Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr

Owen Evans
Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Annwyl Owen,

Yn dilyn cyhoeddi cylch gwaith gwreiddiol Estyn ar gyfer 2025 i 2026 ar 03 Ebrill 2025, rwy'n ysgrifennu atoch i nodi’r diwygiadau i gylch gwaith Estyn ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026. Mae’r diwygiadau i’r cylch gwaith yn tynnu ynghyd y cyngor ychwanegol y bydd ei angen arnaf yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae manylion y cylch gwaith diwygiedig i'w gweld yn yr atodiad i'r llythyr hwn:

  • Mae rhan 1(a) yn cyfeirio at adroddiadau manwl a, lle bo'n briodol, adnoddau eraill sy’n tynnu ar dystiolaeth o arolygiadau thematig. Mae hefyd yn cynnwys yr arolygiad thematig canlynol:
    • Effeithiolrwydd y ddarpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal.
  • Mae Rhan 1(b) yn cyfeirio at gyngor parhaus yn seiliedig ar dystiolaeth o arolygiadau, gwaith ymgysylltu, a gweithgarwch arall.
  • Rhan 1(c) yw parhad y gwaith gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a consortia rhanbarthol/gwasanaethau gwella ysgolion i gefnogi ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion sy'n peri pryder.
  • Rhan 1(d) yw gweithredu trefniadau arolygu newydd yn y sectorau addysg gychwynnol athrawon (ITE) a dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau) o fis Medi 2025 ymlaen.
  • Mae Rhan 1(e) yn cyfeirio at gefnogi Medr.
  • Mae Rhan 1(f) yn cyfeirio at feysydd eraill y gallai fod angen cyngor a chymorth ar Lywodraeth Cymru ynghylch addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rwy'n fodlon bod y cylch gwaith hwn yn adlewyrchu'r gwaith y dylai Estyn ei wneud yn ystod 2025 i 2026. Os oes angen i flaenoriaethau newid, mae Gweinidogion Cymru yn cadw'r hawl, mewn ymgynghoriad â chi, i newid ffocws y cylch gwaith.

Bydd copi o’r cylch gwaith yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yn gywir,

Lynne Neagle AS/MS 
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Atodiad: y cyngor penodol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2025 i 2026

1a) Adroddiadau manwl a, lle bo'n briodol, adnoddau eraill sy’n tynnu ar dystiolaeth o arolygiadau thematig

Caiff yr adolygiadau thematig sydd i’w cynnwys yng nghylch gwaith Estyn ar gyfer 2025 i 2026

Adolygiad o Faes Dysgu a Phrofiad: Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Diben

Hwn fydd yr ail mewn cyfres o adolygiadau o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Bydd hyn yn canolbwyntio ar yr ystod oedran llawn o 3 i 16 oed. Bydd yr adolygiad yn ymdrin â chynllunio'r cwricwlwm, addysgu, asesu a chynnydd dysgwyr. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at arferion effeithiol.

Math o adolygiad

Adolygiad mawr

Cyllid

Llywodraeth Cymru

Cydberthnasau iach mewn ysgolion uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion
Diben

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried pa mor dda mae ysgolion uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bobl ifanc 11 i 16 oed am gydberthnasau iach. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut mae ysgolion yn cefnogi cydberthnasau iach cadarnhaol fel rhan o'u dull ysgol gyfan (er enghraifft, adeiladu diwylliant cadarnhaol a chefnogol, sefydlu polisïau ac arferion, ymyriadau) yn ogystal â thrwy addysgu fel rhan o’r llinyn grymuso, diogelwch a pharch yn eu darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, y llinyn cydberthnasau a hunaniaeth o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a'r Datganiad Cydberthnasau Iach yn y Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig yn y maes Iechyd a Lles. 

Bydd yr adolygiad hefyd yn asesu pa mor dda y mae staff ysgol yn cael eu cefnogi i ddarparu'r profiadau dysgu hyn, gan ystyried argaeledd ac effeithiolrwydd hyfforddiant, dysgu proffesiynol, a chymorth parhaus.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol

Cyllid

Llywodraeth Cymru

Presenoldeb a chyfranogiad mewn addysg mewn colegau addysg bellach a chweched dosbarth
Diben

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried lefelau presenoldeb a chyfranogiad mewn colegau addysg bellach a chweched dosbarth, gan wneud cymariaethau lle bo'n bosibl. Bydd yn ystyried tueddiadau ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr ac ar draws gwahanol feysydd pwnc a lefelau cwrs. Bydd yn ystyried ansawdd y cymorth a ddarperir i ddysgwyr.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol

Cyllid

Medr ar ran Llywodraeth Cymru

Adolygiad o Wasanaethau Lles Addysg
Diben

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried dull gweithredu gwasanaethau lles addysg ledled Cymru a'u heffaith wrth fynd i'r afael ag absenoldeb cyson. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu gwasanaethau lles addysg.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol

Cyllid

Llywodraeth Cymru

Cymorth yr awdurdodau lleol i ysgolion ar reoli eu cyllidebau
Diben

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried pa gyngor ariannol, gwybodaeth a hyfforddiant sydd ar gael i gefnogi ysgolion gyda chynllunio ariannol strategol a rheoli eu cyllideb. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r cymorth a ddarperir.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol

Cyllid

Llywodraeth Cymru

Y trefniadau ar gyfer dysgu unigol i ddisgyblion sy'n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol ac ansawdd y dysgu
Diben

Bydd yr adolygiad hwn yn craffu ar ddysgu unigol i ddisgyblion sy'n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Bydd yn ystyried amrywiadau mewn dulliau ar draws awdurdodau lleol ac ysgolion. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol

Cyllid

Llywodraeth Cymru

Ieithoedd rhyngwladol
Diben

Bydd yr adolygiad hwn yn gwerthuso'r addysgu a'r dysgu ar gyfer ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed yng Nghymru. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol trwy gynnwys cameos yn yr adroddiad. Bydd yn darparu adnodd dysgu proffesiynol i bawb sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer ieithoedd rhyngwladol a’u haddysgu.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol

Cyllid

Llywodraeth Cymru

Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI) mewn ysgolion a lleoliadau a gynhelir
Diben

Bydd yr adolygiad hwn yn edrych ar y ffordd y mae ysgolion a lleoliadau yn defnyddio AI Cynhyrchiol ar hyn o bryd yn yr ysgol. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau o arferion effeithiol a (neu) arloesol. Bydd hefyd yn tynnu sylw at yr heriau a brofir gan y sector. Bydd yr adroddiad yn darparu darlun o’r sefyllfa genedlaethol o ran defnydd ac effaith AI ar hyn o bryd mewn ysgolion a lleoliadau yng Nghymru.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol: 2il flwyddyn

Cyllid

Llywodraeth Cymru

Effeithiolrwydd y ddarpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal
Diben

Bydd yr adolygiad yn darparu gwybodaeth y gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion ei defnyddio i ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Math o adolygiad

Adolygiad safonol: blwyddyn 1af

Cyllid

Llywodraeth Cymru

1b) Cyngor parhaus yn seiliedig ar dystiolaeth o arolygiadau, gwaith ymgysylltu, a gweithgarwch arall

Mae Estyn yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn amrywiol feysydd. Yn ystod 2025 i 2026 bydd Estyn yn parhau i gasglu gwybodaeth o arolygiadau a gwaith ymgysylltu i gefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau addysg a hyfforddiant.

Bydd hyn yn arwain at gyngor parhaus drwy gyfarfodydd â swyddogion Llywodraeth Cymru ac yn llywio cyfraniadau Estyn i weithgorau cenedlaethol, y Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol, cyngor ysgrifenedig, canllawiau cyhoeddedig neu adroddiadau.

Yn seiliedig ar dystiolaeth a gesglir o arolygiadau, gwaith ymgysylltu a gweithgaredd arall, bydd Estyn hefyd yn darparu 'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar y canlynol:

  • gweithredu’r Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau
  • effaith cynllunio ar gyfer llythrennedd ar sgiliau darllen, ysgrifennu a llafaredd disgyblion
  • datblygu dealltwriaeth fathemategol a chymhwyso sgiliau rhifedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm
  • datblygu cymhwysedd digidol dysgwyr
  • datblygu dysgwyr fel meddylwyr annibynnol
  • effaith arweinyddiaeth ar addysgu
  • sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cyrraedd eu potensial
  • arferion effeithiol wrth hyrwyddo tegwch a chynhwysiant
  • dulliau o hyrwyddo presenoldeb rheolaidd ac ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion
  • sicrhau bod arferion diogelu effeithiol ar waith

Gellid gofyn i Estyn roi cymorth i amryw o wahanol weithgorau drwy ddod yn rhan ohonynt, cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, neu gynnal trafodaethau gydag uwch-swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg ac Addysg Drydyddol. Byddai hyn hefyd yn cynnwys cyngor a chymorth ar gyfer yr agweddau hynny ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sydd o fewn cylch gwaith Medr.

1c) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol/gwasanaethau gwella ysgolion i gefnogi ysgolion ac Unedau Uned Cyfeirio Disgyblion sy'n peri pryder

Bydd Estyn yn parhau i gydweithio â phartneriaid i sicrhau bod eu gwaith monitro a'u cefnogaeth i ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion sy'n peri pryder yn plethu gyda'r cymorth gwella ysgolion a ddarperir gan eraill.

1d) Gweithredu trefniadau arolygu newydd yn y sectorau addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau) o fis Medi 2025 ymlaen

Bydd Estyn yn ymgynghori ar drefniadau arolygu newydd yn y sectorau addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau) ac yn ei gweithredu o fis Medi 2025 ymlaen. Bydd y trefniadau hyn, lle bo'n berthnasol, yn adeiladu ar y rhai a gyflwynwyd yn y rhan fwyaf o sectorau eraill ym mis Medi 2024.

1e) Cefnogi Medr

Bydd Estyn yn cefnogi datblygiad parhaus Medr. Bydd Estyn yn gweithio gyda Medr a QAA (yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch) i ddatblygu canllawiau i ddarparwyr ar hunanwerthuso effeithiol a chynllunio gwelliant parhaus.

1f) Meysydd eraill y gall fod angen cyngor a chymorth ar Lywodraeth Cymru ynghylch addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Estyn hefyd yn darparu cefnogaeth barhaus yn ymwneud â’r canlynol:

  • cynigion yn ymwneud â chau ac ad-drefnu ysgolion
  • datblygu'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)
  • cofrestru ysgolion annibynnol, gan gynnwys ceisiadau am newid sylweddol
  • arolygu ysgolion annibynnol a’u monitro’n rheolaidd, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u cofrestru i gynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddysgwyr sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig (AAA) neu gynlluniau datblygu unigol
  • arolygu a monitro’n rheolaidd yr holl golegau arbenigol annibynnol yng Nghymru
  • datblygu cymwysterau a threfniadau arolygu ar gyfer unrhyw ofynion newydd arfaethedig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes
  • gwaith dilynol gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol
  • gweithio gyda thîm Anrhydeddau Canolog Llywodraeth Cymru i gyfrannu unrhyw wybodaeth berthnasol fel rhan o'u proses ar gyfer dilysu cyfeiriadau anrhydedd ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn darparwyr hyfforddiant ac addysg
  • gwybodaeth gefndirol ar gyfer cyfarfodydd Gweinidogol ac ymweliadau ag ysgolion a darparwyr eraill
  • cwestiynau i'r Senedd