Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gofyn heddiw i Gymru uno mewn dau funud o dawelwch am 11am i nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O risiau adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, bydd y Prif Weinidog yn annog y wlad i “gael ei hysbrydoli gan y rheini a oroesodd yr Ail Ryfel Byd, i’n helpu i ddelio â’n cyfnod unigryw ni mewn hanes”.

Drwy gydol yr wythnos hon, mae’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi bod yn siarad â chyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd drwy Zoom, Skype, FaceTime a thros y ffôn.

Diolchodd y Gweinidogion i’r cyn-filwyr - gyda phob un rhwng 96 a 103 oed - am eu “dewrder anhygoel” wrth wrando ar eu straeon rhyfeddol.

Gofynnir i bobl ledled Cymru aros gartref heddiw wrth iddynt ddathlu Diwrnod VE a pharhau i warchod y GIG ac achub bywydau.

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod VE y DU, bydd y Llu Awyr Brenhinol yn hedfan awyren jet Typhoon dros Gaerdydd, Caeredin a Belfast, hyd at gyflymdra o 350mya. Yn Llundain, bydd modd gweld y Red Arrows yn yr awyr.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“O siarad â’r holl gyn-filwyr yr wythnos hon, a gwrando ar eu cofnod eithriadol o ymosodiadau torpido a pha mor agos y daethon nhw at gael eu taro, fe wnes i sylweddoli mewn ffordd newydd y rhuddin a’r penderfyniad anghredadwy sy’n perthyn i genhedlaeth gyfan a oroesodd yr Ail Ryfel Byd.

“Fe all pob un ohonom ni edrych arnyn nhw am ysbrydoliaeth i’n helpu i ddelio â’n cyfnod unigryw ni mewn hanes.
“Rydw i eisiau diolch i bob unigolyn ar draws y gymanwlad sydd wedi brwydro yn erbyn ffasgiaeth, gan helpu i adeiladu sylfeini’r gymdeithas rydyn ni i gyd yn elwa arni heddiw.

"Er bod y coronafeirws yn golygu ein bod yn gorfod dathlu Diwrnod VE yn ein cartrefi, rydym dal yn benderfynol o dalu teyrnged. Am 11am, gadewch i ni sefyll yn ein hunfan yn ddistaw a chofio pawb a wnaeth oroesi a'r rheini a gollodd eu bywydau drosom ni."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
 
"Yn ystod yr wythnos pryd rydym yn talu teyrnged i genhedlaeth wnaeth aberthu cymaint i sicrhau Buddugoliaeth yn Ewrop, roedd yn bleser ac yn fraint cael siarad â chyn-filwyr o'r Ail Ryfel Byd.

“Clywais storïau anhygoel ac ysbrydoledig am eu gwasanaeth a hoffwn ddiolch iddyn nhw eto am bopeth y maent wedi'i wneud i'w gwlad a'r hyn y maent yn parhau i'w wneud."

Dywedodd Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru:

"Wrth i ni wynebu'r cyfnod mwyaf heriol ers yr Ail Ryfel Byd, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod ynghyd i gydnabod gwasanaeth pobl i'r genedl, fel y gwnaeth cymunedau 75 mlynedd yn ôl.

"Nid oes ffordd gywir nac anghywir o gymryd rhan yn y tawelwch am 11am; efallai y bydd rhai pobl eisiau sefyll wrth eu ffenestri neu ar garreg y drws, ond rydym yn gobeithio y bydd unigolion a theuluoedd yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i rannu ennyd cenedlaethol o fyfyrio.

“Wedyn, yn nes ymlaen, gofynnwn i bobl agor eu ffenestri led y pen ac ymuno â ni i ddathlu a rhoi diolch wrth i ni ganu gyda'n gilydd glasur Dame Vera Lynn, 'We'll Meet Again', sydd hyd yn oed yn fwy teimladwy yn yr amgylchiadau presennol.

"Mae rhywfaint o debygrwydd rhwng trafferthion yr Ail Ryfel Byd a'r hyn rydym yn ei brofi heddi. Wrth i ni nodi 75 mlynedd ers Buddugoliaeth yn Ewrop, rydym yn troi at genhedlaeth yr Ail Ryfel Byd i ddysgu o'u profiadau, ac mae'r Lleng Brydeinig yn parhau ein gwaith hanfodol i'w diogelu rhag y bygythiad rydym yn ei wynebu nawr."

I gymryd rhan yn y dathliadau VE, gallwch:

  • Ymuno yn y ddau funud o dawelwch am 11am
  • Dathlu yn eich cartrefi - ceir syniadau yn https://ve-vjday75.gov.uk/
  • Rhoi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnodau #VEDay75 #DiwrnodVE75, i rannu storïau eich teulu ac i ddweud diolch
  • Canu 'We’ll Meet Again' ar garreg eich drws am 9pm