Neidio i'r prif gynnwy

Mae caffael yn faes cymhleth ac mae’n faes sy'n newid yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, er mwyn deall sut mae angen diwygio. Rydym wedi ystyried pa newidiadau sydd angen eu gwneud ar lefel y DU a'r hyn sydd angen digwydd gan ddefnyddio deddfwriaeth a ddatblygir yma yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei chynigion ar gyfer dyfodol caffael ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth y DU "Transforming Public Procurement" ac mae wedi cyflwyno’r opsiwn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio deddfwriaeth San Steffan i ddiwygio'r prosesau hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y cynnig hwn ac wedi cael gwarantau ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU i sicrhau, os byddwn yn gweithio gyda hwy ar hyn, y byddwn yn dal i allu cyflawni'r canlyniadau polisi pwysig a geisiwn drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Ar ôl ystyried y risgiau, y manteision, yr adnoddau, a’r sicrwydd a roddwyd, mae Prif Weinidog Cymru wedi derbyn y cynnig i wneud darpariaeth ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru ym Mil Llywodraeth y DU.

Er mwyn helpu i hwyluso hyn a gwella ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU, bydd dau aelod o Dîm Diwygio Caffael Llywodraeth Cymru yn cael eu secondio i Swyddfa Cabinet y DU am 3 diwrnod yr wythnos. Byddant yn gweithio yn y Tîm Diwygio Caffael am y 2 ddiwrnod arall er mwyn sicrhau dilyniant. Rydym hefyd wedi llwyddo i recriwtio i nifer o rolau newydd yn ein Tîm Diwygio Caffael ein hunain.

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi'r penderfyniad hwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch DiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru