Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y cynnig

Mae gan y systemau addysg sy’n perfformio orau yn fyd-eang athrawon a staff cynorthwyol egnïol, sy’n ennyn diddordeb ac yn ymrwymedig i ddysgu parhaus. Mae’r ymrwymiad hwn i ddysgu proffesiynol, sy’n parhau gydol gyrfa, yn allweddol i ansawdd ac effaith y dysgu a’r addysgu yn y wlad. Yng Nghymru, rydym wedi datblygu dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa i’n gweithlu mewn ysgolion, gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu, staff cyflenwi ac arweinwyr. Rydym eisiau cefnogi ymarferwyr yng Nghymru i fod yn ddysgwyr gydol oes sy’n myfyrio ar eu harferion eu hunain ac yn eu gwella er mwyn ysbrydoli ac ysgogi plant a phobl ifanc yn eu hysgolion.

Ond mae’r system addysg wedi wynebu heriau sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Er bod diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) ychwanegol wedi’u hychwanegu yn 2019, roedd y pandemig yn golygu na wnaed defnydd llawn ohonynt. Felly, mae angen cryfhau’r ymgysylltu ar draws y system er mwyn gweithredu a chodi ymwybyddiaeth o oblygiadau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, y diwygiadau a sicrhau tegwch mewn addysg. Rydym yn cydnabod bod angen rhoi amser i’r holl ymarferwyr allu gwneud hyn. 

Dechreuodd y cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno o fis Medi 2022, a lansiwyd yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol hefyd ym mis Medi 2022. Felly, mae’r cynnig ar gyfer diwrnodau HMS ychwanegol am gyfnod byr yn un o sawl ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi pob ymarferydd i allu ymgysylltu â'u dysgu proffesiynol a datblygu eu sgiliau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Cynnig tymor byr yw hwn sy'n cwmpasu'r tair blynedd academaidd rhwng 2022 a 2025.

Cefndir: pam ydyn ni'n gwneud hyn?

Bwriedir i'r diwrnod HMS ychwanegol ategu'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a’n buddsoddiad mewn dysgu proffesiynol. Bydd yn helpu i greu amser mewn ysgolion i ymarferwyr ymgysylltu â dysgu proffesiynol i gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru, y diwygiadau ADY a thegwch ym maes addysg; cydweithio o fewn ac ar draws ysgolion a myfyrio ar eu dysgu yn unol â'r disgwyliadau a amlinellir yn yr hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Bydd hefyd yn cefnogi dysgu ac ymgysylltu proffesiynol hir ei yrfa gydag ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Yn draddodiadol, mae gan athrawon a phenaethiaid hawl i bum diwrnod HMS (neu gyfatebol) ym mhob blwyddyn academaidd, sydd eisoes yn cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau dysgu proffesiynol a darpariaeth hyfforddiant statudol. Mae’r 5 diwrnod HMS presennol yn rhan o gyflog ac amodau athrawon a chânt eu cynnwys yn yr adran oriau gwaith yn Nogfen statudol Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol Cymru. Mae hyn yn golygu bod angen cyflogi athrawon llawn amser am 195 diwrnod y flwyddyn - ac ni ddylai mwy na 190 o’r rhain fod yn ddiwrnodau addysgu disgyblion. Mae'r pump arall wedi'u dynodi'n ddyddiau HMS.

I gynyddu nifer y diwrnodau HMS bydd angen i ni ddiwygio Rheoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol a Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003. Byddai'r newid hwn yn gofyn i ysgolion a gynhelir ddefnyddio un diwrnod (h.y. dwy sesiwn ysgol) at ddiben HMS, wedi’u hanelu’n benodol at ddysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm, y diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg. Byddai hyn yn golygu bod ysgolion yn cynnal chwe diwrnod HMS (neu gyfwerth) y flwyddyn, gyda’r ysgol ar gau i ddisgyblion ar y diwrnod HMS ychwanegol.

Daw'r cynnig hwn yn dilyn galwadau o bob rhan o'r system addysg gan gynnwys ymarferwyr, undebau a rhannau eraill o'r haen ganol, fel Consortia Rhanbarthol, i Lywodraeth Cymru barhau i greu amser i ymgysylltu â'r newidiadau yn y system addysg yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 ("y Rheoliadau") er mwyn darparu ar gyfer y ddau wyliau banc ychwanegol ar ddydd Llun 19 Medi ar gyfer Angladd EM y Frenhines Elisabeth II, a Choroni EF y Brenin Charles III ddydd Llun 8 Mai 2023.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer nifer y sesiynau ysgol y mae'n rhaid eu cyflwyno mewn unrhyw flwyddyn ysgol. Mae'r rhif hwn yn cael ei addasu o bryd i'w gilydd er mwyn darparu ar gyfer diwrnodau HMS ychwanegol at ddiben penodol neu ar gyfer gŵyl banc ychwanegol, drwy ddiwygio'r Rheoliadau.

Yn unol â Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022/23, mae'r nifer gofynnol o sesiynau ysgol (hanner diwrnod) y mae'n rhaid eu cyflwyno ym mlwyddyn ysgol 2022 i 2023 wedi gostwng o bedwar.

Gwnaed gwelliannau tebyg yn gynharach eleni yn 2022 ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines ac yn 2011 ar gyfer y Briodas Frenhinol ac eto yn 2012 ar gyfer Jiwbilî Diemwnt y Frenhines. Ar gyfer gwyliau'r banc hyn, mae pob un o bedair gwlad y DU wedi cytuno ar ddull cyffredin o weithredu.

Rôl diwrnodau HMS yn y tymor hir

Er bod y cynnig hwn ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf er mwyn rhoi amser i gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm newydd a blaenoriaethau eraill ac ymgysylltu â'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, rydym yn ymwybodol bod diffyg tystiolaeth gynhwysfawr ynghylch sut mae dyddiau HMS yn cael eu defnyddio a pha mor effeithiol ydynt.

Fe wnaeth adolygiad gan Estyn yn 2013 edrych ar sampl ar raddfa fach o ddiwrnodau HMS mewn ysgolion a chanfod eu bod yn cael eu defnyddio'n dda ar y cyfan mewn ysgolion unigol ond y gallent fod yn fwy effeithiol pe baent yn fwy thematig a strategol. O ganlyniad i'r pandemig, nid oedd modd gwneud gwerthusiad llawn o ba mor effeithiol y bu'r dyddiau cynnydd yn y diwrnodau HMS o 2019. Hefyd, oherwydd y pandemig mae dyddiau HMS wedi cael eu defnyddio i raddau helaeth i fynd i'r afael â blaenoriaethau brys yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn aml roedd angen y dyddiau ychwanegol hyn i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferwyr i addysgu o bell neu mewn ffordd gyfunol. Er y bydd y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y pandemig yn parhau i gefnogi ymarferwyr i gyflawni ein blaenoriaethau cenedlaethol, mae angen o hyd i sicrhau bod ymarferwyr yn ymgyfarwyddo â’r newidiadau yn y system addysg. 

Yn ogystal, rydym yn ymwybodol bod dyddiau HMS yn aml yn cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant statudol, yn enwedig mewn ysgolion arbennig, ond nad oes goruchwyliaeth gyffredinol o ddiwrnodau HMS gan gynnwys pryd y cânt eu cymryd neu sut maent yn effeithio ar ymarferwyr a dysgwyr. 

Felly, rydym yn cydnabod bod angen mwy o dystiolaeth ar sut mae diwrnodau HMS yn cael eu defnyddio a pha mor effeithiol ydynt, a byddwn yn ystyried ar y cyd â’n partneriaid allweddol y ffordd orau o gynnal adolygiad. Cynigir y bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn 2024.

Yn y tymor hirach, erbyn 2025 byddwn yn gwerthuso sut mae diwrnodau HMS yn cael eu defnyddio, ac yn casglu tystiolaeth a chynnal dadansoddiad manwl o'u defnydd a fydd yn bwydo i waith y Corff Adolygu Athrawon Ysgol ac yn cysylltu â’r gwaith sy'n cael ei wneud ar newidiadau i'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Mae cyfleoedd felly i ystyried y defnydd o HMS yn y tymor hir, ac mae’r Corff Adolygu Athrawon Ysgol yn debygol o adolygu hyn o safbwynt cyflog ac amodau athrawon.

Byddwn hefyd yn ceisio deall sut mae diwrnodau HMS yn cael eu defnyddio gan rai o'r systemau sy'n perfformio orau a sut maent yn effeithio ar ddisgyblion.

Atal

Mae gan y cynnig nodau clir tymor hir sef hwyluso cyflwyno'r cwricwlwm, y diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg, sydd â buddion cysylltiedig i ddisgyblion a phob ymarferydd.

Mae'r cwricwlwm yn sail i addysg statudol ac fe'i datblygwyd i ennyn diddordeb pob plentyn a pherson ifanc i'w galluogi i gyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn â goblygiadau pwysig i’w bywyd fel oedolion. Mae pedwar diben y cwricwlwm yn cyfrannu at dorri sawl cylch negyddol drwy gefnogi plant a phobl ifanc i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; dinasyddion moesegol, gwybodus; ac unigolion hyderus iach pan fyddant yn gadael addysg statudol.

Ond, yn y tymor byr mae'n debygol y bydd effeithiau negyddol ar rieni/gofalwyr sy'n gweithio a fydd yn gorfod dod o hyd i ofal plant ychwanegol neu gymryd gwyliau blynyddol gan y bydd ysgolion ar gau am ddiwrnod ychwanegol bob blwyddyn.

Rydym hefyd wedi ystyried effaith colli dysgu ar blant a phobl ifanc, yn enwedig ers y pandemig, a allai fod wedi cael effaith negyddol ar ddatblygiad disgyblion mewn rhai achosion. 

Byddai’r diwrnod HMS ychwanegol yn benodol ar gyfer dysgu proffesiynol yn cefnogi nifer o'n meysydd blaenoriaeth ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu a hwyluso dysgu proffesiynol gydol gyrfa i athrawon yn unol â'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Integreiddio

Mae cysylltiad clos rhwng y cynnig a’r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio, yn benodol "parhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi", gan ei fod yn ceisio galluogi gweithredu’n llwyddiannus y cwricwlwm newydd, y diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg. Mae hefyd yn hwyluso’r diwygiadau addysg, gan roi amser i ymarferwyr ym mhob ysgol ymgorffori'r cwricwlwm yn ogystal â chefnogi'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Cydweithredu

Mae'r cwricwlwm wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â’r proffesiwn addysg ar draws yr haen ganol (sefydliadau fel Estyn, y consortia rhanbarthol a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol) a gydag ymarferwyr. Roedd partneriaid â diddordeb cyffredin yn cynnwys y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, undebau llafur addysgu, ysgolion a lleoliadau a’r ymarferwyr eu hunain. Mae'r partneriaid hyn ynghyd â'r undebau athrawon wedi galw am barhau â'r diwrnod HMS ychwanegol yn y tymor byr a byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod pob ymarferydd yn gallu cael mynediad at eu dysgu proffesiynol os yw’r sector yn hapus gyda'r cynigion fel y'u hamlinellir yn y ddogfen ymgynghori.

Yr ysgolion eu hunain sy’n debygol o ddarparu cynnwys y diwrnodau HMS neu bydd ysgolion yn cydweithio yn eu clystyrau i ddiwallu eu hanghenion gan ystyried anghenion lleol. Byddant yn cael eu cefnogi gan y consortia rhanbarthol, sydd wedi datblygu rhaglenni a deunyddiau dysgu proffesiynol i gefnogi pob ymarferydd. Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi datblygu adnoddau i gefnogi ysgolion i wneud y mwyaf o ddiwrnodau HMS a dysgu proffesiynol a nodir yn yr 8 dilysnod a ddatblygwyd ganddynt.

Rydyn ni'n gwybod bod rhai ysgolion mewn sefyllfa well ar gyfer y newidiadau yn y system addysg ond mae angen i ni sicrhau bod pob ysgol mewn sefyllfa dda i weithredu'r cwricwlwm. Bydd angen i ni ddeall y gwahanol lefelau o wybodaeth a dealltwriaeth er mwyn cefnogi pob ysgol yn llwyddiannus, a bydd hyn yn golygu y bydd angen i ni weithio gyda chydweithwyr wrth ddiwygio'r cwricwlwm a phartneriaid allanol wrth baratoi ar gyfer y diwrnodau HMS gan nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth er mwyn cefnogi pob ymarferydd.

Cymryd rhan

Y bobl y mae’r cynnig yn effeithio fwyaf arnynt yw ymarferwyr mewn gwahanol leoliadau, rhieni/gofalwyr a’r plant a phobl ifanc eu hunain. O ran rhieni/gofalwyr, bydd gofyn iddynt drefnu gofal i'w plant pan na fyddant yn yr ysgol, a gallai hyn olygu anawsterau logistaidd gyda’r gofal plant. O ran y dysgwyr, byddant yn colli diwrnod o addysg.

Arweinwyr, cyrff cynrychioliadol ac athrawon eu hunain sydd wedi awgrymu’r cynnig, a bydd angen eu help i’w gyflawni. Ni chafodd rhieni/gofalwyr a dysgwyr eu targedu'n benodol er efallai iddynt ddewis ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus llawn a gynhaliwyd rhwng 20 Medi 2022 a 28 Hydref 2022. Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Twitter a Facebook. Rhannwyd yr ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid hefyd, gan gynnwys y Comisiynydd Plant a swyddogion cefnogi llywodraethwyr.

Ymgynghorwyd yn anffurfiol â'r rhanbarthau a'r awdurdodau lleol cyn pennu'r cyfnod ar gyfer y diwrnod HMS, gan gytuno y dylid ei gynnal yn nhymor yr haf. Drwy wneud hyn bydd modd i ni geisio sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl (er enghraifft drwy ychwanegu'r diwrnod HMS at ddechrau neu ddiwedd gwyliau ysgol).

Effaith

Y prif reswm dros ddiwrnod HMS ychwanegol yw'r cyfle y byddai’n ei roi i ysgolion ganolbwyntio ar y diwygiadau addysg a beth maent yn ei olygu iddyn nhw ac i bob ysgol ymgorffori dysgu proffesiynol a sicrhau eu bod yn datblygu’n ymarferwyr gwybodus.

Y bwlch mwyaf yn ein gwybodaeth yw'r hyn y defnyddir diwrnodau HMS ar ei gyfer ar hyn o bryd, ac a ellid defnyddio un neu fwy o'r pum diwrnod presennol ar gyfer y cynnig hwn. Mae'n ymddangos bod ymchwil Estyn (y soniwyd amdano uchod) yn cytuno gyda thystiolaeth anecdotaidd bod eu defnydd yn amrywiol, gyda rhai ysgolion yn awgrymu eu bod yn amser hanfodol ar gyfer gweithio gyda'i gilydd fel ysgol neu glwstwr, ac eraill eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant gorfodol ond gyda llai o ffocws strategol. Fel yr amlinellir uchod, rydym yn cydnabod bod angen mwy o dystiolaeth o’r defnydd a wneir o ddiwrnodau HMS a pha mor effeithiol ydynt, a byddwn yn ystyried ar y cyd â’n partneriaid y ffordd orau o gynnal adolygiad. Cynigir y bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn 2024.

Roedd ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn cytuno y dylid darparu hyblygrwydd i ysgolion ar amseriad y diwrnod HMS ychwanegol. Fodd bynnag, bydd gofyn i ysgolion roi cymaint o rybudd â phosibl o ddiwrnodau HMS arfaethedig i rieni/gofalwyr fel bod modd iddynt wneud unrhyw drefniadau gofal plant angenrheidiol, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n bosibl, er hynny, mai rhybudd cyfyngedig fydd i rieni/gofalwyr ar gyfer 2022 i 2023 oherwydd amseriad y newidiadau. Byddwn yn trafod gydag awdurdodau lleol a rhanbarthau i osgoi cyfnodau fel y profion cenedlaethol a chydnabod natur gylchol y flwyddyn ysgol.

Byddai hyn hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol hysbysu darparwyr bysiau nad oes angen darparu trafnidiaeth.

Costau ac arbedion

O ran y gost o gynnal diwrnod HMS ychwanegol, dylai hyn fod yn gost niwtral i ysgolion.

Nid ydym yn rhagweld arbedion i ysgolion gan y byddant yn dal i fod yn talu athrawon, ac rydym yn disgwyl iddynt barhau i dalu am eu staff cynorthwyol ar y diwrnod hwn er mwyn iddyn nhw fod yn rhan o'r dysgu. Gall fod arbedion ymylol o ran cludiant ysgol.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd goblygiadau o ran costau i'r system ehangach y dylid eu hystyried. Mae costau uwch posibl i rai teuluoedd, yn enwedig i'r rhai y gallai fod angen gofal plant ychwanegol arnynt neu y gall fod angen iddynt gymryd gwyliau blynyddol ychwanegol, fel sy’n digwydd gyda’r diwrnodau HMS presennol. Mae'n ddigon posibl y bydd ysgolion sydd â darpariaeth gofal plant cofleidiol yn dewis gweithredu mewn ffordd debyg i'r diwrnodau HMS presennol a chyfnodau gwyliau, gan gynnig darpariaeth i rieni/gofalwyr ar gyfer y dyddiau hynny.

Adran 8: casgliad

8.1 Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

Y bobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt yw ymarferwyr, plant a rhieni/gofalwyr. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn rhwng 22 Medi a 28 Hydref 2022, a rhoddwyd cyhoeddusrwydd i hyn ar y cyfryngau cymdeithasol, drwy Dysg ac yn ystod lansiad yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Bydd y newidiadau yn effeithio ar sawl grŵp:

Ymarferwyr

Mae datblygu proffesiwn addysg effeithiol drwy ddarparu dysgu proffesiynol o safon uchel gydol gyrfa yn ganolog i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Bydd gweithredu'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol yn nodi dechrau cyfnod newydd ar ein taith dysgu proffesiynol yn unol â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Proses newid er mwyn gwella a datblygu gwybodaeth, sgiliau neu ddealltwriaeth broffesiynol yw dysgu proffesiynol.

Rhieni/gofalwyr

Gallai diwrnod HMS ychwanegol arwain at broblemau gofal plant i rai rhieni neu ofalwyr. Rydym yn rhagweld y bydd ysgolion yn rhoi gwybod i rieni neu ofalwyr am ddyddiad y diwrnod ychwanegol cyn gynted â phosibl er mwyn eu galluogi i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer gofal plant.

Rhoddwyd ffocws ar bwysigrwydd presenoldeb ysgol ac y gellid ystyried bod ychwanegu diwrnod HMS pellach yn gwrthdaro â'r pwysau i sicrhau dysgu wyneb yn wyneb, a gallai colli diwrnod pellach o ddysgu effeithio ar ddysgwyr. Fodd bynnag, credwn y bydd y diwrnod ychwanegol hwn yn hanfodol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn y tymor hwy.

Does dim ymgynghoriad wedi bod ynghylch y penderfyniad i ganiatáu i ysgolion gymryd y gwyliau banc ychwanegol yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023. Darparwyd gwyliau'r banc gan Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU ar gyfer Angladd EM y Frenhines Elizabeth II, ac ar gyfer Coroni EF y Brenin Charles III, ar gyfer pedair gwlad y DU.

Mae hawl gan staff yr Ysgol i gymryd y gwyliau banc ychwanegol fel rhan o'u telerau ac amodau sydd wedi'u nodi yn Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022. Yn syml, mae'r newid i'r Rheoliadau yn rhoi effaith gyfreithiol i ysgolion ddarparu pedair sesiwn (hanner diwrnod) yn llai yn ystod y flwyddyn ysgol hon.

8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, sy'n gadarnhaol ac yn negyddol?

Dyma’r asesiadau penodol a gafodd eu cynnal a'r prif ganfyddiadau:

Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb

credwn y bydd y brif effaith ar blant a theuluoedd incwm is a fydd â llai o wyliau blynyddol neu'n llai tebygol o allu trefnu gofal plant ychwanegol. Yn 2019 roedd ein penderfyniad i gyfyngu'r diwrnodau HMS ychwanegol i un y flwyddyn yn rhannol o ganlyniad i asesiad effaith tebyg, a wnaeth ein galluogi i liniaru rhywfaint ar yr effaith trwy sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael digon o rybudd ac fe gafodd y diwrnod ychwanegol ei gymryd yn ystod tymor yr haf i leihau costau.

Er y bydd yr effaith ar blant fel grŵp yn gyfyngedig, bydd manteision yn y tymor hir gan y bydd y diwrnod HMS ychwanegol yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm yn llwyddiannus a’r diwygiadau ADY ac ystyried tegwch mewn addysg.

Mae'r effaith ar deuluoedd incwm is gyda'r ddau riant/gofalwyr yn gweithio yn anoddach i'w liniaru, yn enwedig ar adeg o argyfwng costau byw. Fodd bynnag, dylai ei amseru yn ystod tymor yr haf a rhoi gwybod iddynt am y diwrnod ychwanegol helpu i liniaru rhywfaint o'r effaith. Teuluoedd incwm isel fydd y grŵp sy'n cael ei effeithio fwyaf negyddol gan wyliau'r banc gan y gallai dod o hyd i ofal plant a/neu gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ddarparu gofal plant am ddau ddiwrnod ychwanegol effeithio arnyn nhw'n ariannol. Ar y llaw arall, gall rhai teuluoedd elwa o safbwynt lles o gael amser ychwanegol i dreulio gyda'i gilydd.

Y Gymraeg

rydym wedi cynnal asesiad o’r effaith ar y Gymraeg ac mae wedi’i ddiweddaru i ystyried yr ymatebion i'r ddau gwestiwn gorfodol ar yr iaith Gymraeg yn yr ymgynghoriad.

Gallai rhai ysgolion ddefnyddio'r dyddiau ychwanegol i ddarparu dysgu proffesiynol ar ddatblygu Cymraeg yn eu hysgolion fel rhan o'r Cwricwlwm neu ddatblygu arbenigedd mewn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'r Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg. Adlewyrchwyd yr awgrym hwn yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Yn y tymor byr bydd plant a phobl ifanc yn colli diwrnod ychwanegol o ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd. Fodd bynnag, yn y tymor hir bydd hyn yn helpu ymarferwyr i gyflwyno'r cwricwlwm newydd a diwygiadau eraill yn hyderus, gan arwain at welliannau i’r addysgu a’r dysgu mewn ysgolion.

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i'n hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae gan y diwrnod HMS ychwanegol nodau tymor hir clir sy'n cyd-fynd â'r amcanion lles a'r nodau llesiant. Mae'n ceisio hwyluso cyflwyno'r cwricwlwm newydd, y diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg gyda manteision cysylltiedig i blant a phobl ifanc yn ogystal ag ymarferwyr.

Mae'r cwricwlwm yn sail i addysg statudol ac fe'i datblygwyd i alluogi ysgolion i gyflwyno cwricwlwm lleol sy'n ennyn diddordeb plant a phobl ifanc er mwyn eu galluogi i wireddu'r pedwar diben. Mae hyn â goblygiadau pwysig i'w bywyd fel oedolion. Mae pedwar diben y cwricwlwm yn cyfrannu at dorri sawl cylch negyddol drwy gefnogi plant a phobl ifanc i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; dinasyddion moesegol, gwybodus; ac unigolion hyderus iach pan fyddant yn gadael addysg statudol. Mae'n hanfodol bod ymarferwyr yn cael eu cefnogi'n ddigonol i gyflawni'r newidiadau mewn addysgu a dysgu sy'n ofynnol gan y cwricwlwm newydd.

Rydym wedi nodi rhai effeithiau ariannol ar deuluoedd incwm isel, ar rieni/gofalwyr sy'n gweithio yn arbennig ac, yn y tymor byr, ar blant a phobl ifanc a fydd yn colli diwrnod ychwanegol o ysgol ym mhob blwyddyn academaidd.

Wrth ddatblygu ein dull polisi, byddwn ni'n ceisio lliniaru'r rhain, fel yr amlinellir isod, gan hefyd gydnabod canlyniadau'r ymgynghoriad a'r angen i ymarferwyr gael digon o amser i ddatblygu eu sgiliau a chymryd rhan mewn dysgu proffesiynol:

  • cyfyngu nifer y dyddiau ychwanegol i un y flwyddyn
  • awgrymu, fel isafswm, bod un o'r pum diwrnod HMS presennol hefyd yn cael ei ddefnyddio at yr un pwrpas â'r diwrnod ychwanegol, er mwyn sicrhau bod gan ymarferwyr yr amser i ymgysylltu â dysgu proffesiynol
  • cynghori ysgolion ymlaen llaw fel y gallant roi cymaint o rybudd â phosibl i rieni/gofalwyr, er y gallai hyn fod yn gyfyngedig yn 2022 i 2023. Roedd yr angen i ddarparu digon o rybudd wedi’i nodi gan yr rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad
  • peidio â mandadu dyddiad penodol. Cytunodd y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad y dylai ysgolion gael yr hyblygrwydd i benderfynu ar amseriad y diwrnodau HMS ychwanegol
  • ymgysylltu â darparwyr hamdden i gynnig gweithgareddau i ddysgwyr ar ddiwrnodau HMS. Awgrymwyd y dull gweithredu hwn gyda rhai o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Rydym yn bwriadu monitro’r effaith drwy gynnal adolygiad yn 2024 o sut mae diwrnodau HMS yn cael eu defnyddio a pha mor effeithiol ydynt.

Bydd sicrhau effeithiolrwydd y diwrnodau HMS yn golygu nad yw eu gwerth, ac felly'r gost i rieni/gofalwyr, yn cael ei wastraffu.

Mae'r gwelliant i ganiatáu ar gyfer y gwyliau banc ychwanegol yn newid untro i'r Rheoliadau a fydd ond yn ddilys ar gyfer blwyddyn ysgol 2022 i 2023.