Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiadau i'w cynnwys yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr a'r Rheoliadau cysylltiedig ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022 i 2023

Bydd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 ("Rheoliadau 2022") yn galluogi myfyrwyr cymwys i fod yn gymwys i gael Grantiau ar gyfer Dibynyddion wrth ddechrau cwrs dysgu o bell neu wrth barhau â chwrs dysgu o bell ar 1 Awst 2022 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae Rheoliadau 2022 hefyd yn gwneud diwygiadau mewn perthynas â Gwladolion Wcreinaidd ac aelodau o'u teuluoedd. Nodwyd y diwygiadau hyn yn SFWIN 06 2022 sydd i'w gweld yn Hysbysiad gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru: cymhwystra ar gyfer gwladolion Wcreinaidd ac aelodau o’u teuluoedd.

Mae Rheoliadau 2022 yn berthnasol ar gyfer y blynyddoedd academaidd sy'n cychwyn ar 1 Awst 2022 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ac yn gwneud y newidiadau a nodir isod.

Grantiau ar gyfer Dibynyddion – cyrsiau dysgu o bell

Taliadau grant i'r rhai sydd â dibynyddion yw’r Grantiau ar gyfer Dibynyddion, ac maent yn cynnwys y Lwfans Dysgu i Rieni, y Grant Oedolion Dibynnol, a'r Grant Gofal Plant. Nid yw myfyriwr israddedig sy'n dilyn cwrs dysgu o bell yn gymwys ar gyfer Grantiau ar gyfer Dibynyddion ar hyn o bryd. Mae hwnnw’n bolisi hirsefydlog.

Mae diwygiad yn cael ei wneud a fydd yn golygu y gall myfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell amserllawn a rhan-amser fod yn gymwys i gael Grant ar gyfer Dibynyddion. Y rhesymeg dros wneud y newid yw ei fod yn dod â grŵp ehangach o fyfyrwyr sy’n rhieni ac yn astudio cwrs addysg uwch i fod yn gymwys ar gyfer y Grant Gofal Plant, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at un o ymrwymiadau 'Rhaglen Lywodraethu' Llywodraeth Cymru. Mae'r Lwfans Dysgu i Rieni a'r Grant Oedolion Dibynnol yn lwfansau cyfradd safonol (£1,862 a £3,262 yn 2022 i 2023 yn y drefn honno) ac mae'r Grant Gofal Plant yn talu hyd at 85% o gostau gofal plant hyd at uchafswm o £184 yr wythnos ar gyfer un plentyn, a hyd at £315 yr wythnos ar gyfer dau blentyn neu fwy. Caiff myfyrwyr sy'n dilyn cwrs rhan-amser eu hasesu ar gyfer swm is o’r Grantiau ar gyfer Dibynyddion yn seiliedig ar ddwyster y cwrs y maent yn ei astudio o'i gymharu â chwrs amserllawn cyfatebol.

Rheoliadau

Dyma'r rheoliadau a fydd yn cael eu diwygio:

  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Ymholiadau

Gall darllenwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru neu â’u swyddog cyswllt arferol yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr/Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra. Gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru drwy: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.