Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cyfarpar trydanol neu electronig gwastraff bach (sWEEE)?

Mae cyfarpar trydanol neu electronig gwastraff bach (y cyfeirir ato yma wedi hyn fel 'cyfarpar trydanol gwastraff bach') yn golygu unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl sydd wedi dod i ddiwedd ei oes sy'n mesur 50 centimetr neu lai ym mhob dimensiwn allanol. Mae hyn yn cynnwys holl gyfarpar trydanol a thechnoleg bach diangen eich sefydliad, gan gynnwys er enghraifft, gliniaduron, ffonau, tegelli, sychwyr gwallt, tostwyr, dyfeisiau meddygol, lampau a goleuadau ac offer pŵer.

Pam na ddylwn i roi fy ngwastraff trydanol bach yn fy mag sbwriel du? 

Gellir ailgylchu 75% o'r deunyddiau mewn hen gyfarpar trydanol. Os bydd hen gyfarpar trydanol yn mynd i safleoedd tirlenwi neu losgi, mae adnoddau gwerthfawr a chyfyngedig yn aml, fel aur, copr, alwminiwm a dur yn cael eu colli am byth. Mae defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o gyfarpar trydanol gwastraff i greu cynhyrchion newydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau ein dibyniaeth ar echdynnu deunyddiau crai a'r difrod amgylcheddol cysylltiedig a cholli bioamrywiaeth y gall hyn ei achosi. 

Yn ogystal, mae llawer o eitemau trydanol bach yn cynnwys batris ïon lithiwm. Pan fyddant yn cael eu rhoi yn y llif gwastraff gweddilliol (bag du), mae'r eitemau hyn yn aml yn cael eu cywasgu yn ystod y broses gasglu, a gwyddom fod hynny'n gallu achosi tanau gwastraff sy'n niweidiol i'r amgylchedd ac yn economaidd. 

Mae gennyf gyfarpar trydanol bach nad oes ei angen arnaf mwyach, beth ddylwn i ei wneud nesaf? 

Os oes gennych eitemau trydanol bach nad oes eu hangen arnoch mwyach neu nad ydynt bellach yn gweithio, dylech ystyried yn gyntaf a ellir eu trwsio a/neu eu hailddefnyddio, trwy eu gwerthu, neu eu rhoi i sefydliadau ailddefnyddio lleol neu eu trosglwyddo i staff. Os nad yw trwsio a/neu ailddefnyddio yn opsiwn ar gyfer eich eitemau trydanol bach, ac rydych chi’n penderfynu bod yn rhaid gwaredu’r eitem/eitemau bydd angen i chi sicrhau eu bod yn cael eu hailgylchu. 

Sut allaf i sicrhau bod fy nghyfarpar trydanol bach yn cael ei ailgylchu?

Os nad yw atgyweirio ac ailddefnyddio yn bosibl, dylid ailgylchu cyfarpar trydanol. Dylai gweithleoedd droi yn gyntaf at gynhyrchydd eu cyfarpar trydanol, sy'n aml â chyfrifoldeb i gymryd yr eitemau trydanol hyn yn ôl ar ddiwedd eu hoes. Os oes dau ddefnydd i'r eitem drydanol fach (h.y. eitem gyffredin y gellir ei defnyddio yn y cartref ac mewn lleoliad annomestig fel tegell, sychwr gwallt neu dostiwr), gallwch wirio a all fynd yn ôl i gynllun cymryd yn ôl siop leol. 
Os nad yw hyn yn bosibl, dylech wneud trefniadau gyda chasglwyr gwastraff proffesiynol, fel cwmnïau gwastraff masnachol neu awdurdodau lleol, neu wneud trefniadau uniongyrchol gydag ailgylchwyr trydanol arbenigol (Cyfleusterau Trin Awdurdodedig Cymeradwy), i sicrhau bod eich cyfarpar trydanol diangen yn cael ei ailgylchu'n briodol.

Pam ydych chi'n eithrio sWEEE peryglus o'r gofynion gwahanu ailgylchu yn y gweithle, pan fydd rhywfaint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff peryglus? 

Mae rhywfaint o wastraff trydanol bach yn cael ei ddosbarthu fel peryglus oherwydd presenoldeb sylweddau niweidiol fel plwm, mercwri, a Llygryddion Organig Parhaus (POPs), a geir yn gyffredin mewn cydrannau fel byrddau cylched, plastigau arafu tân a batris. Fodd bynnag, nid yw'r cyfan. Mae'r dosbarthiad peryglus yn dibynnu ar faint y sylweddau hyn ac efallai na fydd rhai eitemau trydanol bach yn cynnwys yr elfennau hyn. 

Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol bod gwastraff peryglus, ac felly gwastraff trydanol bach peryglus, yn cael ei drin ar wahân i wastraff arall. Bydd y gofyniad newydd arfaethedig o dan y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle i wahanu gwastraff trydanol bach nad yw'n beryglus nawr yn sicrhau bod yn rhaid i'r holl gyfarpar trydanol gwastraff bach o weithleoedd (peryglus ac nad yw'n beryglus) gael ei gadw ar wahân i wastraff arall i'w brosesu a pheidio â chael ei roi yn eich bag gweddilliol (du) yn ôl y gyfraith. 
Er gwaethaf bodolaeth y rheoliadau gwastraff peryglus, gwyddom fod cyfarpar trydanol gwastraff bach peryglus (ac nad yw'n beryglus) yn dal i gael ei waredu mewn ffrydiau gwastraff gweddilliol yng Nghymru bob blwyddyn, gan arwain at golli adnoddau gwerthfawr a pheri risg o dân. Bydd y ddau fframwaith rheoleiddio hyn nawr yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod yr holl gyfarpar trydanol gwastraff bach yn cael ei ddargyfeirio o ffrydiau gwastraff gweddilliol i gefnogi ailddefnyddio neu ailgylchu cyfarpar trydanol gwastraff bach yn ddiogel.

Byddwn yn cynnal ymgyrch wybodaeth ddigidol cyn i'r gofyniad newydd arfaethedig i wahanu cyfarpar trydanol bach o dan y Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle ddod i rym ar 6 Ebrill 2026 i helpu i sicrhau bod gweithleoedd yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau cyfreithiol i gadw'r holl gyfarpar trydanol gwastraff bach allan o'r gwastraff gweddilliol (bag du). 

Sut fyddaf yn gwybod a yw fy ngwastraff trydanol bach yn beryglus ai peidio?

Bydd rhai gweithleoedd yn gwybod a yw eu gwastraff trydanol bach yn beryglus, er enghraifft, oherwydd natur arbenigol eu busnes (e.e. cwmni peirianneg, gwneuthurwr cyfarpar trydanol bach) neu oherwydd taflenni data neu ganllawiau gwneuthurwr a ddarperir gyda'r cyfarpar trydanol bach. Os nad ydych chi'n siŵr, mae'r Cod Ymarfer yn darparu dolenni i ganllawiau a all eich helpu i benderfynu. Fodd bynnag, os ydych wedi asesu'ch gwastraff ac yn dal i fod yn ansicr a yw'n beryglus ai peidio, mae'r Cod yn esbonio y dylech ddefnyddio'r egwyddor ragofalus a'i ddosbarthu fel gwastraff peryglus a'i reoli yn unol â hynny. Os oes gennych amheuaeth, siaradwch â'ch casglwr gwastraff i gytuno ar sut mae angen casglu a rheoli eich eitemau.