Neidio i'r prif gynnwy

Mae diwygiadau wedi’u datgelu sy'n anelu at sicrhau mai Cymru fydd y wlad gyflymaf yn y DU am benderfynu ar geisiadau cynllunio, creu swyddi newydd a sbarduno twf economaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yng Nghynhadledd Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) Cymru yng Nghaerdydd heddiw, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, sut mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant i symleiddio'r broses gynllunio, mynd i'r afael â heriau o ran adnoddau, ac adeiladu system gynllunio fodern, effeithlon sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae system gynllunio effeithlon yn hanfodol i greu'r cartrefi, y swyddi a'r seilwaith sydd eu hangen ar Gymru, gan wella ein hamgylchedd a chryfhau ein cymunedau ar yr un pryd.

"Rwy'n benderfynol o sicrhau mai Cymru fydd y wlad gyflymaf yn y DU i benderfynu ar geisiadau seilwaith. Mae'r uchelgais hon yn ymestyn i bob cais cynllunio, gan gydnabod y bydd hyn yn gyrru twf economaidd ym mhob rhan o’n gwlad."

Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys sawl mesur allweddol i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau a rhoi hwb i'r proffesiwn cynllunio:

  • Bron i £9m o fuddsoddiad uniongyrchol mewn gwasanaethau cynllunio wedi ei ddarparu gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru, gan gryfhau gallu'r gwasanaethau hanfodol hyn i gyflawni penderfyniadau cyflymach.
  • Mae rheoliadau ffioedd newydd i'w cyflwyno erbyn diwedd eleni, ac yn cynrychioli'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn gwasanaethau cynllunio ers blynyddoedd lawer. Bydd y refeniw cynyddol yn cael ei ail-fuddsoddi'n uniongyrchol yn ôl i wasanaethau cynllunio er mwyn gwella perfformiad a lleihau amseroedd aros.
  • Cyllid ar gyfer dwy rôl Uwch Gynllunydd i weithio ar geisiadau seilwaith ledled Gogledd Cymru fel rhan o Wasanaeth Cynllunio ar y Cyd estynedig i Ogledd Cymru, gan ddangos gwerth cydweithredu rhanbarthol er mwyn mynd i'r afael â heriau adnoddau.
  • Cynllun Bwrsarïau Cynllunio Trefol newydd drwy'r rhaglen Llwybrau i Gynllunio i gynyddu nifer y cynllunwyr cymwys ledled Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn talu'r costau i raddedigion gael cymhwyster cynllunio ôl-raddedig.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi comisiynu RTPI Cymru i gynnal ymchwil cynllunio gweithlu cynhwysfawr i ddatblygu darlun clir o anghenion capasiti, adnoddau a sgiliau ar draws y sector cynllunio cyhoeddus.

Bydd yr ymchwil hon yn llywio strategaeth hirdymor i gynyddu capasiti a gwydnwch gwasanaethau cynllunio ledled Cymru.

Mae trawsnewid digidol yn rhan allweddol arall o'r diwygiadau, gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn datblygu prosiectau i wella cyfathrebu rhwng adrannau cynllunio a'r cyhoedd, gwella profiadau defnyddwyr, a sefydlu safonau digidol ar gyfer rhannu gwybodaeth gynllunio.

Mae'r diwygiadau yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar, gan gynnwys:

  • dirprwyo penderfyniadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i arolygwyr ar gyfer prosiectau hyd at 50MW, sydd eisoes wedi arwain at gyhoeddi pum penderfyniad rhwng 9-14 wythnos cyn y dyddiad cau statudol o 36 wythnos
  • cydsyniad Brenhinol diweddar ar gyfer y Ddeddf Seilwaith (Cymru), sy'n sefydlu proses gydsynio symlach newydd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol
  • cyhoeddi testun bron yn derfynol y Bil Cynllunio (Cymru) cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Senedd ym mis Medi, a fydd yn cydgrynhoi ac yn moderneiddio deddfwriaeth gynllunio.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae'r diwygiadau hyn yn cynrychioli newid mawr yn y ffordd y mae cynllunio yn gweithio yng Nghymru.

"Drwy fuddsoddi yn ein gwasanaethau cynllunio, datblygu datrysiadau digidol, a thyfu'r proffesiwn cynllunio, rydym yn creu system gynllunio a fydd yn gyrru twf economaidd cynaliadwy, yn cyflawni'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru, ac yn creu swyddi da ledled y wlad."