Diwygiadau i ddeddfwriaeth: diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 a chywiriadau (WGC 004/2026)
Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at reoliadau sy'n gwneud diwygiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol i'w diweddaru yn unol â diwygio prosesau rheolaeth adeiladu a chywiro gwallau mewn deddfwriaeth ddiweddar.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y Cylchlythyr: WGC 004/2026
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2026
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Diwygiadau i ddeddfwriaeth - diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 a chywiriadau
Cyhoeddwyd gan: Simon Jones – Polisi Diogelwch Adeiladau/Rheoliadau Adeiladu
Wedi'i gyfeirio at:
Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Adrannau Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau'r Senedd
Crynodeb:
Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at reoliadau sy'n gwneud diwygiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol i'w diweddaru yn unol â diwygio prosesau rheolaeth adeiladu a chywiro gwallau mewn deddfwriaeth ddiweddar.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ
Llinell uniongyrchol: 0300 062 5223
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cyflwyniad
- Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu eich sylw at y newidiadau a gyflwynir gan:
- Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 a,
- Rheoliadau Deddf Adeiladu 1984 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1) a Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygio Rheoliadau Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2026
Cwmpas
- Mae’r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 ("y Rheoliadau Diwygiadau Canlyniadol")
- Mae'r Rheoliadau Diwygiadau Canlyniadol yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i newid gweithdrefnol a gyflwynwyd gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025.
- Yn benodol, disodli'r broses o adneuo cynlluniau gydag awdurdodau lleol gyda cheisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu, a gweithdrefnau rheolaeth adeiladu newydd sy'n berthnasol i waith adeiladu risg uwch yn unig.
- Nid bwriad y Rheoliadau hyn yw newid effaith bresennol unrhyw ddeddfwriaeth y maent yn ei diwygio, dim ond i'w diweddaru i fod yn unol â'r newidiadau a gyflwynwyd gan weithrediad parhaus Llywodraeth Cymru o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.
- Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r darnau o ddeddfwriaeth a ganlyn:
- Deddf Sir De Morgannwg 1976
- Deddf Priffyrdd 1980
- Deddf Cyngor Sir Clwyd 1985
- Deddf Gorllewin Morgannwg 1987
- Deddf Dyfed 1987
- Deddf Sir Morgannwg Ganol 1987
- Deddf Aer Glân 1993
- Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005
- Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol (Diwygio) 2015
- Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024
- Daw'r Rheoliadau Diwygiadau Canlyniadol i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
Rheoliadau Deddf Adeiladu 1984 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1) a Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygio Rheoliadau Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2026 ("y Rheoliadau Cywiro Cychwyn")
- Mae'r Rheoliadau Cywiro Cychwyn yn gwneud diwygiadau i gywiro gwall yng Ngorchymyn Deddf Adeiladu 1984 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2025.
- Mae testun Cymraeg yr offerynnau statudol hyn wedi'i gywiro i fewnosod y dyddiad dod i rym "1 Gorffennaf 2026".
- Dylid nodi bod y dyddiad dod i rym cywir sef 1 Gorffennaf 2026 wedi'i nodi yn nhestun Saesneg yr offerynnau statudol hyn pan gawsant eu gwneud.
- Daeth y Rheoliadau Cywiro Cychwyn i rym ar 31 Ionawr 2026.
Darpariaethau trosiannol
- Nid yw'r Rheoliadau Diwygiadau Canlyniadol yn gymwys i unrhyw hysbysiadau a roddwyd i awdurdodau lleol neu unrhyw gynlluniau a adneuwyd gydag awdurdodau lleol cyn 1 Gorffennaf 2026.
Rhagor o wybodaeth
- Anogir rhanddeiliaid i ymgyfarwyddo â'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno.
- Mae’r ddogfen i’w gweld yma: Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026
- Mae'r Memoranda Esboniadol ar gyfer y rheoliadau ar gael ar wefan y Senedd: Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026
- Mae gwybodaeth am y newidiadau a gyflwynwyd gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 i'w gweld yn y Cylchlythyrau canlynol: Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 a'r rheoliad cysylltiedig (WGC 001/2026) a Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 a rheoliadau cysylltiedig (WGC 002/2026)
Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech eu hanfon at:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Caerdydd
CF10 3NQ.
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
Yn gywir
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu
