Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun tystiolaeth ar gyfer gwerthuso'r 'diwygiadau Diamond', yn dilyn adolygiad annibynnol o gyllid myfyrwyr yng Nghymru dan arweiniad Syr Ian Diamond yn 2016.

Diweddariad ar gynnydd y gwerthusiad o Ddiwygiadau Diamond, Mehefin 2025

Mae ymchwil i gefnogi'r gwerthusiad o Ddiwygiadau Diamond i gyllid myfyrwyr Addysg Uwch ar y gweill. Mae'r ymchwil hon yn cynnwys gwaith maes gyda dysgwyr Blwyddyn 13, eu rhieni a/neu eu gwarcheidwaid, myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig a staff Darparwyr Addysg Uwch a rhanddeiliaid Addysg Uwch.

Nod yr ymchwil yw darparu tystiolaeth sy'n ymwneud â thri amcan cyntaf y diwygiadau.

Amcanion y diwygiadau sy'n sail i'r ymchwil hon 

  • Ehangu mynediad i addysg uwch.
  • Cryfhau'r ddarpariaeth ran-amser.
  • Cryfhau'r ddarpariaeth ôl-raddedig.

Mae'r prosiect ymchwil hwn yn canolbwyntio ar y pynciau hyn, ac mae ganddo hefyd ddiddordeb arbennig ym mhrofiadau dysgwyr sydd â’u domisil yng Nghymru, a'u dealltwriaeth o gyllid myfyrwyr a'u safbwyntiau am Addysg Uwch.

Amcanion ymchwil y prosiect hwn:

  • archwilio barn dysgwyr Addysg Bellach a dysgwyr chweched dosbarth sydd â'u domisil yng Nghymru am Addysg Uwch, a'u hymwybyddiaeth o'r pecyn cymorth ariannol
  • deall profiadau dysgwr o'r ddarpariaeth ran-amser
  • deall y rhwystrau i ddysgwyr sydd am astudio'n rhan-amser
  • archwilio effeithiau ariannol a gweithredol y ddarpariaeth ran-amser ar gyfer Darparwyr Addysg Uwch yng Nghymru
  • deall profiadau dysgwyr o'r ddarpariaeth ôl-raddedig
  • deall y rhwystrau i ddysgwyr ôl-raddedig sydd am astudio'n rhan-amser
  • archwilio effeithiau ariannol a gweithredol y ddarpariaeth ôl-raddedig ar gyfer Darparwyr Addysg Uwch yng Nghymru
  • deall pa mor dda y mae pecyn cymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion dysgwyr Addysg Uwch sydd â'u domisil yng Nghymru

Disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2026.

 

Mae'r cynllun gwerthuso hwn yn nodi'r dull arfaethedig o werthuso Diwygiadau Diamond i gyllid myfyrwyr yng Nghymru.

Mae'r cynllun yn darparu fframwaith ar gyfer sut y byddwn yn casglu ac yn cyfuno tystiolaeth i'n helpu i ddeall effaith y newidiadau a weithredwyd o ganlyniad i Adolygiad Diamond yn 2016.

Mae'r gweithgareddau ymchwil arfaethedig hon yn ceisio gwerthuso'r diwygiadau wrth ddiwallu anghenion tystiolaeth ar gyfer amcanion Llywodraeth Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae rhai agweddau ar y trefniadau cyllid myfyrwyr yng Nghymru wedi’u diwygio ers adeg ysgrifennu’r cynllun gwerthuso hwn. Cyhoeddwyd y newidiadau hyn ar 4 Rhagfyr 2024: Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch ym mlwyddyn academaidd 2025/26 a therfynau ffioedd dysgu

Adroddiadau

Diwygiadau Diamond i gyllid myfyrwyr: cynllun gwerthuso 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Emma Hall

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.