Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Cymru yn dathlu'r cyfraniad hanfodol sydd wedi cael ei wneud gan fudwyr i gymdeithas Cymru gan barhau i annog gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau â'i gilydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n 70 mlynedd ers i'r Empire Windrush ddod â 492 o deithwyr Caribïaidd i’r Deyrnas Unedig. Heddiw, bydd Gweinidogion yn ymuno â chyfeillion o Gyngor Hil Cymru a Hynafwyr Mis Hanes Pobl Dduon i gofio’r achlysur mewn digwyddiad yn y Senedd i gydnabod y cyfraniad a wnaed gan genhedlaeth Windrush i'n gwlad.

Bydd Julie James, Arweinydd y Tŷ, yn cynnal y dathliad, a hynny mewn digwyddiad sy'n gysylltiedig ag Wythnos y Ffoaduriaid, i gofio Diwrnod Windrush a chydnabod ei arwyddocâd hanesyddol a'i arwyddocâd heddiw.   

Mae'r gefnogaeth gref ddiweddar i genhedlaeth Windrush yn adlewyrchu'r parch sydd gan bobl Cymru at y bobl hynny a atebodd yr alwad honno flynyddoedd yn ôl i wneud Prydain yn gartref iddynt. Tra bo hiliaeth a gwahaniaethu yn parhau i fod yn broblem yng Nghymru, dywed Julie James fod rhaid i ni barhau i hyrwyddo a diogelu'r egwyddorion o degwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.

“Heddiw, rydym yn talu teyrnged i'r cyfraniadau a wnaed i Gymru gan genhedlaeth Windrush a'i disgynyddion, a’r cymunedau mudol a ddaeth yma cyn hynny ac ar ôl hynny. Diolch iddynt am eu hymdrechion a'u haberth dros y cenedlaethau. Bydd ’n parhau i groesawu'r bobl hynny o dramor sy'n dod yma i wella'n cymunedau, a hynny â breichiau agored. Byddwn yn sefyll yn gadarn yn erbyn y gwahaniaethu sy'n wynebu'r cymunedau hyn, lle bynnag y bo'r achosion hynny.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, sydd hefyd yn rhoi anerchiad yn y seremoni:

“Mae ffoaduriaid wedi dod ag ystod eang o sgiliau a galluoedd i Gymru, ac mae'n gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa well o lawer oherwydd hynny. Rydym hefyd yn dathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed yn 2018. Mae'n anodd dychmygu llwyddiant parhaus ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol heb gefnogaeth y cymunedau mudol a'i disgynyddion, sydd wedi bod yn hanfodol yn hynny o beth.”

Dywedodd Uzo Iwobi, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru a Chadeirydd Rhwydwaith Hanes Pobl Dduon Cymru Gyfan:

“Pleser mawr yw cydweithio â Llywodraeth Cymru  a phob sefydliad sy’n bartneriaid er mwyn cofio 70 mlynedd ers glaniad mudwyr Windrush a'u cyfraniadau i Gymru. Mae'r modd y mae rhai mudwyr Windrush yn cael eu trin gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar yn destun cryn siom i mi. Mae'r digwyddiad hwn a gynhelir gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, Julie James AC, yn ddigwyddiad o bwys hanesyddol ac yn ddatganiad clir o'r ffaith bod Cymru yn dathlu ac yn gwerthfawrogi cyfraniadau ein Hynafwyr Hanes Pobl Dduon, cenhedlaeth Windrush a'u teuluoedd sydd wedi rhoi gwasanaeth parhaus i'n cymdeithas dros y 70 mlynedd diwethaf a mwy, a hynny heb feddwl cael dim yn ôl. Mae Cyngor Hil Cymru yn cymeradwyo gwaith a chyfraniad pob mudwr o wledydd y gymanwlad, a phob mudwr sy'n parhau i wasanaethu eu cymunedau, a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector ledled Cymru. Ymunwch â ni yn y digwyddiad i ddathlu Cenhedlaeth Windrush a'u teuluoedd yn y Senedd ar 22 Mehefin 2018.”  

Dywedodd Margaret Thomas, Ysgrifennydd Rhanbarthol UNISON,

“Mae UNISON Cymru yn falch o gael noddi'r gweithgareddau hyn sy'n nodi 70 mlynedd ers glaniad cenhedlaeth Windrush. Mae'r genhedlaeth honno a'u plant wedi cyfoethogi bywyd yma yng Nghymru. A hithau hefyd yn 70 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd eleni, byddwn yn talu teyrnged i weithwyr Affricanaidd-Caribïaidd a phob mewnfudwr sydd wedi cyfrannu at wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae ymrwymiad a goddefgarwch cenhedlaeth Windrush wedi bod yn amlwg gydol eu bywydau, sy'n wahanol iawn i'r driniaeth y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd gan Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig, sydd yn wirioneddol anfaddeuol. Mae'r llywodraeth honno wedi dinistrio bywoliaeth a chwalu teuluoedd drwy fygwth allgludo dinasyddion Prydeinig.

“Rydym ni yn UNISON  yn ceisio gwneud ein gorau, ac yn trin pobl gyda pharch ac urddas. Rydym ni'r Cymry yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn genedl dosturiol. Rhaid i ni barhau i fod yn oddefgar ac yn groesawgar. Rydym yn diolch i genhedlaeth Windrush am gyfrannu at ein hundeb, ein cymunedau a'n gwlad. Diolch hefyd am eu cefnogaeth.”

Dywedodd Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru:

“Rydym yn croesawu'r digwyddiad hwn sy'n nodi glaniad pobl Garibïaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae pobl Garibïaidd wedi cyfrannu'n helaeth ac yn gadarnhaol at gymdeithas Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac rydym yn falch o allu cefnogi'r digwyddiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru a'r Awdurdodau Lleol hefyd yn fodlon cyfrannu at y digwyddiadau gan fod hyn yn anfon neges bwysig o undod. Mae hefyd yn rhoi neges o groeso i gymunedau amrywiol yng Nghymru, sy'n beth pwysig iawn yn y byd sydd ohoni pan fo negeseuon cynhennus yn aml i’w clywed yn uwch.”