Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau diwygio caffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ddiweddar, cawsom ddrafft cychwynnol o'r Bil Caffael arfaethedig gan Lywodraeth y DU i'w adolygu. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu'r Bil ac mae ein hadborth wedi'i ystyried. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddatrys unrhyw faterion sy’n weddill.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Carl Thomas, o’r Tîm Diwygio Caffael, a Sue Hurrell, o dîm y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, sesiwn dysgu dros ginio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ein cynnydd ar y ddau Fil pwysig yma. Mae'r sesiwn ar gael i'w gweld ar sianel YouTube Busnes Cymru.

Hoffem ddiolch i'r rhai a ddaeth i'r sesiwn. Byddwn yn cynnal mwy o sesiynau dysgu dros ginio wrth i'r Biliau fynd drwy'r Senedd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru