Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiadau i’w cynnwys yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr a rheoliadau cysylltiedig ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022 i 2023

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Cymhwystra ar gyfer Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau 2022”) yn cael eu drafftio ar hyn o bryd ac unwaith y byddant wedi eu gwneud, byddant yn gwneud personau y rhoddir caniatâd iddynt aros o dan Gynllun Wcráin y Swyddfa Gartref (fel y’i diffinnir isod) yn gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref, a’r cap ar ffioedd dysgu israddedig wrth gychwyn neu barhau cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Mae Rheoliadau 2022, sydd i ddod i rym ar 1 Awst 2022, yn gymwys i flynyddoedd academaidd sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Awst 2022 ac maent yn gwneud y newidiadau fel y nodir isod.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi sicrhau bod tri llwybr mewnfudo ar gael i’r rheini sydd wedi eu dadleoli gan y gwrthdaro yn Wcráin: y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin a’r Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion Wcráin, y’u gelwir gyda’i gilydd yn Gynlluniau Wcráin. Mae pedwerydd llwybr ar gael, lle rhoddir caniatâd i aros y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo.

Bydd diwygiadau yn cael eu gwneud i reoliadau i wneud darpariaeth i’r rhai y rhoddir caniatâd iddynt aros o dan y Cynlluniau Wcráin neu y rhoddir caniatâd iddynt aros y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo i fod yn gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig ar gyrsiau Meistr, a doethurol, ac i fod yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref a’r cap ar ffioedd dysgu, yn unol â chategorïau eraill sy’n seiliedig ar warchod. 

Meinir prawf cymhwystra

Bydd person yn gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig, statws ffioedd cartref, a’r cap ar ffioedd dysgu israddedig mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Awst 2022 os yw’r person hwnnw:

  • wedi cael caniatâd i aros o dan y Cynlluniau Wcráin
  • wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo am reswm sy’n gysylltiedig â’r gwrthdaro yn Wcráin
  • yn arfer preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo aros o dan y Cynllun Wcráin neu y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo
  • yn arfer preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

Mae diwygiad yn cael ei wneud i alluogi person y rhoddir caniatâd iddo aros o dan y Cynlluniau Wcráin yn ystod blwyddyn academaidd i ddod yn gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref a chap ar ffioedd dysgu cyn belled â’i fod yn bodloni’r holl ofynion eraill, gan gynnwys y gofynion diwrnod cyntaf.

Terfynu cymhwystra

Bydd darpariaeth ‘terfynu’ yn cael ei hychwanegu at y Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 a’r Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 fel na fydd person nad oes ganddo bellach ganiatâd i aros o dan y Cynllun Wcráin na chaniatâd i aros y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo yn gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref na’r cap ar ffioedd dysgu.

Rheoliadau

Y rheoliadau i’w diwygio yw:

  • Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
  • Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
  • Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

Ymholiadau

Gall darllenwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru neu gyda’u cyswllt arferol yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr/Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gymhwystra. Gellir cysylltu â Llywodraeth Cymru ar: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.