymru ei lansio yn 2023. Bydd y Grŵp Gweithredu ar gyfer Clefydau Prin yn gweithio o fewn y sefydliad newydd hwn, gan ddatblygu’n rhwydwaith gweithredu ar gyfer clefydau prin i Gymru. Yr un fydd y nod, sef tynnu ynghyd partneriaid cyflawni i ddatblygu a monitro fersiwn Cymru o’r cynllun gweithredu newydd. Cafodd pedair prif flaenoriaeth eu nodi yn fframwaith y DU: 

  • blaenoriaeth 1, helpu cleifion i gael diagnosis pendant yn gynt
  • blaenoriaeth 2, codi ymwybyddiaeth o glefydau prin ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • blaenoriaeth 3, sicrhau bod gofal yn cael ei gydgysylltu’n fwy effeithiol
  • blaenoriaeth 4, gwella mynediad at ofal arbenigol, triniaeth, a meddyginiaethau

Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd i wella canlyniadau yn y meysydd blaenoriaeth hyn.

Er bod y fframwaith yn dal i fod yn ddogfen sy’n berthnasol i’r DU gyfan, mae gan bob un o’r pedair gwlad ei grŵp / rhwydwaith gweithredu ei hun sy’n gyfrifol am ddrafftio a monitro cynlluniau gweithredu sy’n benodol i’r wlad honno. Bydd gwaith y timau cenedlaethol yn cael ei deilwra i anghenion poblogaethau unigol, ac ar yr un pryd byddant yn gweithio gyda’i gilydd drwy Fwrdd Fframwaith y DU ar gyfer Clefydau Prin, er mwyn sicrhau bod gwaith pob tîm mor gydnaws â phosibl â gwaith y timau eraill ar draws y pedair gwlad. 

Fel rhan o’r cytundeb o fewn bwrdd fframwaith y DU, penderfynodd Cymru, yr Alban a Gogledd Cymru fynd drwy broses ddiweddaru bob blwyddyn, yn hytrach na chyhoeddi cynllun newydd fel y mae Lloegr yn ei wneud.

Mae pob blaenoriaeth yng Nghynllun Cymru ar gyfer clefydau prin yn cael ei amlinellu ochr yn ochr â gwybodaeth gefndir, camau gweithredu, rhanddeiliaid / partneriaid cyflawni, llinellau amser, a dulliau o fesur canlyniadau.

Yn ystod cylch y cynllun gweithredu, bydd rhwydwaith gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin yn cyfarfod yn rheolaidd i oruchwylio hynt y camau gweithredu ac i adrodd ar hynny, gan ddarparu platfform ar gyfer mesur llwyddiant y cynllun mewn modd gwrthrychol. Bydd y rhwydwaith a phartneriaid yn gweithio gyda phedair gwlad y DU a grwpiau cyfatebol eraill i sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu hystyried wrth weithredu’r cynllun yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd a sefydliadau partner fel mecanwaith ar gyfer datblygu cynllun gweithredu Cymru a goruchwylio cynnydd y cynllun.

Bydd y ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi drwy Weithrediaeth y GIG, ar ôl ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.