Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gyflwyno diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) i’r proffesiwn addysg er mwyn rhoi amser iddynt ymwneud â dysgu proffesiynol sy’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru a blaenoriaethau eraill.

Cyflwyniad

Mae gan y systemau addysg sy’n perfformio orau yn fyd-eang athrawon a staff cynorthwyol egnïol, sy’n ennyn diddordeb ac yn ymrwymedig i ddysgu parhaus. Mae’r ymrwymiad hwn i ddysgu proffesiynol, sy’n parhau gydol gyrfa, yn allweddol i ansawdd ac effaith y dysgu a’r addysgu yn y wlad. Yng Nghymru, rydym wedi datblygu dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa i’n gweithlu mewn ysgolion, gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu, staff cyflenwi ac arweinwyr. Rydym eisiau cefnogi ymarferwyr yng Nghymru i fod yn ddysgwyr gydol oes sy’n adlewyrchu ac yn gwella eu harferion eu hunain er mwyn ysbrydoli ac ysgogi plant a phobl ifanc yn eu hysgolion.

Mae’r system addysg yng Nghymru wedi wynebu heriau sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y cyfnod ansefydlog a fu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Yn ychwanegol, mae diwygiadau sylweddol wedi’u cyflwyno mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ynghyd â Chwricwlwm newydd i Gymru. Mae angen atgyfnerthu’r broses o gyflwyno’r diwygiadau hyn ar draws y system drwy wneud gwaith paratoi a chodi ymwybyddiaeth o oblygiadau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, y diwygiadau a sicrhau tegwch mewn addysg. Rydym yn cydnabod bod angen rhoi amser i’r holl ymarferwyr allu gwneud hyn. 

Cyflwynwyd diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) am y tro cyntaf yn yr 1980au, ac maent yn gyfres o 5 diwrnod pan nad yw’r dysgwyr yn yr ysgol ond mae’n ofynnol i staff fynd yno i gael hyfforddiant. Mae’r hawl i 5 diwrnod heb addysgu/HMS (i athrawon a gyflogir yn llawnamser) yn rhan o’r 'Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (STPC(W)D)', sy’n nodi cyfanswm nifer y diwrnodau y mae’n rhaid i athrawon fod ar gael i weithio mewn blwyddyn ysgol, gan gynnwys nifer y diwrnodau hynny y mae’n rhaid iddynt fod yn ddiwrnodau addysgu ac yn ddiwrnodau HMS. Cafodd y pwerau dros yr STPC(W)D eu datganoli i Gymru yn 2018, ac mae proses annibynnol flynyddol wedi’i sefydlu er mwyn ystyried cyflog ac amodau athrawon a phenaethiaid drwy Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.

Nid yw’r telerau ac amodau ar gyfer cynorthwywyr addysgu yr un rhai â’r rheini ar gyfer athrawon a phenaethiaid ac nid ydynt yn fater sy’n cael ei gynnwys yng ngwaith yr STPC(W)D. Maent yn cael eu pennu gan Awdurdodau Lleol unigol. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn bendant y dylai cynorthwywyr addysgu gael cyfleoedd i ymgymryd â dysgu proffesiynol. Rydym wedi cydweithio â chonsortia addysg er mwyn sicrhau bod dysgu proffesiynol ar gael i gynorthwywyr addysgu ac mae ein canllawiau yn dweud yn glir y dylai ysgolion ddefnyddio’r grant dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad yr holl ymarferwyr, yn unol â’r ddarpariaeth o ansawdd sydd ar gael i athrawon cymwysedig.

Bydd canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol yng nghyd-destun ein blaenoriaethau, sef gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru, y diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg yn hanfodol os ydym am sicrhau llwyddiant cenhadaeth ein cenedl i ddarparu system addysg drawsnewidiol a llwyddiannus yng Nghymru. Ein bwriad yw y bydd cefnogi ymarferwyr i gyflwyno ein prif flaenoriaethau yn arwain at well deilliannau i ddysgwyr ar draws y sector ysgolion. Mae hyn yn adlewyrchu sylwadau a wnaed mewn adroddiad diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar Ddysgu Proffesiynol ar gyfer Athrawon[1] sy’n nodi:

There sometimes appears to be a tendency to see supporting teachers to prepare the new Curriculum for Wales as an end in itself, rather than to see effective realisation of the curriculum as a means to enhancing pupil outcomes.

Mae’r pum diwrnod HMS traddodiadol bob blwyddyn academaidd wedi cael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch datblygu ysgol a dysgu proffesiynol amrywiol. Yn 2019, cyflwynwyd diwrnodau HMS ychwanegol i gefnogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Rydym yn cydnabod bod pandemig COVID-19 wedi effeithio'n fawr ar y dyddiau ychwanegol hyn ac roedd angen i ni ganolbwyntio'n aml ar ddatblygu sgiliau ymarferwyr i ddysgu o bell neu mewn ffordd gyfunol. Bydd y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y pandemig yn parhau i gefnogi ymarferwyr i gyflawni ein blaenoriaethau cenedlaethol, yn enwedig yng nghyd-destun ein diwygiadau arfaethedig i’r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, datblygiad ein Strategaeth Dysgu Cyfunol Genedlaethol a'n ffocws ar gynyddu nifer yr ysgolion bro.

Rydym yn bwriadu parhau i gynnig y diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer y 3 blynedd academaidd nesaf i sicrhau bod gan ymarferwyr yr amser i flaenoriaethu ac ymgysylltu'n llawn â'u dysgu proffesiynol. Cynigir y dylai'r diwrnod HMS ychwanegol fod ar gael i'r holl ymarferwyr sy'n ymwneud â chefnogi dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw llywio ein cynigion ar gyfer diwygio nifer y diwrnodau HMS rhwng 2022 a 2025 i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau - yn bennaf mewn perthynas â'r cwricwlwm, y diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg. Bydd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o oddeutu 6 wythnos ac yn dod i ben wrth i ysgolion dorri ar gyfer hanner tymor yr hydref. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall unrhyw newidiadau i reoliadau ddod i rym yn gynnar yn 2023, gan ganiatáu i awdurdodau lleol, ysgolion a rhieni/gofalwyr wneud y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer y diwrnod HMS ychwanegol cyntaf a fyddai'n digwydd ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023.

[1]Teachers’ professional learning study: Diagnostic report for Wales | OECD Education Policy Perspectives | OECD iLibrary (oecd-ilibrary.org)

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Mae gan bob athro a phennaeth hawl i 5 diwrnod INSET y flwyddyn fel y nodir yn y STPC(W)D. Yn 2019 fe wnaethom gyflwyno diwrnod dysgu proffesiynol cenedlaethol ychwanegol HMS i gefnogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Roedd y diwrnod HMS ychwanegol hwn ar gael yn ystod blynyddoedd academaidd 2019 i 2020, 2020 i 2021 a 2021 i 2022.

O ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, nid oedd llawer o ymarferwyr wedi gallu defnyddio'r diwrnod HMS ychwanegol at y dibenion y gafodd eu nodi'n wreiddiol. Yn hytrach, roedd yn rhaid i arweinwyr ysgolion ac athrawon ddatblygu ffyrdd newydd o ymgysylltu â dysgwyr a sicrhau y gallai dysgwyr barhau i ddysgu yn ystod y pandemig. Er i ymarferwyr ddatblygu ffyrdd newydd o gefnogi dysgu trwy ddull dysgu cyfunol a datblygu sgiliau a phrofiadau newydd, nid oeddent wedi gallu elwa'n llawn ar y diwrnod HMS i gefnogi gweithredu newidiadau addysgol yng Nghymru fel y'i bwriadwyd yn wreiddiol. Cydnabyddir hefyd y dylid darparu cyfleoedd i ymgysylltu â dysgu proffesiynol y tu hwnt i ddyddiad cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru er mwyn sicrhau y gellir ei wireddu'n effeithiol.

Pam cynnig newid?

Er mwyn gwireddu ein blaenoriaethau o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n cael ei arwain gan ddibenion, y diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg, mae'n hanfodol bod ymarferwyr yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol a fydd yn gwella ac yn datblygu eu sgiliau. Mae datblygu proffesiwn addysg effeithiol drwy ddarparu dysgu proffesiynol o safon uchel yn ganolog i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Bydd gweithredu'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol yn nodi dechrau cyfnod newydd ar ein taith dysgu proffesiynol yn unol â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Er mwyn cefnogi ymarferwyr i ymgysylltu â dysgu proffesiynol yn benodol i gefnogi ein blaenoriaethau, rydym yn bwriadu parhau i gynnig un diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn am y tair blynedd academaidd nesaf. Mae angen amser ar y proffesiwn i ystyried ac ymgysylltu â dysgu proffesiynol sy'n eu cefnogi i weithredu'r newidiadau hyn i'r system addysg yng Nghymru. Rydym yn credu bod ffocws ar ddysgu proffesiynol yn hollbwysig i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y proffesiwn ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn gallu datblygu eu sgiliau a chefnogi dysgwyr drwy'r newidiadau.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Diwrnod HMS ychwanegol

Rydym yn bwriadu rhoi amser ychwanegol i ymarferwyr ar ffurf un diwrnod HMS ar gyfer ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol  ym mhob blwyddyn academaidd am y 3 blynedd nesaf, at ddiben cefnogi ymarferwyr i weithredu’r blaenoriaethau sef cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a’r  diwygiadau ADY a sicrhau tegwch yn ein system addysg.  Bydd hyn yn ychwanegu at yr amser HMS presennol o bum diwrnod a ddyrannwyd i ysgolion fesul blwyddyn academaidd, yn yr un modd ag ar gyfer y 3 blynedd academaidd ddiwethaf (2019 i 2020, 2020 i 2021 a 2021 i 2022).

I wneud hyn bydd angen i ni ddiwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003.

Byddai'r newid hwn yn gofyn i ysgolion a gynhelir ddefnyddio un diwrnod (h.y. dwy sesiwn ysgol) yn benodol ar gyfer dysgu proffesiynol sy'n ymroddedig i'r blaenoriaethau hyn. Byddai'n golygu bod ysgolion yn parhau i gynnal chwe diwrnod HMS y flwyddyn am y 3 blynedd academaidd nesaf, gyda'r ysgol ar gau i ddysgwyr ar y diwrnod HMS ychwanegol.

Rydym yn cydnabod y gallai'r diwrnod HMS ychwanegol hwn achosi anawsterau i rai rhieni neu ofalwyr, ac y gallai fod pryder ynghylch effaith dysgwyr yn colli diwrnod ychwanegol o ddysgu. Fodd bynnag, rydym o'r farn bod hyn yn hanfodol i alluogi pob ymarferydd i barhau i ddatblygu eu sgiliau er mwyn cefnogi'r newidiadau i'r system addysg yng Nghymru, ac i wneud gwahaniaeth i’r addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn y tymor hwy.  

Amseriad y diwrnod HMS

Os oes cefnogaeth ar gyfer y diwrnod HMS ychwanegol, byddai'r diwrnod HMS ychwanegol cyntaf yn nhymor yr haf ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023. Byddai hyn yn caniatáu myfyrio ar ddau dymor cyntaf y flwyddyn academaidd ac yn rhoi amser i ganolbwyntio ar y paratoadau i lywio'r gwaith o ddatblygu darpariaeth dysgu proffesiynol a fydd yn bodloni anghenion ymarferwyr yn y meysydd blaenoriaeth, sef gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru, y diwygiadau ADY a sicrhau tegwch mewn addysg, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Rydym yn cydnabod y gallai fod angen rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch amseriad y diwrnodau HMS ychwanegol yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Rydym felly yn gofyn am eich barn, fel rhan o'r ymgynghoriad, ar amseriad dyddiadau'r dyfodol ar gyfer y diwrnod ychwanegol HMS a gynigir. Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, byddwn yn ymgynghori'n anffurfiol â'r consortia addysg a'r awdurdodau lleol ynghylch dyddiadau yn y dyfodol ar gyfer diwrnodau HMS, ac yn cyhoeddi canllawiau ar adegau amserol.

Beth y dylid canolbwyntio arno yn y diwrnod HMS ychwanegol

Rydym yn cynnig y dylai'r dysgu proffesiynol a gyflwynir yn ystod y diwrnod HMS ganolbwyntio'n llwyr ar ein tri blaenoriaeth o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, y diwygiadau ADY a sicrhau tegwch ym maes addysg. Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig â’r blaenoriaethau eraill sydd gan ysgolion na dysgu proffesiynol gorfodol (fel hyfforddiant Iechyd a Diogelwch).

Caiff cynnwys y dysgu proffesiynol yn y meysydd blaenoriaeth hyn ei benderfynu’n lleol, a bydd yn galluogi ysgolion i ddefnyddio'r amser i ddarparu'r dysgu proffesiynol sydd ei angen i ddiwallu anghenion eu staff gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gynllunio cwricwlwm, datblygu'r Gymraeg, dysgu hanes Cymru ac elfennau penodol eraill o'n gwaith diwygio megis cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed.

Beth yw’r canlyniadau disgwyliedig?

Proses newid er mwyn gwella a datblygu gwybodaeth, sgiliau neu ddealltwriaeth broffesiynol yw dysgu proffesiynol.

Bydd diwrnodau HMS ychwanegol dros y tair blynedd academaidd nesaf yn sicrhau bod gan ymarferwyr yng Nghymru fwy o amser i ymgysylltu â dysgu proffesiynol a fydd yn eu cefnogi i ddatblygu eu harferion a'u gwybodaeth, a chyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, y diwygiadau ADY a sicrhau tegwch yn ein system addysg. Bydd hyn yn arwain at ddeilliannau gwell i blant a phobl ifanc yn y tymor hwy, gan y bydd eu hymarferwyr yn cael eu cefnogi'n well trwy ddysgu proffesiynol cyson o safon uchel. 

Consultation questions

Cwestiwn 1

Ydych  chi’n cytuno y dylai fod diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol yn ystod blynyddoedd academaidd 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025, er mwyn caniatáu i’r proffesiwn addysg gael rhagor o amser i ymwneud â dysgu proffesiynol wrth i newidiadau i’r system addysg (gan gynnwys mewn perthynas â’r Cwricwlwm i Gymru a’r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol (ADY)) gael eu rhoi ar waith?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 2

Ydych  chi’n cytuno y dylem ddarparu hyblygrwydd i ysgolion o ran amseriad y diwrnod HMS ychwanegol yn ystod blynyddoedd academaidd 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025? Os ydych yn anghytuno, rhowch fanylion yn y blwch sylwadau ategol.

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn orfodol i unrhyw ddiwrnod HMS ychwanegol gael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu dysgu proffesiynol i gefnogi ein blaenoriaethau allweddol sef gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru a’r diwygiadau ADY, a sicrhau tegwch yn ein system addysg? Os ydych yn anghytuno, rhowch fanylion yn y blwch sylwadau ategol.

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 4

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer dysgu proffesiynol cenedlaethol yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, ac yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 5

Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gallai'r polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 6

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, defnyddiwch y blwch isod i’w nodi.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
K9 5AF

Ffon: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Gwybodaeth bellach a dogfennau perthnasol

Gellir gwneud cais i gael fersiynau print bras, Braille ac ieithoedd amgen o’r ddogfen hon.

Blog cwricwlwm i Gymru

Y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol

Gellir canfod y dogfennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.