Neidio i'r prif gynnwy

Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn dathlu pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, ac yn tynnu sylw at werth mannau chwarae hygyrch a chynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Thema eleni yw 'mannau chwarae', ac ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, ag ardal Pentref Plant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Yn ystod ei hymweliad, gwelodd Ysgrifennydd y Cabinet drosti ei hun y gweithgareddau a'r profiadau sydd ar gael i blant yn yr Eisteddfod, gan gynnwys y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau creadigol a pherfformiadau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad, lles a hapusrwydd plant. Roedd ymweld ag ardal Pentref Plant yn yr Eisteddfod yn gyfle gwych i weld sut y gall chwarae a diwylliant ddod at ei gilydd i greu profiadau ystyrlon i blant.

"Ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol y flwyddyn hon, mae'n bwysig cydnabod y rôl hanfodol sydd gan fannau chwarae o safon yn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i wella meysydd chwarae oherwydd ein bod wedi ymrwymo i sicrhau, waeth beth fo'u cefndir, fod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at gyfleusterau chwarae rhagorol."

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: 

"Mae'n dda clywed am y gweithgareddau chwarae gwych sy'n digwydd ledled Cymru heddiw i ddathlu Diwrnod Chwarae'r DU.

"Y thema eleni yw 'mannau chwarae', ac rwy'n falch iawn ein bod wedi buddsoddi £5m y flwyddyn ariannol hon i wella ansawdd mannau chwarae a meysydd chwarae ledled Cymru.

"Mae gan blant hawl i chwarae – ac mae chwarae nid yn unig yn hwyl ond hefyd yn bwerus, ac yn cyfrannu at iechyd, hapusrwydd a datblygiad plant. Rydyn ni eisiau Cymru lle mae gan bob plentyn ddigon o gyfleoedd cyfoethog i chwarae."