Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 12 Ionawr 2018.

Cyfnod ymgynghori:
20 Hydref 2017 i 12 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 352 KB

PDF
352 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn am y diwygiadau i reoliadau 2003 a fyddai’n newid arferion cyllid cyfalaf a chyfrifyddu awdurdodau lleol yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau am ddefnyddio derbynebau cyfalaf a beth i’w ystyried fel gwariant cyfalaf. Maent hefyd yn addasu sut y caiff rhai safonau cyfrifyddu ariannol eu cymhwyso fel nad ydynt yn cael effaith andwyol ar adnoddau refeniw awdurdodau.

Rydym yn ymgynghori ar y diwygiadau arfaethedig. Byddai’r rhain yn gwneud y canlynol:

  • Llacio’r cyfyngiadau presennol a rhoi awdurdodau lleol Cymru yn yr un safle ag awdurdodau Lloegr o ran trafodiadau benthyciadau cyfalaf, trafodiadau cyfranddaliad penodol cyfalaf a bondiau
  • Cyflwyno rheoliad newydd er mwyn sicrhau bod diogeleiddio yn gyfartal â benthyca a ffurfiau eraill o gredyd
  • Estyn gallu awdurdodau lleol i beidio â chodi am ôl-daliadau ar gyfer hawliadau tâl cyfartal o’u refeniw nes mae’r taliadau’n ddyledus hyd at fis Ebrill 2020

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn am yr effaith a gaiff y bwriad i gymhwyso Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol 16 ar awdurdodau lleol yng Nghymru o fis Ionawr 2019 ymlaen.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 284 KB

PDF
284 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Nodyn esboniadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 202 KB

PDF
202 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.