Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr reoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    (WGC 008/2022)

Dyddiad cyhoeddi:    20/12/2022

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy M (mynediad at adeiladau a defnydd ohonynt) Rhifyn 2004 yn ymgorffori diwygiadau 2010 (WGC 008/2022)

Cyhoeddwyd gan:    Neil Hemington, Prif Gynllunydd, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Anfonwch ymlaen at:   Swyddogion Rheoli Adeiladu’r Awdurdodau Lleol, Aelodau’r Senedd

Cyfeiriwyd at:

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

CICAIR Limited

Cyngor y Diwydiant Adeiladu

Fforwm Personau Cymwys

Crynodeb

Mae hwn yn gylchlythyr i gyhoeddi bod y diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy M wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ac i dynnu sylw at y darpariaethau trosiannol ar gyfer y newidiadau.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF48 1UZ  

Llinell Uniongyrchol:    0300 060 4440
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:    https://llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Cyflwyniad

  1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu'ch sylw at gyhoeddi diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy M (mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt) rhifyn 2004 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010.
  2. Bydd y diwygiadau i'r Ddogfen Gymeradwy yn dod i rym ar 3 Ionawr 2023 o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr hysbysiad ffurfiol o gymeradwyaeth yn Atodiad [A] i'r Cylchlythyr hwn.
  3. Diben y Cylchlythyr hwn gwneud y canlynol:

  • cyhoeddi bod y diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy M wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi
  • tynnu sylw at y darpariaethau trosiannol ar gyfer y newidiadau uchod
  1. Nid yw’r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar y gofynion technegol yn Rheoliadau Adeiladu 2010 gan fod Dogfennau Cymeradwy yn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Cwmpas

  1. Mae’r canllawiau yn y cylchlythyr hwn yn berthnasol i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru.

Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy M (mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt) rhifyn 2004 sy’n ymgorffori diwygiadau 2010

  1. Mae Dogfennau Cymeradwy yn darparu canllawiau statudol ar gymhwyso Rheoliadau Adeiladu a chydymffurfio â nhw. Mae slip diwygio, "Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy M", yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Cylchlythyr hwn ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r slip diwygio yn cynnwys canllawiau ar osod gofynion newydd ar gyfer darparu Toiledau Changing Places mewn adeiladau penodol.
  2. Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i adeiladau newydd ac adeiladau sy’n destun newid defnydd sylweddol.

Trefniadau trosiannol

  1. Mae’r diwygiadau i’r ddogfen gymeradwy yn dod i rym ar 3 Ionawr 2023. 

Nid yw'r diwygiadau'n berthnasol mewn unrhyw achos pan fo hysbysiad adeilad neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi i awdurdod lleol, neu lle y mae cynlluniau llawn wedi'u cyflwyno iddo, a naill ai bod y gwaith adeiladu y mae'n ymwneud ag ef:

(a) Wedi dechrau cyn y diwrnod hwnnw; neu

(b) erbyn 3 Mawrth 2023. 

Dogfennau cymeradwy

  1. Mae Atodiad A i’r Cylchlythyr hwn yn rhoi’r Hysbysiad Cymeradwyo i’r diwygiadau i’r Ddogfen Gymeradwy.

Rhagor o Wybodaeth

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Rheoliadau Adeiladu,
Llywodraeth Cymru,
Rhyd-y-car,
Merthyr Tudful,
CF48 1UZ.

Ffôn: 03000 628232.

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Neil Hemington

Prif Gynllunydd, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Atodiad A

Deddf Adeiladu 1984

HYSBYSIAD O GYMERADWYAETH I DDIWYGIO DOGFENNAU SY'N RHOI CANLLAWIAU YMARFEROL AR OFYNION RHEOLIADAU ADEILADU 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a nodir o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Ddogfen Gymeradwy a restrir isod at ddibenion rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) yng Nghymru yn unig.

Daw'r diwygiadau i rym ar 3 Ionawr 2023 ac eithrio mewn perthynas â gwaith y rhoddwyd hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol ar ei gyfer neu gynlluniau llawn a gyflwynwyd cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod y gwaith wedi dechrau cyn 3 Mawrth 2023.

Dogfen Gymeradwy Gofynion y Rheoliadau Adeiladu y caiff y ddogfen ei chymeradwyo mewn perthynas â nhw Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym
Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy M (Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt) rhifyn 2004 sy’n ymgorffori diwygiadau 2010.   Rhan M o Atodlen 1 3 Ionawr 2023