Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Mawrth 2013.

Cyfnod ymgynghori:
10 Rhagfyr 2012 i 15 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 238 KB

PDF
238 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymatebion llawn (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 10 MB

PDF
10 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu'n cynigion i gyflwyno proses ar gyfer cymeradwyo newidiadau i ganiatâd cynllunio cyfredol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Ystyr diwygiadau ansylweddol yw mân newidiadau i ganiatâd cynllunio cyfredol heb unrhyw effaith ar gyd-destun cyffredinol y cynllun datblygu na’i amgylchiadau.

Nid oes proses ffurfiol ar gyfer cymeradwyo’r newidiadau hyn. Felly mae awdurdodau cynllunio lleol yn delio â nhw mewn ffyrdd gwahanol ledled y wlad.

Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu’n cynigion i gyflwyno proses ymgeisio i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatadau cynllunio cyfredol. Bydd y cynigion:

  • Yn cynnig sylfaen gyfreithiol ar gyfer gwneud y newidiadau hyn gan roi mwy o sicrwydd i awdurdodau cynllunio lleol ac ymgeiswyr ynghylch a allant eu gwneud;
  • Yn cynnig system gynllunio fwy ymatebol sy’n fwy hyblyg i ymgeiswyr wneud newidiadau wrth i’r broses gynllunio a datblygu fynd yn ei blaen;
  • Yn cynnig mwy o sicrwydd a thryloywder am y broses a’r weithdrefn ar gyfer gwneud newidiadau ansylweddol i ganiatadau;
  • Yn rhoi ffordd fwy cyson i awdurdodau cynllunio lleol benderfynu ar y diwygiadau hyn.

Mae canllaw drafft ar gael yn Atodiad 1. Mae hyn yn amlinellu nodweddion allweddol y weithdrefn ac yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol ar ei defnyddio.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddio rhannol drafft ar gael yn Atodiad 2. Mae’n asesu effeithiau tebygol y cynigion.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 117 KB

PDF
117 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.