Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, â myfyrwyr yn Ysgol y Strade yn Llanelli a oedd yn casglu eu canlyniadau.
Llongyfarchiadau a da iawn chi bawb sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw.
Mae heddiw yn nodi dechrau cyfnod cyffrous i chi. Cyfnod o ddechrau cynllunio eich camau nesaf.
Dw i'n gobeithio eich bod wedi cael y graddau roeddech chi eu heisiau, a ph'un a ydych chi am benderfynu parhau ag addysg, dewis hyfforddiant galwedigaethol neu fynd i mewn i gyflogaeth, mae yna lawer o opsiynau ar gael. I'r rhai sy'n ceisio arweiniad o ran eu camau nesaf, mae cymorth yn dal i fod ar gael drwy eich ysgol neu'ch coleg a'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n darparu ystod o opsiynau.
Rydyn ni wedi gweld rhai canlyniadau cryf yn ein graddau uchaf ac ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Arwydd cadarnhaol ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran cyrhaeddiad yn ein hysgolion.
Dw i hefyd eisiau talu teyrnged i'n hathrawon a'n gweithlu addysg y mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi helpu ein dysgwyr i ffynnu.
