Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r dystysgrif feddygol o achos marwolaeth a rôl archwilwyr meddygol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

O fis Ebrill 2024, bydd y diwygiadau hyn yn gwella mesurau diogelu ar gyfer y cyhoedd. Bydd archwilwyr meddygol yn craffu ymhellach ar amgylchiadau meddygol ac achosion marwolaethau, ac yn sicrhau bod y marwolaethau priodol yn cael eu cyfeirio at grwneriaid.

Mae rheoliadau drafft sy'n ymwneud ag ardystio marwolaethau a rôl archwilwyr meddygol yng Nghymru wedi'u cyhoeddi er gwybodaeth. Dylid darllen y rhain ar y cyd â rheoliadau drafft a trosolwg o'r diwygiadau ardystio marwolaeth sydd wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU. Mae'r rhain yn sail i'r diwygiadau a'r rheoliadau sy'n gymwys i Gymru a Lloegr.

Gellir anfon sylwadau at AnsawddANyrsio@llyw.cymru dros Gymru, neu i deathcertification@dhsc.gov.uk ar gyfer Llywodraeth y DU, erbyn 12 Ionawr 2024.

Nodwch y bydd sylwadau yn cael eu hystyried ond ni fydd modd ymateb iddynt yn unigol.

Cynulleidfa darged

  • sefydliadau GIG a gofal cymdeithasol
  • llywodraeth leol
  • y llywodraeth ganolog
  • gwasanaethau profedigaeth
  • diwydiant angladdau
  • cyrff proffesiynol a rheoleiddiol
  • grwpiau crefyddol neu ffydd
  • gwasanaethau'r crwner
  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • gwasanaethau cofrestru